- App Casnewydd Fyw
- Archebu Sesiwn a Chardiau Casnewydd Fyw
- Canllawiau
- Cyfleusterau ac Oriau Agor
- Loceri a Chyfleusterau Newid
- Aelodaeth
- Cymorth Personol
- Tenis
- Gwersi Tenis
- Campfeydd
- Dosbarthiadau ymarfer mewn grŵp
- Rhestrau Aros Dosbarthiadau Ymarfer Corff
- Nofio
- Nofio i Deuluoedd
- Gwersi Nofio
- Beicio i Blant
- Beicio Trac
- Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon
- Gweithgareddau Eraill
- Arall
Archebu SESIWN A CHARDIAU CASNEWYDD FYW
Bydd angen neilltuo pob dosbarth a gweithgaredd o flaen llaw. Bydd yn haws gwneud hyn ar-lein trwy’r ap a’n gwefan. I sicrhau bod eich cyfrif ar-lein wedi’i greu, ewch i https://newportlive.leisurecloud.net/Connect/mrmLogin.aspx
Os ydych eisoes yn aelod o Gasnewydd Fyw, dylech fod wedi cael neges e-bost sy’n cynnwys manylion sut i ailosod eich rhif pin.
Os oes arnoch angen cymorth i greu’ch cyfrif, anfonwch neges e-bost at enquiries@newportlive.co.uk
Os oes gennych gyfrif ar-lein neu os ydych wedi cael cerdyn Casnewydd Fyw o’r blaen, mae’n rhwydd neilltuo sesiwn trwy’r ap Casnewydd Fyw sydd ar gael ar gyfer Apple ac Android. Lawrlwythwch ef yma
Cliciwch yma i weld ein fideos sy’n cynnwys rhagor o fanylion am sut i sefydlu eich ap Casnewydd Fyw.
Gallwch. Gyda Thalu a Chwarae, gallwch neilltuo ar-lein a thalu am eich dosbarth neu sesiwn yn unigol. Bydd arnoch angen cyfrif ar-lein a cherdyn Casnewydd Fyw o hyd.
Am resymau diogelwch, bydd arnoch angen cerdyn Casnewydd Fyw i ddefnyddio ein holl gyfleusterau a gwasanaethau gan fod hyn yn caniatáu i ni fonitro faint o bobl sy’n defnyddio ein lleoliadau a chefnogi gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru, os bydd angen.
Os nad oes gennych gerdyn, gallwch greu eich cyfrif ar-lein yma https://newportlive.leisurecloud.net/joinathome/MemberRegistration.aspx
Pan fyddwch yn ymweld am y tro cyntaf, casglwch eich cerdyn Casnewydd Fyw o’r dderbynfa. Bydd angen i chi gael tynnu’ch llun hefyd a bydd angen i chi gael sesiwn Croeso i Aelodau cyn defnyddio’r gampfa.
Os ydych wedi colli’ch cerdyn, anfonwch neges e-bost at enquiries@newportlive.co.uk, gan nodi’ch enw, cod post, dyddiad geni a rhif cwsmer, os ydych yn ei wybod. Rhowch wybod i ni hefyd ba un o’n safleoedd y byddwch yn ymweld ag ef fel y gallwn sicrhau bod eich cerdyn yn barod i chi ei gasglu o’r dderbynfa pan fyddwch yn cyrraedd ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Efallai y bydd angen i chi gael tynnu’ch llun hefyd os nad yw eisoes ar ein system.
Gallwch, ond efallai y bydd rhaid i chi adael y ganolfan ar ôl eich sesiwn gyntaf a dod yn ôl ar gyfer sesiynau dilynol.
App Casnewydd Fyw
Gallwch archebu amrywiaeth o weithgareddau ar ap Casnewydd Fyw gan gynnwys -
• Sesiynau yn y gampfa
• Cymorth Personol
• Dosbarthiadau ymarfer corff
• Sesiynau Nofio Cyhoeddus a Nofio i Deuluoedd
• Cyrtiau Tennis
• Sesiynau Tenis i Oedolion
• Beicio Trac
• Beicio i Blant
• Cyrtiau Badminton a Thennis Bwrdd
Gallwch hefyd ddefnyddio'r ap i gael mynediad i'r Hafan i weld gwersi nofio eich plentyn a dilyn ei gynnydd.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ychwanegu ein tri chlwb at eich app: Canolfan Byw'n Actif, Canolfan Casnewydd a Phentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd ac yna, i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein diweddariadau gwasanaeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn 'Hysbysiadau Gwthio' ar gyfer 'fy holl glybiau'. Yn olaf, bydd angen eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif personol 4 digid arnoch i fewngofnodi.
Dilynwch y ddolen isod i ailosod eich rhif. Gofynnir i chi roi eich cyfeiriad e-bost ac efallai y gofynnir i chi roi rhif aelod. Noder y bydd angen i'ch cyfeiriad e-bost gyfateb i'r un a gedwir ar eich cyfrif â ni. Nid y rhif sydd ar eich cerdyn Casnewydd Fyw gwyrdd neu lwyd yw eich rhif aelod.
https://newportlive.leisurecloud.net/Connect/MemberManagement/MRMpasswordrequest.aspx
Wrth ailosod eich rhif personol efallai y gofynnir i chi roi eich Rhif Aelod. Mae hyn yn golygu bod gennym un cyfrif neu fwy wedi'i gofrestru dan y cyfeiriad e-bost rydych chi'n ceisio'i ddefnyddio ac mae arnom angen gwybod pa gyfrif yr hoffech ei ailosod
Nid dyma'r rhif ar eich Cerdyn Casnewydd Fyw gwyrdd neu lwyd. Mae eich Rhif Aelod ar eich e-bost croeso neu os nad ydy’r e-bost hwn gennych chi, neu os oes angen Rhif Aelod ar gyfer cyfrif aelodau o'r teulu anfonwch e-bost i enquiries@newportlive.co.uk cadarnhewch enw llawn, dyddiad geni a chod post cyfrif sy'n gofyn am rhif adnabod personol newydd
Cewch. Gallwch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost ar gyfer nifer o gyfrifon, bydd angen Rhif Aelod ar gyfer pob cyfrif wrth ofyn am neu ailosod rhif personol.
Os nad ydych chi wedi bod mewn sesiwn croesawu aelodau, ni fyddwch yn gallu defnyddio'r ap i archebu sesiwn campfa nes i chi wneud hynny. Archebwch sesiwn croesawu aelodau drwy'r ap neu ffoniwch y tîm ar 01633 656757, a gallant eich helpu.
Os na allwch archebu sesiwn ar yr ap y dylech gael mynediad iddi ffoniwch y tîm ar 01633 656757, a gallant eich helpu.
Gall aelodau ddefnyddio'r ap i archebu gweithgareddau 8 diwrnod ymlaen llaw. Gall cwsmeriaid talu a chwarae archebu 4 diwrnod ymlaen llaw.
Gallwch ddewis a thoglo rhwng lleoliadau wrth fynd i mewn i 'Dewislen (tair llinell lorweddol)' a chlicio ar 'Fy Nghlybiau'.
Gallwch ofyn am eich rhif personol ar yr ap drwy sgrolio i waelod y dudalen a dewis 'Wedi Anghofio’r Rhif Personol.’ Yna, gofynnir i chi roi eich cyfeiriad e-bost.
Gallai hyn fod oherwydd nifer o bethau gan gynnwys:
• Swm heb ei dalu ar eich cyfrif
• Cyfrif cysylltiedig
• Aelodaeth wedi’i chanslo
Cysylltwch â ni ar 01633 656757 neu e-bostiwch enquiries@newportlive.co.uk os ydych yn cael unrhyw un o'r problemau uchod.
