Ynglŷn Â’r Lleoliad Hwn
Mae gyferbyn â Gorsaf Drenau Casnewydd, nesaf at Admiral House yng Nghanolfan Cambrian, Cambrian Road. Bu’n lleoliad gynt ar gyfer y Gym Group a dim ond deng munud ydyw ar droed o Ganolfan Casnewydd. Mae gan y ganolfan fynedfeydd ar Cambrian Road a'r Plaza o flaen Admiral House.
Bydd gan y ganolfan amrywiaeth eang o offer hyfforddi cardiofasgwlaidd a gweithredol newydd a chyfarwydd, ynghyd ag ardal pwysau rhydd bwrpasol, ardal ymarfer corff grŵp ar gyfer dosbarthiadau dwysedd uchel ac isel a beicio dan do. Bydd rhywbeth at ddant pawb!
Bydd staff a hyfforddwyr ffitrwydd ar gael i groesawu aelodau i'r ardal gymdeithasol bwrpasol ac i arwain a chefnogi aelodau ar eu taith ffitrwydd. Bydd cefnogaeth bersonol wedi'i theilwra a sesiynau 1 i 1 hefyd yn parhau i aelodau.
Gorsaf
Uned B7
Cwr yr Orsaf
Canolfan Cambrian
Cambrian Road
Casnewydd
NP20 4AD
Manylion Cyswllt
01633 656757
customerservice@newportlive.co.uk
Oriau Agor
I'w gadarnhau cyn cau Canolfan Casnewydd ddiwedd mis Mawrth 2023.

Beth sydd ymlaen
Fe fydd amserlen yn cael ei chyhoeddi a'i dosbarthu cyn gynted â phosib a chyn i Ganolfan Casnewydd gau.
Bydd partneriaeth Casnewydd Fyw gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a rhaglen Atgyfeirio Ymarfer Corff Genedlaethol yn parhau yn y ganolfan. Mae'r rhaglen hon yn cynnig cymorth a chanllawiau i bobl â chyflyrau cronig i wella eu hiechyd a'u lles. Darllenwch ragor yma: Rhaglenni Iechyd a Ffitrwydd.

Parcio yn yr Gorsaf
Gall Aelodau Talu a Chwarae elwa o 3 awr o barcio car ar y safle am ddim wrth ddefnyddio'r gampfa neu gymryd rhan mewn dosbarth yn Yr Orsaf.
Bob tro y byddwch yn ymweld â'r Orsaf bydd angen i chi gofrestru a dilysu parcio car. I wneud hyn bydd angen i chi fewnbynnu rhif cofrestru'ch cerbyd i'r llechen sydd wedi'i lleoli wrth ddesg y dderbynfa.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, siaradwch ag aelod o'r tîm.
Noder y bydd methu cofrestru a dilysu parcio yn arwain at Hysbysiad Tâl Cosb gan Smart Parking. (Rheolir maes parcio'r Orsaf gan Smart Parking.)

Cwestiynau Cyffredin
Bydd y cwestiynau cyffredin hyn yn cael eu diweddaru wrth i ni symud ymlaen gydag agor y ganolfan lesiant a gweithgareddau dros dro. Cofiwch gadw golwg ar y dudalen hon, y byrddau gwybodaeth yn ein lleoliadau a'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Cyfleuster Hamdden Newydd
Ym mis Chwefror 2021, cymeradwyodd y cabinet greu canolfan bwrpasol gyda chyfleusterau modern ar safle allweddol ar lan yr afon, i gymryd lle Canolfan Casnewydd sy'n heneiddio.
Caiff ei adeiladu i'r safonau amgylcheddol a chynaliadwy uchaf posibl.
Ymuno Â'n Cylchlythyr
I gael y diweddaraf am Ganolfan Lles a Gweithgarwch Corfforol dros dro Casnewydd Fyw cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.
Cofrestrwch Nawr