Gwyliau a Digwyddiadau
Mae Glan yr Afon yn cynnal nifer o wyliau a digwyddiadau yn yr adeilad ac ar draws dinas Casnewydd drwy gydol y flwyddyn. Ymhlith y digwyddiadau blynyddol pwysig mae dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ym mis Mawrth, y Sblash Mawr ym mis Gorffennaf a Chelf ar y Bryn ym mis Tachwedd.
Mae Glan yr Afon hefyd wedi cynnal digwyddiadau i Ŵyl Ffilmiau WOW, Mis Hanes Pobl Dduon a Chasnewydd yn Codi.

Splashtonbury
Cawsom haf gwych o hwyl yn Splashtonbury. Diolch i bawb a ddaeth! Gallwch ail-fyw'r hwyl ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol lle gallwch weld delweddau a fideos o'r digwyddiadau.

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nglan yr Afon
Bob mis Mawrth rydyn ni’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nglan yr Afon gyda pherfformiadau campus a sesiynau blasu am ddim, oll â ffocws ar fenywod.
Sblash Fawr
Y Sblash Mawr yw hoff ŵyl theatr stryd a chelfyddydau Casnewydd a gynhelir bob blwyddyn ym mis Gorffennaf, ychydig cyn gwyliau’r haf. Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yng Nglan yr Afon, sy’n cael ei droi yn hyb teuluol, ac mae hefyd yn gweddnewid strydoedd y ddinas yn llwyfan awyr agored enfawr.
Rydym yn gobeithio dod â’r Sblash Fawr yn ôl yn 2022, yn fwy ac yn well nag erioed!

Celf ar y Bryn
Mae Celf ar y Bryn Casnewydd yn benwythnos o gelf a chreadigrwydd ar ochr orllewinol Casnewydd, yn cynnwys tai agored, digwyddiadau ac arddangosfeydd. Dros y penwythnos mae Glan yr Afon yn cael ei drawsnewid yn farchnad grefftau fywiog sy'n gwerthu nwyddau gwych gan amryw o artistiaid lleol.
Bydd gwybodaeth am Celf ar y Bryn 2021 ar gael yn fuan!
Cymryd rhan
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn un o'n gwyliau neu ddigwyddiadau fel gwirfoddolwr neu berfformiwr, mynnwch gip ar ein hadran Celfyddydau Cymunedol.
Mwy o wybodaeth