Sylwch fod angen achrediadau lefel uwch ar gyfer rhai sesiynau. Os nad yw'n glir pa gam mae ei angen ar gyfer eich archeb, cysylltwch â ni ar 01633 656757
Oherwydd Tracio, Olrhain a Diogelu mae angen manylion pob unigolyn arnom sydd ar fin mynychu ein sesiynau. Am y rheswm hwn ni fyddwch yn gallu archebu nifer o sesiynau drwy eich cyfrif. Os oes gennych fanylion cyfrif y personau ychwanegol, allgofnodi o'ch cyfrif ar yr app a mewngofnodi gan ddefnyddio manylion y personau ychwanegol
Pan fyddwch wedi mewngofnodi i'r ap gyda'ch cyfrif dewiswch y blwch 'Fy Archeb' i weld y gweithgareddau sydd gennych chi ar y gweill
Gallwch, gallwch ganslo eich gweithgareddau a'ch sesiynau hyd at 30 munud cyn amser cychwyn y gweithgareddau neu'r sesiynau.
CANLLAWIAU
Rydyn ni wedi rhoi canllawiau ychwanegol ar waith i gadw cwsmeriaid a staff yn ddiogel. Rydyn ni’n dilyn canllawiau a osodwyd gan UK Active ar gyfer y diwydiant ffitrwydd.
Mae’r rhain yn cynnwys:
• Gofyniad i neilltuo pob sesiwn o flaen llaw
• Llai o ddefnyddwyr yn yr adeilad
• Adleoli campfeydd ac offer, gyda pheiriannau wedi’u gosod ymhellach oddi wrth ei gilydd
• Newidiadau i’n hamserlenni ac adleoli ein dosbarthiadau
• Trefniadau glanhau mwy trwyadl
• Arwyddion cyfeiriad a chadw pellter cymdeithasol i’w dilyn wrth i chi symud o gwmpas ein hadeiladau
Mae ein holl ganllawiau ar gael yma a gofynnwn i chi ymgyfarwyddo â nhw cyn cyrraedd.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, byddwn yn gofyn i chi wisgo gorchudd wyneb ym mhob canolfan a chyfleuster Casnewydd Fyw gan gynnwys mewn ystafelloedd newid, toiledau ac wrth symud o beiriant i beiriant yn ardaloedd y gampfa.
Nid yw'n ofynnol i chi wisgo masg os;
- Rydych yn cymryd rhan mewn ymarfer corff neu chwaraeon e.e. mewn campfa, dosbarth ffitrwydd eu bwll nofio neu wrth reidio Trac y Felodrom lle y mae gennym fesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith. Bydd angen i chi wisgo eich mwgwd ar y ffordd i’ch gweithgaredd ac yn ôl yn ogystal ag wrth symud o beiriant i beiriant yn y gampfa.
- Rydych chi dan 11 oed.
- Rydych chi'n eistedd yn ardal y caffi yn y Pwll a’r Ganolfan Tennis wrth fwyta lluniaeth.
- Mae gennych esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb (e.e. rhesymau iechyd).
Mae mwy o fanylion ar wefan Llywodraeth Cymru yma https://gov.wales/face-coverings-guidance-public
CYFLEUSTERAU AC ORIAU AGOR
Mae'r canlynol ar agor:
Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas
Y Gampfa a Dosbarthiadau Ymarfer mewn Grŵp (gan gynnwys Beicio Dan Do mewn Grŵp)
Tenis Bwrdd a llogi llys badminton
Beicio Trac
Y Gampfa a Dosbarthiadau Ymarfer mewn Grŵp
Llogi llys badminton a phicl
Bydd y pwll nofio yng Nghanolfan Casnewydd yn aros ar gau. Mae rhagor o fanylion ar gael yma
Y Canolfan Tenis a Nofio Rhanbarthol
Y Gampfa
Y Pwll Nofio
Cyrtiau Tennis (hurio cwrt a gwersi tenis)
Dosbarthiadau Ymarfer mewn Grŵp
Caffi
Y Ganolfan Byw’n Actif
Y Gampfa
Y Pwll Nofio
Dosbarthiadau Ymarfer mewn Grŵp
Llogi llys badminton a tenis bwrdd
Ar agor ar hyn o bryd ar gyfer Llogi ystafelloedd
Gwiriwch ein tudalen oriau agor i gael y wybodaeth ddiweddaraf am pryd y mae ein cyfleusterau ar agor.
Gwiriwch ein tudalen archebu ar-lein am fanylion amserau sesiynau ffitrwydd ac ymarfer.
Gallwch parcio am ddim am 2 awr yng Nghanolfan Casnewydd.
Er na fydd ein prif raglen theatr yn mynd rhagddi, rydym yn gobeithio y bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon yn ailagor blwyddyn yma wrth i ni geisio cyflwyno ffyrdd amgen o ddifyrru pobl, gan gynnwys yn ystod cyfnod y Nadolig, yn ogystal â'u helpu i fod yn greadigol a chefnogi eu lles corfforol a meddyliol.
Rydyn ni’n gweithio ar gyfleoedd eraill i ddiddanu ein cwsmeriaid a chefnogi artistiaid. Yn dilyn cais llwyddiannus i Gronfa Sefydlogi Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Sefydliadau, byddwn yn lansio rhaglen o ddosbarthiadau, gweithdai a deunyddiau addysgol ar-lein, wedi eu datblygu o raglen bresennol y theatr, yn cynnwys dawns, cerddoriaeth, drama a dosbarthiadau ffitrwydd wedi eu seilio ar y celfyddydau. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid yn ogystal â chomisiynu artistiaid lleol y byddwn yn eu helpu drwy roi mynediad iddyn nhw at gyfleusterau Glan-yr-Afon fel y gallan nhw gynnig eu rhaglen bresennol ar-lein a datblygu gwaith newydd.
Yn y cyfamser, dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn rhannu perfformiadau a gweithgareddau creadigol eraill gan sefydliadau gwych eraill er mwyn i chi roi cynnig arnyn nhw!
LOCERI A CHYFLEUSTERAU NEWID
Mae ystafelloedd newid ochr sych bellach ar gael gyda chapasiti cyfyngedig yng Nghanolfan Casnewydd, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint a'r Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol. Os ydych yn nofio, dewch ‘yn barod i’r traeth’.
Byddant, ond dim ond 1 unigolyn ar y tro gaiff eu defnyddio.
AELODAETH
Gallwch. Mae rhagor o fanylion am yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn ein haelodaeth ar gael yma
Sylwer, efallai na fydd rhai elfennau o’n haelodaeth ar gael hyd nes bydd ein gwasanaethau’n ailagor yn llawn.
Anfonwch neges e-bost at enquiries@newportlive.co.uk a siaradwch ag aelod o’n tîm a fydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw ymholiadau.
Os nad ydych yn barod i ddychwelyd eto, ac nad yw aelod o'n tîm wedi cysylltu â chi, anfonwch e-bost at enquiries@newportlive.co.uk
Nac oes, gyda Thalu a Chwarae, gallwch neilltuo ar-lein a thalu am eich dosbarth neu sesiwn yn unigol. Bydd arnoch angen cyfrif ar-lein a cherdyn Casnewydd Fyw o hyd.
Ydym, mae rhagor o wybodaeth ar y pas am ddim 5 diwrnod i'w chael yma
CYMORTH PERSONOL
Gallwch ddarganfod pa gymorth personol sydd ar gael ar hyn o bryd yma.
