Archwiliwch ein hamrywiaeth wych o chwaraeon

Rydym yn cynnig amrywiaeth wych o gyrtiau dan do ac awyr agored, caeau, neuaddau chwaraeon sydd ar gael i’w llogi gan glybiau, grwpiau, aelodau a chwsmeriaid, yn ystod slotiau rheolaidd neu am gêm achlysurol.

I weld pa rai o’n cyrtiau a lleiniau sydd ar gael, a’u harchebu ar-lein, lawrlwythwch app Casnewydd Fyw neu ffoniwch ni ar 01633 656757.

 

archebwch ar-lein lawrlwythwch app Casnewydd Fyw

people running on newport stadium running track

Trac Stadiwm

Mae ein trac stadiwm nawr ar gael i'w archebu i unigolion yn unig.

woman in a green t-shirt holding a tennis racket

Tenis

P'un a oes gennych ddiddordeb mewn chwarae tenis ar gyfer hwyl a ffitrwydd neu a ydych chi’n fwy cystadleuol, gall tîm hyfforddi Casnewydd fyw eich helpu i fireinio a datblygu eich sgiliau tenis. 

Mae’r ganolfan o safon genedlaethol a bydd yn cynnal digwyddiadau’r Gymdeithas Tenis Lawnt (LTA) a Thenis Cymru yn rheolaidd. 

Yng Nghanolfan Tennis Casnewydd mae gennym bedwar cwrt tennis dan do ynghyd â thri chwrt awyr agored â llifoleuadau, sy'n ei gwneud yn berffaith ar gyfer pob tywydd, mae gennym hefyd bedwar cwrt awyr agored sydd ar gael yn y Ganolfan Byw'n Actif.

Gallwch archebu hyd at un awr o tennis y dydd gydag aelodaeth Casnewydd Fyw.

young football team huddling wearing red football kits

Pêl-droed

Mae Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd yn gartref i Stadiwm Casnewydd lle mae llifoleuadau a lle i 2,450 o wylwyr ar seddi a therasau. Mae wedi cynnal gemau pêl-droed rhyngwladol a ddarlledwyd ar y teledu hefyd. Mae ein cae chwaraeon 3G yn y pentref chwaraeon hefyd yn gofrestredig ag 1 Seren gyda FIFA ac mae’n cynnig stondin â 50 o seddau i wylwyr yn ogystal â ffens wylwyr lawn.

Mae cae glaswellt yn ein Canolfan Cysylltu hefyd yn cynnig stondin a ffens llawn i wylwyr ond nid oes llifoleuadau yno. Gydag ystafelloedd newid cartref ac i’r gwesteion, yn ogystal â man newid ar wahân i swyddogion, mae'n gae gwych ac yn cynnig lleoliad perffaith ar gyfer hyfforddiant a gemau wythnosol. 

Os yw'n well gennych chwarae dan do, gellir paratoi ein neuaddau chwaraeon gyda goliau ac mae hyn yn boblogaidd iawn ar gyfer grwpiau llai o bump a thimau iau o bob maint.

Girl in pink top holding netball above head.jpg

Pêl-rwyd

Mae mannau dan do ac awyr agored ar gael ar gyfer y gêm bêl gyflym hon. Yn y Ganolfan Byw'n Actif mae gennym dri chwrt pêl-rwyd awyr agored ar gael i chi. Gyda chyrtiau pêl-rwyd dan do ar draws ein holl safleoedd, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i gwrt lleol i chwarae eich gêm.

 

shuttlecock on a badminton racket on the ground.jpg

Badminton

Mae cyrtiau Badminton ar gael i’w llogi yng Nghanolfan Casnewydd, Felodrom Genedlaethol Cymru Geraint Thomas, ein Canolfan Cysylltu a’r Ganolfan Byw’n Actif. Mae cyfarpar ar gael i'w logi neu i'w brynu yn ein derbynfeydd.

Gallwch archebu hyd at un awr o badminton y dydd gydag aelodaeth Casnewydd Fyw yn amodol ar argaeledd y cwrt. 

female hockey player on indoor court.jpg

Hoci

Mae ein Astroturf yn y Ganolfan Byw'n Actif yn gae perffaith ar gyfer gêm o hoci, boed hi’n gêm gystadleuol, yn hyfforddiant wythnosol neu’n ddigwyddiad cymdeithasol, mae'r gofod yn berffaith drwy gydol y flwyddyn.

teenage girl playing table tennis

Tenis Bwrdd

Byddwch yn gallu chwarae gêm gyffrous a chyflym Tenis Bwrdd ar draws pob un o'n safleoedd, gyda chyfarpar hefyd ar gael i'w logi.

Gallwch archebu hyd at un awr o tennis bwrdd y dydd gydag aelodaeth Casnewydd Fyw yn amodol ar argaeledd y cwrt.

Llogi cyrtiau a chaeau

Gydag amrywiaeth o gyfleusterau a gofodau sy'n hyblyg ar draws holl safleoedd Casnewydd Fyw, gallwn eich helpu i ddod o hyd i le addas i chi. Mae cyrtiau ar gael hefyd ar gyfer Pêl Picl, Pêl-fasged, Rygbi, Boccia, Futsal. Ffoniwch 01633 656757 neu archebu ar-lein

Archebu Ar-Lein