
Cyfeiriad
Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd,
Ffordd y Felodrom,
Casnewydd,
NP19 4RB
Oriau Agor
Dydd Llun - Dydd Gwener:
6am – 10pm
Dydd Sadwrn & Dydd Sul:
8am – 9pm
Ynglŷn â’r lleoliad hwn
Yn 2018 ailenwyd y felodrom yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas i anrhydeddu Geraint am mai fe oedd y Cymro cyntaf i ennill ras ffordd feicio enwocaf y byd, y Tour de France. Mae ganddo gysylltiadau cryf â'r felodrom, wedi hyfforddi yno cyn ennill y fedal aur ar y trac yn y Ras Ymlid Timau Dynion yng Ngemau Olympaidd Haf 2008 a 2012.
Mae'r felodrom yn gartref i'n trac hirgrwn 250 metr gyda banciau â 42 gradd yn y naill ben, ein Stiwdio Feicio Grŵp Dan Do a’r trac rasio beiciau awyr agored (sy'n cynnal Clwb Rasio Beiciau Casnewydd). Yn ogystal, mae gan y felodrom gampfa llawn offer, stiwdio ymarfer grŵp, campfa pwysau rhydd, arena chwaraeon dan do amlbwrpas a chaeau pêl-droed 3G.
yr hyn a gynigiwn
Beicio Trac
Rydym yn cynnal sesiynau beicio trac o ddechreuwyr i gystadlaethau Cenedlaethol a Rhyngwladol ar gyfer marchogion talentog oedolion a blant.
Beicio Grŵp Dan Do
Mae Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yn cynnwys Stiwdio Beicio Grŵp Dan Do gyfoes, ac mae ganddi 40 o feiciau Tomahawk IC7 arobryn.
Beicio i Blant
Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau beicio i blant, o'u dysgu i reidio beic i'w cael nhw ar drac y felodrom.
Campfa
Mae gan Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas gampfa llawn offer, ystafell bwysau rhydd a wal ddringo ynghyd ag ystafell ager a sawna.
Dosbarthiadau Ymarfer Corff
Edrychwch ar ein hamrywiaeth o ddosbarthiadau ymarfer grŵp. O Zumba i Pilates, mae gennym y dosbarth perffaith i'ch helpu i gyflawni eich nodau ffitrwydd.
Mesurau Diogelwch yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas
Eich lles a'ch diogelwch chi yw ein prif flaenoriaeth yng Nghasnewydd Fyw. Mae gennym ystod o fesurau ar waith i sicrhau bod pob ymweliad yn ddiogel, yn gyfforddus ac yn bleserus. Mae rhai o'r mesurau hyn yn weladwy, tra bod eraill, fel teledu cylch cyfyng, yn gweithredu'n gynnil yn y cefndir. Mae ein gweithdrefnau diogelwch yn cael eu hadolygu'n rheolaidd ac yn dilyn canllawiau arfer gorau cyfredol y llywodraeth a'r diwydiant.
Mae ein timau wedi'u hyfforddi'n llawn i adnabod ac ymateb i risgiau diogelwch posibl neu weithgarwch troseddol ar draws ein holl leoliadau. Byddwch yn cael eich cyfarch gan ein staff cyfeillgar pan fyddwch chi'n cyrraedd, ac efallai y bydd ein tîm yn siarad â chi yn ystod eich ymweliad i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael y profiad gorau posibl.
Eisiau dod yn aelod?
Beth bynnag eich oedran, eich rhyw, eich nodau neu’ch gallu, mae Casnewydd Fyw am i chi fod yn hapusach ac yn iachach. Rydym ni yma i'ch cefnogi a'ch ysgogi. Gwell gennych weithio ar eich pen eich hun? Mae hynny’n iawn hefyd.
Aelodaeth