Rydyn ni’n bwriadu ailgyflwyno archwiliadau iechyd, rhaglenni a sesiynau un i un yn fuan iawn. Rhaid i'r holl sydd ar gael gael eu harchebu ymlaen llaw drwy'r ap, ar-lein neu ar y ffôn.
I’ch helpu i ymarfer a gwella eich lles gartref, yn yr awyr agored neu gyda ni yn ein canolfannau, rydyn ni wedi lansio’r ap Iach ac Actif. Darperir yr ap trwy MyWellness gan Technogym a bydd yn caniatáu i chi reoli eich rhaglen hyfforddi, cofnodi mesuriadau eich corff, dilyn sesiynau ymarfer ar-lein a chael cymorth hyfforddi gan ein hyfforddwyr.
Dysgwch fwy yma
Tenis
Mae Cyrtiau Tenis dan do ac awyr agored ar gael trwy neilltuo lle yn unig ar gyfer uchafswm o 4 o bobl am 50 munud.
Bydd cyrtiau y tu allan i oriau brig ar gael o 6:45am a bydd cyrtiau oriau brig ar gael o 4:45pm.
Cyrtiau Tenis Dan Do
Bydd sesiynau wedi’u neilltuo yn dechrau 45 munud wedi’r awr (e.e. 6.45am - 7.30am).
Cyrtiau Tenis Awyr Agored
Bydd sesiynau wedi’u neilltuo yn dechrau ar yr awr (e.e. 6am – 6.50am).
Gall aelodau neilltuo cwrt 8 diwrnod o flaen llaw, a gall pobl nad ydynt yn aelodau neilltuo cwrt 4 diwrnod o flaen llaw.
Neilltuwch ar-lein neu drwy ap Newport Live
Gwersi a Gweithgareddau Cymdeithasol
Mae gwersi tennis a gweithgareddau cymdeithasu wedi dychwelyd. Rhagor o fanylion yma
Bydd rhaglenni eraill a sesiynau tennis hygyrch yn dychwelyd yn ddiweddarach. Ni fydd archebion cwrt tennis 30 munud a gwersi preifat ar gael nes y rhoddir rhybudd pellach.
O Fedi'r 1af ymlaen bydd angen i bob cwsmer sy'n defnyddio'r cyrtiau tenis fel gwestai i aelod gael cerdyn Casnewydd Fyw ar gyfer eu gweithgaredd gyda ffi fechan. Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn fuan.
Ni fyddwch yn gallu neilltuo cyrtiau tennis am 30 munud na chael gwersi preifat hyd nes y rhoddir gwybod fel arall.
- Mae’n rhaid i’r holl gwsmeriaid sydd wedi neilltuo cwrt ddod i mewn i’r cyfleuster gyda’i gilydd. Arhoswch yn eich car neu i ffwrdd oddi wrth fynedfa’r cyfleuster nes bod yr holl unigolion sy’n rhan o’r sesiwn a neilltuwyd gennych wedi cyrraedd. Pan fydd yr holl bartïon wedi cyrraedd, arhoswch wrth y man ciwio dynodedig y tu allan i adeilad y Pwll Nofio a’r Ganolfan Tennis ac arhoswch i staff y dderbynfa eich cofrestru.
- Ni chaniateir unrhyw wylwyr.
- Ni chaniateir tyweli
- Ni fyddwn yn gallu caniatáu hurio offer tennis, ond mae’n bosibl y bydd rhai darnau o offer ar gael i’w gwerthu yn y dderbynfa.
- Ar ôl eich gweithgaredd, gadewch yr adeilad yn syth gan ddilyn unrhyw arwyddion cyfeiriad a chadw pellter cymdeithasol.
Mae ein canllawiau llawn ar gael yma
gwersi tenis
Lle bo modd, rydym wedi ceisio cadw eich gwers denis mor debyg â phosibl i’r sesiwn roeddech chi’n ei mynychu cyn y cyfnod cloi. Fodd bynnag, gwnaed newidiadau o ran nifer y lleoedd sydd ar gael ac mae angen amser ychwanegol i reoli gofynion y rhaglen, felly efallai y bydd angen i ni gynnig sesiwn arall i chi.
Os yw eich plentyn wedi cael pen-blwydd sy'n golygu y dylai fod mewn sesiwn wahanol erbyn hyn, yna bydd wedi cael ei symud yn unol â hynny.
Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau amser a dyddiad eich sesiwn. Os nad yw hyn yn addas, bydd angen i chi gysylltu â'n tîm ymholiadau yn enquiries@newportlive.co.uk a fydd yn ceisio dod o hyd i sesiwn arall i chi.
Byddwn yn canslo eich debyd uniongyrchol ac yn eich tynnu o'ch gwersi. Yn anffodus, ni allwn gadw eich lle gwers dennis i chi gan fod nifer y lleoedd yn brin. Rhowch wybod i ni trwy e-bost os nad ydych am ddychwelyd i'r rhaglen. Rhowch eich enw, enw eich plentyn, eich cod post a dyddiad geni eich plentyn.
Mae ystafelloedd newid ochr sych bellach ar gael gyda chapasiti cyfyngedig yng Nghanolfan Tenis a Nofio Ranbarthol.
Bydd toiledau ar gael. Mae cyfyngiadau ar bob toiled i alluogi 1 person ar unrhyw un adeg i fod yn yr ardal.
Na, ni fydd modd i’n rhaglen ddarparu ar gyfer gwylwyr. Bydd angen i rieni gwrdd â Hyfforddwr Tenis eu plentyn o flaen y Ganolfan Denis wrth y drysau Mynedfa/Allanfa mawr y tu allan i Gwrt Dan Do 1. Yna, bydd yr Hyfforddwr Tenis yn cymryd cofrestr ar gyfer y grŵp ac yn gofyn i bob rhiant nodi enw’r person fydd yn casglu'r plentyn ar ddiwedd y sesiwn. Bydd yr Hyfforddwr Tenis wedyn yn gofyn i bob chwaraewr ddiheintio ei ddwylo wrth fynd i mewn i'r cyrtiau a bydd yn arwain y grŵp i'r cwrt priodol. Ar ddiwedd y wers denis, bydd angen i rieni aros y tu allan i'r ganolfan tennis i gasglu plant a bydd gofyn iddynt roi'r enw a nodwyd fyddai’n casglu.
Mae Rhaglenni Tenis Bach, Tenis y Glasoed a Thenis i Oedolion wedi dychwelyd.
Caiff y sesiynau hyn eu hadolygu a byddwn yn ystyried eu cyflwyno yn fuan.
Bydd pob plentyn yn cael ei asesu yn ystod wythnosau cyntaf y rhaglen a bydd hyfforddwyr yn eu cyfeirio at y lefel briodol os oes angen newid.
Mae Tenis Cymdeithasol wedi dychwelyd. Bydd y sesiynau eraill yn cael eu hadolygu, a byddwn yn ceisio eu dychwelyd yn raddol yn ystod mis Medi yn amodol ar argaeledd cyrtiau.
Ydyn, mae’r prisiau canlynol bellach yn berthnasol:
Tenis Bach Coch (Gwers Awr): £24.75
Tenis Bach Oren, Tennis Bach Gwyrdd, Tennis y Glasoed (Gwers Awr): £25.50
Tenis i Oedolion (Gwers Awr): £28.00
Aelodaeth / Gwers |
Taliad misol newydd - |
Taliad misol newydd - 2 gwers yr wythnos |
Tenis Bach Coch DD | £24.75 | £49.50 |
Tenis Bach Oren DD | £25.50 | £51.00 |
Tenis Bach Gwyrdd DD | £25.50 | £51.00 |
Melyn DD | £25.50 | £51.00 |
Tenis i Oedolion DD | £28.00 | £56.00 |
Tenis Bach Coch = hyd at 8
Tenis Bach Oren/Gwyrdd a Melyn (Glasoed) = hyd at 6
Oedolion = hyd at 8 (wedi’u dosbarthu ar draws dau gwrt)
Lle bynnag y bo modd, dewch â'ch raced eich hun. Bydd racedi ar gael os bydd angen. Bydd gennym stoc gyfyngedig o racedi i'w gwerthu o £20.
Caiff debydau uniongyrchol eu casglu o 1 Medi a’r 1af o bob mis ar ôl hynny.
CAMPFEYDD
Mae campfeydd ar gael yng Nghanolfan Casnewydd, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, y Ganolfan Byw’n Actif a’r Ganolfan Tenis a Nofio Rhanbarthol. Mae’r holl gampfeydd wedi cael eu hymestyn i ardaloedd newydd er mwyn cynyddu’r gofod rhwng peiriannau, felly efallai y bydd yr offer rydych yn gyfarwydd â’i ddefnyddio wedi symud.
Mae gennym ni gampfa newydd sbon hefyd yn y Ganolfan Tenis a Nofio Rhanbarthol l gydag offer Technogym ychwanegol, gan gynnwys Biogylched – sesiwn ymarfer 30 munud newydd sbon wedi’i theilwra i chi. Mae’r offer yn addasu i’ch corff ac yn eich arwain wrth i chi ddatblygu.
Bydd sesiynau yn y gampfa ar gael bob awr ac mae’n rhaid eu neilltuo o flaen llaw.
Gall aelodau neilltuo’r gampfa 8 diwrnod o flaen llaw, a gall pobl nad ydynt yn aelodau neilltuo’r gampfa 6 diwrnod o flaen llaw.
Archebwch ar-lein neu drwy ap Casnewydd Fyw
Ydy, mae'r ardal bwystfilod rhydd yn felodrom Geraint Thomas ar gael i'w archebu ymlaen llaw yn dilyn y broses uchod.
Ni chaniateir sylwi yn yr ardal pwysau rhydd.
Na, dydy'r gampfa Easyline ddim ar gael.
Yn anffodus, yr ydym yn atal ein dosbarthiadau ymarfer corff awyr agored wrth inni symud i'r hydref. Gobeithiwn eu had-lansio yn y gwanwyn.
• Mae’n rhaid neilltuo sesiynau o flaen llaw a byddant yn para 60 munud ar y mwyaf er mwyn caniatáu 15 munud i lanhau rhwng sesiynau sydd ar gael i’w neilltuo.
• Mae’n rhaid i gwsmeriaid lanhau peiriant cyn ac ar ôl ei ddefnyddio.
• Ni chaniateir tyweli. Dewch a’ch diod eich hun.
• Mae ystafelloedd newid ochr sych bellach ar gael gyda chapasiti cyfyngedig yng Nghanolfan Casnewydd, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint a'r Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol.
• Peidiwch â chyrraedd mwy na 5 munud cyn i’ch sesiwn ddechrau. Os cyrhaeddwch yn gynnar, does dim gofyn i chi giwio mwyach y tu allan i’r gampfa er mwyn mynd i ddosbarth a defnyddio’r cyfleusterau oni bai fod nifer o bobl eisoes yn ardal y dderbynfa. Os cyrhaeddwch yn gynnar ar gyfer eihc sesiwn gallwch ddod i mewn i’r gampfa cyn y sesiwn sydd wedi ei harchebu gennych ond bydd gofyn i chi gael eich cofrestru i’r sesiwn flaenorol hefyd a hynny at ddibenion tracio ac olrhain. Mae hyn yn amodol ar argaeledd.
• Bydd arnoch angen eich cerdyn Casnewydd Fyw i gael mynediad i’r gampfa.
• Ar ôl eich gweithgaredd, gadewch yr adeilad yn syth gan ddilyn unrhyw arwyddion cyfeiriad a chadw pellter cymdeithasol.
Mae ein canllawiau llawn ar gael yma
Gall plant 11-13 oed ddefnyddio’r gampfa ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn.
Gall plant 14 oed a hŷn ddefnyddio’r gampfa ar eu pen eu hunain.
I archebu sesiwn, rhaid i chi drefnu a mynychu cyfarfod i aelod yn gyntaf.
Gallwch archebu ar-lein neu are y app.
DOSBARTHIADAU YMARFER MEWN GRŴP
Mae dosbarthiadau ar gael yng Nghanolfan Casnewydd, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, y Ganolfan Byw’n Actif a’r Ganolfan Tenis a Nofio Rhanbarthol.
Mae’n bosibl y bydd dosbarthiadau wedi cael eu hadleoli i ardaloedd newydd i ganiatáu i chi ymarfer ar bellter diogel oddi wrth bobl eraill.
Rydyn ni wedi newid ein hamserlen, ond bydd llawer o’ch hoff ddosbarthiadau ar gael o hyd, gan gynnwys Beicio Dan Do mewn Grŵp, Ioga a Zumba.
Rhaid archebu dosbarthiadau o flaen llaw.
Gall aelodau neilltuo dosbarthiadau 8 diwrnod o flaen llaw, a gall pobl nad ydynt yn aelodau neilltuo dosbarthiadau 4 diwrnod o flaen llaw.
Gallwch weld ein hamserlen a neilltuo dosbarth yma neu drwy ap Casnewydd Fyw
Yn anffodus, o ganlyniad i newidiadau i gapasiti yn ein pyllau a’n hamserlenni, nid ydym yn gallu cynnig i gyd o'r dosbarthiadau Aqua ar hyn o bryd. Ond gobeithiwn allu cyflwyno’r rhain yn fuan.
Yn anffodus, yr ydym yn atal ein dosbarthiadau ymarfer corff awyr agored wrth inni symud i'r hydref. Gobeithiwn eu had-lansio yn y gwanwyn.
Oes, mae gan Stiwdio Beicio Grŵp Dan Do gapasiti llai o 10 o bobl ar gyfer dosbarthiadau rhithwir yn unig. Mae dosbarthiadau dan arweiniad hyfforddwr ar gael ac wedi cael eu hadleoli i ganol y trac felodrom.
• Mae’n rhaid neilltuo sesiynau o flaen llaw.
• Mae rhai dosbarthiadau wedi cael eu hadleoli i fannau newydd i sicrhau bod yr holl gwsmeriaid yn gallu cadw pellter diogel oddi wrth ei gilydd. Bydd y llawr wedi’i farcio â blychau ar gyfer pob cwsmer i sicrhau eich diogelwch.
• Mae’n rhaid i gwsmeriaid lanhau peiriant cyn ac ar ôl ei ddefnyddio.
• Ni chaniateir tyweli
• Mae ystafelloedd newid ochr sych bellach ar gael gyda chapasiti cyfyngedig yng Nghanolfan Casnewydd, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint a'r Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol.
• Peidiwch â chyrraedd mwy na 5 munud cyn i’ch sesiwn ddechrau.
• Bydd arnoch angen eich cerdyn Casnewydd Fyw i fynychu dosbarth.
• Ar ôl eich gweithgaredd, gadewch yr adeilad yn syth gan ddilyn unrhyw arwyddion cyfeiriad a chadw pellter cymdeithasol.
Mae ein canllawiau llawn ar gael yma
Rhestrau Aros Dosbarthiadau Ymarfer Corff
Oherwydd canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, uchafswm o 15 person a ganiateir i gymryd rhan mewn gweithgarwch grŵp wedi'i drefnu dan do o ddydd Llun 9 Tachwedd 2020.
Oherwydd y cyfyngiadau hyn mae niferoedd ein dosbarthiadau wedi gostwng yn sylweddol ac am y rheswm hwn rydym wedi cyflwyno rhestrau aros ar gyfer ein dosbarthiadau ymarfer corff mwy poblogaidd. Drwy wneud hynny, bydd yn caniatáu i gwsmeriaid sydd am ddod i ddosbarth sydd eisoes yn llawn gael lle ar y rhestr aros ac os bydd lle ar gael ar gyfer y dosbarth o'u dewis, cysylltir â nhw drwy e-bost.
Gall cwsmeriaid ymuno â rhestr aros drwy Connect neu drwy ddefnyddio App Casnewydd Fyw (yr app archebu pinc), y gellir ei lawrlwytho yma.
Gallwch hefyd ffonio Canolfan Gyswllt Casnewydd Fyw ar 01633 656757 neu drwy ddefnyddio'r bot gwesgyrsio ar wefan Casnewydd Fyw i' gael eich ychwanegu at restr aros.
Os bydd lle ar gael, anfonir e-bost yn awtomatig at gwsmeriaid yn eu hannog i fewngofnodi i'w cyfrifon ac archebu eu lle yn y dosbarth. Anfonir yr e-bost at bob cwsmer ar y rhestr aros ac felly, mae lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
Gall Canolfan Gyswllt Casnewydd Fyw a Thimau’r Dderbynfa o bryd i'w gilydd hefyd gysylltu â chwsmeriaid ar y rhestr aros yn uniongyrchol os bydd unrhyw leoedd ar gael ar fyr rybudd.
Ar ôl i chi fewngofnodi i'ch cyfrif Connect ac wedi dewis eich dosbarthiadau ymarfer corff, bydd neges yn ymddangos ar y sgrin yn dweud bod y dosbarth yn llawn, a gellir eich ychwanegu at y rhestr aros.
Yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin, unwaith y byddwch wedi archebu lle'n llwyddiannus ar restr aros dosbarthiadau byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich archeb ond 'Heb ei chadarnhau'.
Ar ôl i chi fewngofnodi i'ch cyfrif drwy’r app Casnewydd Fyw (yr app archebu pinc) ac wedi dewis eich dosbarthiadau ymarfer corff, bydd neges yn ymddangos ar y sgrin yn dweud bod y dosbarth yn llawn, a gellir eich ychwanegu at y rhestr aros. Cliciwch 'Book' a byddwch yn cael eich ychwanegu at y rhestr aros.
Gall aelodau ganslo drwy Connect neu gan ddefnyddio App Casnewydd Fyw (yr app archebu pinc) hyd at 30 munud cyn i ddosbarthiadau ddechrau. Mewngofnodwch i'ch cyfrif, dewch o hyd i'r dosbarth yr oeddech i fod i'w fynychu a chlicio 'Canslo'. Yna cewch eich tynnu oddi ar y rhestr aros.
Os na allwch fynd i ddosbarth mwyach, canslwch cyn gynted â phosibl gan fod lleoedd mewn dosbarthiadau ymarfer corff yn gyfyngedig, felly gall aelod arall / defnyddiwr talu a chwarae arall gymryd eich lle.
Gallwch ganslo eich lle gan ddefnyddio Connect, drwy App Casnewydd Fyw (yr app archebu pinc), drwy ffonio 01633 656757 neu drwy e-bostio enquiries@newportlive.co.uk
Os yw eich manylion cyswllt yn anghywir ar ein cofnodion, gall hyn eich atal rhag derbyn negeseuon e-bost hysbysu neu alwadau bod lle ar gael yn eich dosbarth dewisol, cysylltwch â'n Canolfan Gyswllt drwy ffonio 01633 656757 neu e-bostio enquiries@newportlive.co.uk
NOFIO
Bydd nofio ar gael yn y Ganolfan Byw’n Actif a’r Pwll Nofio a’r Ganolfan Tenis a Nofio Rhanbarthol.
Bydd y pwll nofio yng Nghanolfan Casnewydd yn aros ar gau. Mae rhagor o fanylion ar gael yma
Gwnaeth clwb nofio Dinas Casnewydd dychwelyd ar 10 Awst. Os ydych yn y clwb nofio cysylltir â chi yn uniongyrchol i gadarnhau eich bod yn dychwelyd.
Oes, mae’n rhaid neilltuo sesiwn nofio o flaen llaw.
Bydd y prif byllau yn y ddau leoliad ar gyfer nofio mewn lonydd yn unig. Bydd angen i chi neilltuo lôn sy’n berthnasol i’ch cyflymder nofio gan na fyddwch yn gallu goddiweddyd. Ni chaniateir nofio ar y cefn. Bydd y sesiynau’n para 60 munud ar y mwyaf i ganiatáu i’n staff lanhau.
Mae'r Pwll Addysgu yn y Ganolfan Tenis a Nofio Rhanbarthol ar gael ar gyfer gwersi nofio a nofio i deuleuoedd.
Gall aelodau neilltuo sesiynau nofio 7 diwrnod o flaen llaw, a gall pobl nad ydynt yn aelodau neilltuo sesiynau nofio 4 diwrnod o flaen llaw.
Neilltuwch ar-lein neu drwy ap Casnewydd Fyw
Mae manylion ar nofio am ddim ar gael yma.
• 5 munud cyn dechrau eich sesiwn, ymunwch â'r man ciwio.
• Rhaid tynnu esgidiau wrth fynd i mewn i ystafelloedd newid, yna cewch eich cyfeirio at y pwll i dynnu eich dillad a storio eich eiddo.
• Bydd lonydd yn dyblu'r lled arferol gyda hyd at 7 o bobl mewn lôn ar unrhyw adeg.
• Bydd angen i chi neilltuo lôn sy’n berthnasol i’ch cyflymder nofio gan na fyddwch yn gallu goddiweddyd.
• Ni chaniateir nofio ar y cefn.
• Bydd rhaid i gwsmeriaid gyrraedd yn barod i nofio gan na fydd loceri a chiwbiclau newid ar gael. Bydd cwsmeriaid yn cael blwch 2 fetr penodol wrth ymyl y pwll i ddadwisgo a storio cyfarpar. Bydd cawodydd hylendid ar gael wrth ymyl y pwll.
• Mae ystafelloedd newid ar gael ond dim ond os yw'n gwbl hanfodol a mynediad yn gyfyngedig iawn y dylid eu defnyddio.
• Ar ôl eich gweithgaredd, gadewch yr adeilad yn syth gan ddilyn unrhyw arwyddion cyfeiriad a chadw pellter cymdeithasol.
• Ni chaniateir unrhyw wylwyr.
Mae ein canllawiau llawn ar gael yma
Gan fod nofio cyhoeddus yn nofio lôn, dim ond nofwyr sy'n hyderus mewn dŵr dwfn ac sy’n gallu nofio 25m gaiff gymryd rhan.
Ni chaniateir offer nofio/cymhorthion arnofio, ac eithrio googles, capiau nofio, clipiau trwyn, plygiau clust ac unrhyw offer personol arall.
Rhaid i nofwyr sy’n defnyddio lonydd fod yn y lôn gywir o ran eu gallu:
Lôn Gyflym
Defnyddiwch y lôn gyflym os ydych chi’n gallu nofio 200 metr mewn llai na 4 munud.
Lôn Ganolig
Defnyddiwch y lôn ganolig os ydych chi’n gallu nofio 200 metr mewn llai na 6 munud.
Lôn Araf
Defnyddiwch y lôn araf os ydych chi’n gallu nofio 200 metr dros 6 munud.
Oes, os oes angen cymorth 1 i 1 ar eich plentyn yn y pwll bydd angen iddo ddod gyda rhiant neu warcheidwad sy'n gallu mynd i mewn i'r pwll.
31/32 gradd Celsius.
Nofio i Deuluoedd
0.5m yw dyfnder y pen bas, sy'n cynyddu'n raddol i 0.8m. Grisiau gyda chanllaw sy’n arwain i’r pwll yn y pen bas neu ysgol yn y pen dwfn.
Dim ond gogls, bandiau braich a chylchoedd arnofio a ganiateir ar hyn o bryd.
Ni fydd ystafelloedd newid ar gael cyn i chi nofio felly dylech gyrraedd yn barod i fynd i mewn. Dim ond cyn i chi nofio y bydd cawodydd hylendid ar gael. Bydd pob teulu yn cael ystafell newid am 15 munud ar ôl nofio.
Cewch nofio am 1 awr a chewch 15 munud i newid wedyn.
Rhaid i deuluoedd o hyd at 5 o bobl fod o'r un cartref, neu'r dau cartref sy'n ffyrfio swigod.
Dylid goruchwylio plant yn unol â'n canllawiau goruchwylio plant yma.
- 5 munud cyn dechrau eich sesiwn, ymunwch â'r man ciwio o flaen yr adeilad.
- Byddwch yn mynd i'r pwll drwy'r prif bentref newid. Rhaid tynnu eich esgidiau cyn mynd i mewn i’r pentref newid. Bydd yr allanfa drwy'r set arall o ddrysau o goridor y pwll addysgu.
- Bydd yn ofynnol i gwsmeriaid gyrraedd yn barod i nofio gan na fydd loceri na chiwbiclau newid ar gael cyn i chi nofio. Caiff cwsmeriaid focs wrth ochr y pwll i dynnu oddi amdanynt a storio offer. Bydd cawodydd hylendid ar gael wrth ochr y pwll.
- Bydd ystafell newid ar gael am 15 munud ar ôl i chi nofio.
- Ar ôl eich gweithgaredd, gadewch yr adeilad ar unwaith gan ddilyn unrhyw arwyddion cyfeiriad, a gan gadw pellter cymdeithasol.
- Dim ond gogls, bandiau braich a chylchoedd arnofio a ganiateir ar hyn o bryd.
Gallwch ddod o hyd i’r canllawiau llawn yma.
Oes, rhaid archebu'r sesiynau hyn o flaen llaw ar ein gwefan neu drwy ap Casnewydd Fyw.
Na chewch. Ni chaniateir cadeiriau gwthio a dylid eu gadael yn eich cerbyd lle bo hynny'n bosibl. Os ydych yn cerdded i'r safle bydd tîm y dderbynfa yn storio eich cadair wthio i chi ei nôl ar ôl nofio.
Mae angen cewyn nofio untro neu amldro ar bob plentyn rhwng 0 a 18 mis.
27.5 gradd Celsius.
gwersi nofio
Bydd pwll Canolfan Casnewydd yn aros ar gau am y 6 mis nesaf. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer pob gwers yn ein canolfannau eraill, ond efallai na fydd hyn yn bosibl ar gyfer pob sesiwn.
Cysylltir â chwsmeriaid sy'n cael gwersi nofio yng Nghanolfan Casnewydd ar ôl 1 Medi i ddweud a allwn ddod o hyd i le i chi mewn sesiwn arall yn Canolfan Tenis a Nofio Ranbarthol neu'r Ganolfan Byw'n Actif.
Os nad ydych yn dymuno dychwelyd i wersi nofio, cysylltwch enquiries@newportlive.co.uk. Byddwn yn rhewi eich debyd uniongyrchol neu'n bancio eich credydau nes eich bod yn barod i ddychwelyd.
Yn anffodus, ni allwn gadw eich lle gwers nofio i chi gan fod llefydd yn gyfyngedig.
Ar hyn o bryd nid ydym yn derbyn cwsmeriaid newydd i'r rhaglen gwersi nofio ac nid ydym ychwaith yn derbyn cwsmeriaid ar ein rhestrau aros.
Bydd angen i nofwyr ddod yn barod i nofio a gwisgo eu gwisg nofio o dan eu dillad. Ni fydd cawodydd ar gael ar ôl y sesiwn a bydd mynediad cyfyngedig i ystafelloedd newid. Rydym yn argymell eich bod yn darparu tywel merlod neu dri-robon i blant i adael yr adeilad.
Mae toiledau ar gael i 1 person ar y tro ond ni ellir hebrwng y plant felly rhaid iddynt allu mynd ar eu pennau eu hunain. Anogir nofwyr i ddefnyddio'r toiled cyn cyrraedd ar gyfer ein gwersi.
Na, yn anffodus ni chaniateir gwylwyr.
Bydd eich hyfforddwr yn eich cyfarfod wrth fynedfa'r adeilad 5 munud cyn eich gwers. Bydd plant yn cael eu cymryd mewn grŵp i newid ar ochr y pwll mewn ardal sydd wedi'i neilltuo. Bydd gofyn i chi adael yr adeilad pan fydd y wers yn cael ei chynnal. Rydym yn argymell eich bod yn darparu tywel merlod neu dri-robon i blant i adael yr adeilad.
Bydd eich hyfforddwr yn rhoi cyngor ar bwynt casglu eich plentyn. Peidiwch ymgynnull o amgylch y man casglu a sicrhewch eich bod yn cadw pellter cymdeithasol bob amser.
Ni chaniateir esgidiau allanol ar ochr y pwll.
Os byddwch yn nofio gyda'ch plentyn fel arfer, byddwch yn gallu mynychu gyda nhw yn ôl y drefn arferol ond bydd gofyn ichi newid ar ochr y pwll mewn ardal sydd wedi'i neilltuo.
Er mwyn sicrhau diogelwch pob nofiwr rydym wedi cyflwyno canllawiau newydd ar gyfer defnyddio pyllau nofio ac ardaloedd newid yn ein cyfleusterau.
Cyn cyflwyno'r canllawiau newydd hyn, rydym wedi cynnal asesiadau risg trylwyr o'n cyfleusterau ac wedi rhoi'r newidiadau gofynnol ar waith i atal y coronafeirws rhag lledaenu a chadw ein cwsmeriaid, ein staff a'n gwirfoddolwyr yn ddiogel. Er y gall y rhain fod yn wahanol i rai chwaraeon eraill neu ganolfannau eraill, rydym wedi adolygu'r gofodau yn ein cyfleusterau ac mae'r canllawiau rydym wedi'u rhoi ar waith yn angenrheidiol ar gyfer ein hadeiladau.
Rydym wedi cynyddu hyd y gwersi i roi amser i blant i sychu eu hunain a newid wrth ochr y pwll ar ôl nofio. Rydym hefyd yn gweithio gyda'n hyfforddwyr i sicrhau eu bod yn rhoi amser ar ddiwedd gwersi nofio i annog plant i sychu eu hunain a gwisgo dillad priodol cyn gadael yr adeilad. Byddem yn ddiolchgar pe gallech ein cefnogi drwy roi gwn ymolchi, tywel poncho neu dywel arall addas a dillad i’ch plentyn.
Rydym am i'ch plentyn barhau ar ei daith nofio gyda ni a deallwn fod y canllawiau rydym wedi'u cyflwyno, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â newid, wedi creu rhai heriau. Nid dyma fuasai'n dewis ni, ond mae angen y mesurau hyn i sicrhau bod plant yn gallu nofio mewn amgylchedd diogel.
Wrth gwrs, byddwn yn parhau i adolygu'r gofynion a'r mesurau diogelwch sydd gennym ar waith, ond os ydych yn anfodlon ar y canllawiau presennol rydym yn hapus i rewi eich lle yn ein rhaglen nofio a'ch croesawu'n ôl i’r wersi pan foch yn barod.
Os hoffech siarad ag aelod o'n tîm nofio i drafod hyn yn fanylach, cysylltwch â 01633 656757 neu e-bostio enquiries@newportlive.co.uk
Cyfyngir ar niferoedd i sicrhau y gallwn eich cadw yn ddiogel.
Yn y Canolfan Tenis a Nofio Ranbarthol bydd 8 y dosbarth yn y pwll addysgu a 10 y dosbarth yn y prif bwll.
Yn y Ganolfan Byw'n Actif bydd 6 neu 8 mewn dosbarth yn ddibynnol ar gyfnod y wers.
Bydd yr holl gamau plant gan gynnwys sesiynau nofio hygyrch yn dychwelyd.
Ni Ffitrwydd Rookie, Her a gwersi nofio i oedolion yn dychwelyd hyd nes y rhoddir rhybudd pellach.
Mae bloc o 10 credyd yn £48 neu mae Debydau Uniongyrchol yn £20 y mis.
Rydym yn dilyn y canllawiau a nodwyd gan UK Active, sydd i'w gweld yma.
Rydym yn eich annog i ymgyfarwyddo â'r rhain cyn y dewch nôl.
Yn ystod y sesiynau hyn bydd hyfforddwr yn bresennol. Efallai fod gwirfoddolwyr yn bresennol ond ni fydd hyn yn cael ei warantu, felly os oes angen cymorth 1 i 1 ar y nofiwr, bydd angen i riant neu oedolyn fynd gyda nhw yn y pwll.
beicio i blant
Mae sesiynau Beic Cydbwysedd wedi dychwelyd. Gobeithiwn ddod â sesiynau Beicio Plant eraill yn ôl yn y dyfodol.
.
Er mwyn helpu i gadw pawb yn ddiogel, bydd angen i chi ddilyn ein canllawiau Covid-19 wrth ddefnyddio ein cyfleusterau. Mae’r rhain ar gael yma. Lle bo modd, dewch â'ch beic a'ch helmed eich hun. Rhaid i blant fod gydag un oedolyn neu ofalwr yn unig. Sesiynau’n 30 munud ac maent yn costio £4.15.
Ni fydd unrhyw gyswllt rhwng yr hyfforddwr a'r beiciwr yn y sesiwn hon mwyach. Bydd angen i'r 1 rhiant / gofalwr sy’n dod i’r wers gyda’r beiciwr roi cymorth.
Lle bo modd, bydd angen i feicwyr ddod â'u helmed eu hunain.
beicio trac
Mae’r sesiynau beicio trac sydd ar gael i’w gweld yma.
Cost y sesiwn fydd £20 sy’n daladwy trwy App Casnewydd Fyw neu ar-lein
Bydd angen i chi ddod â’ch beic a’ch offer eich hun. Nid oes modd llogi beiciau ar hyn o bryd.
Bydd. Bydd hyfforddwr Casnewydd Fyw yn bresennol bob amser i sicrhau sesiwn ddiogel ac i lywio gweithgaredd y grŵp. Bydd yr hyfforddwr yn cynnal driliau grŵp yn seiliedig ar y niferoedd sy’n bresennol a beicwyr sydd eisiau cael ymdrechion unigol a sbrintio er mwyn sicrhau bod pob beiciwr yn cael digon o amser ar y trac.
Bydd y sesiynau’n dechrau gydag ymarferion achredu i bob beiciwr sydd eisiau cymryd rhan mewn gweithgaredd grŵp. Bydd hyn yn galluogi gloywi sgiliau i bob beiciwr. Mae’n RHAID i feicwyr allu dangos y gallant gynnal pellter o 10 metr o olwyn i olwyn a beicio rheilen ddu, glas a ffens. Ni fydd beicwyr na fyddant yn gallu cwblhau’r asesiad syml hwn yn gallu cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd grŵp.
Bydd driliau grŵp yn para am 15 munud ar y mwyaf ac yn gofyn i feicwyr gadw draw o feicwyr eraill gan o leiaf 10 metr bob amser. bydd angen i oddiweddyd fod o leiaf 2metr o ochr i ochr.
Gallwch. Cyhyd ag y bod amser a lle rhwng ymdrechion beicwyr. Ni fydd unrhyw gyfle i gael dechreuadau wedi’u dal yn ôl. Rhowch wybod i’r hyfforddwr ar ddechrau’r sesiwn os ydych yn dymuno beicio’n unigol. Anogir beicwyr sydd angen ymdrechion unigol i ddod â’u rholwyr eu hunain er mwyn cynhesu a rhoi’r amser mwyaf posibl ar y trac i bawb
Na fyddant. Wrth i ni ailadeiladu’r rhaglen, mae’n rhaid i ni reoli gofynion y Corff Llywodraethu a niferoedd dosbarthiadau eraill yn y ganolfan trac a fydd yn ychwanegu at yr her o weithredu’n ddiogel o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, dim ond 30 o bobl ar y mwyaf y gallwn eu cael mewn unrhyw le. Wrth i gyfyngiadau godi, cynllunnir rhaglen arferol ond mae hefyd yn gyfle da i adnewyddu’r rhaglen.
Gall unrhyw feiciwr achrededig Cam 3 neu Gam 4 fynychu’r sesiynau hyn.
Uchafswm nifer y beicwyr a ganiateir yn y sesiwn fydd 20 gyda chyfyngiad ar y trac o 10.
• Dilynwch yr holl arwyddion yn yr adeilad er mwyn cael mynediad i’r ganolfan trac. Caniateir i feicwyr gael mynediad i’r ganolfan trac 15 munud cyn amser dechrau’r sesiwn. Argymhellir eich bod yn cyrraedd yn barod i feicio oherwydd bod lle yn yr ystafelloedd newid yn brin.
• Ni chaniateir gwylwyr.
• Ni chaniateir tywelion.
• Dewch â’ch diodydd a’ch offer beicio eich hun. Nid yw’r ffynnon ddŵr yn gweithio ar hyn o bryd.
• Ar ôl eich gweithgaredd, gadewch yr adeilad ar unwaith gan ddilyn unrhyw arwyddion cyfeiriad, a chynnal ymbellhau cymdeithasol.
Os ydych chi wedi’ch achredu gan felodrom arall, ffoniwch 01633 656757 i siarad â’n tîm Datblygu Trac a fydd yn gallu eich cynghori. Mae’n RHAID i chi wneud hyn cyn archebu lle Ni chaniateir mynediad i unrhyw feicwyr oni bai eu bod wedi archebu sesiwn ymlaen llaw.
Mae ystafelloedd newid ar gael a dangosir y capasiti mwyaf posibl gan arwyddion ar y drysau gydag uchafswm o 1 ar y tro yn y cawodydd. Hefyd mae niferoedd y loceri’n gyfyngedig felly rydym yn eich cynghori i ddod â’r hyn sydd ei angen arnoch yn unig.
Bydd toiledau ar gael. Mae cyfyngiadau ar bob toiled i alluogi 1 person ar unrhyw un adeg i fod yn yr ardal.
Na, ni fydd ein capasiti yn darparu ar gyfer gwylwyr.
Na fyddant, dim ond sesiynau ar gyfer beicwyr Cam 3 a 4 fydd yn dychwelyd yn y lle cyntaf.
Bu Beicio Cymru’n gweithredu ers nifer o wythnosau gyda’u rhaglen hyfforddi Elit. Byddwn yn caniatáu i sesiynau cyfyngedig fod ar gael i gwmnïau hyfforddi achrededig gynnig sesiynau. Bydd angen i’r rhain gydymffurfio â phob agwedd ar Ganllawiau Gweithredu Covid Casnewydd Fyw felly byddant yn parhau’n gyfyngedig o ran cynnwys am beth amser. Bydd angen i unrhyw feiciwr sy’n mynychu unrhyw sesiwn fod ag achrediad Cam 3 neu 4 ar gyfer Felodromau Dan Do.
Oherwydd y sefyllfa bresennol gyda'r cyfyngiadau symud lleol, mae’r trefniadau ar gyfer adnewyddu bachyn beic wedi'u gohirio tan 1 Tachwedd 2020. Dylai cwsmeriaid nad ydynt am barhau i logi bachyn beic yn y Felodrom gasglu eu beic cyn 1 Tachwedd ar ôl i’r cyfyngiadau symud lleol gael eu codi a phan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny.
Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon
Er na fydd ein prif raglen theatr yn mynd rhagddi, rydym yn gobeithio y bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon yn ailagor blwyddyn yma wrth i ni geisio cyflwyno ffyrdd amgen o ddifyrru pobl, gan gynnwys yn ystod cyfnod y Nadolig, yn ogystal â'u helpu i fod yn greadigol a chefnogi eu lles corfforol a meddyliol.
Rydyn ni’n gweithio ar gyfleoedd eraill i ddiddanu ein cwsmeriaid a chefnogi artistiaid. Yn dilyn cais llwyddiannus i Gronfa Sefydlogi Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Sefydliadau, byddwn yn lansio rhaglen o ddosbarthiadau, gweithdai a deunyddiau addysgol ar-lein, wedi eu datblygu o raglen bresennol y theatr, yn cynnwys dawns, cerddoriaeth, drama a dosbarthiadau ffitrwydd wedi eu seilio ar y celfyddydau. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid yn ogystal â chomisiynu artistiaid lleol y byddwn yn eu helpu drwy roi mynediad iddyn nhw at gyfleusterau Glan-yr-Afon fel y gallan nhw gynnig eu rhaglen bresennol ar-lein a datblygu gwaith newydd.
Yn y cyfamser, dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn rhannu perfformiadau a gweithgareddau creadigol eraill gan sefydliadau gwych eraill er mwyn i chi roi cynnig arnyn nhw!
Er bod Canolfan Glan yr Afon yn parhau wedi cau yn anffodus, mae COBRA nawr yn cael agor ar oriau a maint sesiynau cyfyngedig. Maen nhw’n gweithredu o dan reoliadau COVID llym, ac mae diogelwch eu cleientiaid o’r pwys mwyaf. Maen nhw ar hyn o bryd yn gweithio drwy eu dyddiadur ac yn cysylltu â chleientiaid sydd wedi gweld eu sesiynnau recordio yn cael eu gohirio yn sgil COVID-19.
Maen nhw hefyd yn croesawu archebion newydd ac mae ganddynt le ar gael o ganol mis Hydref ymlaen.
GWEITHGAREDDAU ERAILL
Mae'r caffi yn y Canolfan Tenis a Nofio Rhanbarthol ar agor gyde gyda seddau cyfyngedig. Bydd y caffi yng Nghanolfan Casnewydd yn aros ar gau.
Na, ni fydd yr ystafell sawna a stêm ar gael
Mae'r llysoedd canlynol ar gael i'w llogi:
Canolfan Casnewydd: Badminton a Pickleball
Felodrôm Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas: tenis bwrdd a'r Badminton
Canolfan Byw'n Actif: Badminton i'r Bwrdd tennis
Archebu ar-lein neu drwy ap Casnewydd Fyw
Nid yw'r offer ar gael i'w logi.
Mae rhai ystafelloedd cyfarfod ar gael i'w llogi, yn dilyn canllawiau pellhau cymdeithasol ac yn amodol ar gapasiti. E-bostiwch enquiries@newportlive.co.uk gyda'ch gofynion.
Ar gyfer archebion grŵp ac ymholiadau'r clwb, cysylltwch â bookings@newportlive.co.uk
Byddwn yn cysylltu â'n holl archebion rheolaidd yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda'r bwriad o ddechrau ail gam yr agoriad ym mis Medi 2020.
Fodd bynnag, mae rhai rhannau o'n safleoedd wedi eu dynodi i bwrpas arall er mwyn cadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol, felly ni fydd pob slot blaenorol ar gael yn y byrdymor, oni bai neu hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn llacio'r canllawiau presennol. Rydym hefyd yn ddarostyngedig i ganllawiau'r corff llywodraethu ar gyfer pob camp a gweithgaredd yr ydym yn ceisio eu croesawu'n ôl.
Byddwn hefyd angen rhai dogfennau ychwanegol gan archebion grwpiau a chlybiau i fodloni'r canllawiau yr ydym yn gweithio iddynt.
- Manylion eich Swyddog Covid dynodedig
- Asesiad Risg cymeradwy'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol
- Dulliau casglu data Profi, Olrhain a Diogel
Rydym yn gweithio tuag at greu amserlenni newydd ar gyfer y safleoedd a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddod â phob archeb yn ôl cyn gynted â phosibl mewn modd diogel. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw un o'r dogfennau uchod ac nad ydych eisoes wedi'i hanfon ymlaen yna anfonwch hi i bookings@newportlive.co.uk a gallwn ei hychwanegu at eich dogfennau i'w hadolygu.
Os ydych eisoes wedi anfon ffurflen archebu i mewn am y flwyddyn, yna nid oes angen llenwi ffurflen archebu newydd.
Nid oes lleiniau awyr agored ar gael i'w defnyddio'n adhoc ar hyn o bryd. Ar gyfer archebion grŵp ac ymholiadau'r clwb, cysylltwch â bookings@newportlive.co.uk
arall
Os nad ydych yn barod i ymuno â ni eto, byddwn yn parhau i’ch cynorthwyo gartref mewn sawl ffordd.
Les Mills On Demand
Rhowch gynnig ar Les Mills On Demand yn rhad ac am ddim am 30 diwrnod. Os ydych eisiau parhau wedi hynny, gallwch danysgrifio am gyfradd arbennig o £7.94 y mis, sef pris rydyn ni wedi cytuno arno gyda Les Mills ar gyfer cwsmeriaid Casnewydd Fyw.
Ap Iach ac Actif
Rydyn ni wedi cyflwyno ap Iach ac Actif Casnewydd Fyw, sy’n bartner perffaith i’ch helpu i ymarfer a gwella eich lles gartref, yn yr awyr agored neu gyda ni yn ein canolfannau. Gallwch hefyd gael at ein hyfforddwyr sy’n cyflwyno rhai o’n dosbarthiadau a’n hymarferion mwyaf poblogaidd i chi roi cynnig arnynt gartref, yn ogystal ag ymarferion ychwanegol a ddarperir gan Technogym.