
Pam gweithio i ni?
Rydym yn falch dros ben o’r ystod o brofiad sydd gan ein staff a’r amrywiaeth o sgiliau y maen nhw’n eu defnyddio bob dydd er lles ein cwsmeriaid a’n defnyddwyr gwasanaeth. Mae gan Casnewydd Fyw aelodau tîm sy’n gweithio mewn ystod eang o feysydd ym mhob rhan o’r busnes.
Mae Casnewydd Fyw yn cydnabod bod ei staff yn gwneud y gwahaniaeth a’u bod o hyd yn chwilio am ragor o bobl â gwerthoedd gwych i ymuno â’r tîm. Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw un o’n cyfleoedd presennol, byddwn wrth ein bodd yn clywed gennych.

Y broses logi
Disgwylir i bob ymgeisydd sy’n chwilio am swydd â Casnewydd Fyw gwblhau ffurflen gais Casnewydd Fyw. Ni fydd CV yn cael ei dderbyn yn lle ffurflen gais.
Anogir ymgeiswyr i gwblhau pob adran o’r ffurflen gais ac i ateb pob cwestiwn yn onest. Caiff pob cais ei roi ar restr fer a’i asesu yn erbyn y meini prawf a amlinellir yn y fanyleb person ar gyfer y swydd. Felly gofynnir i ymgeiswyr roi ddigon o wybodaeth yn eu cais i ddangos eu bod yn addas ar gyfer y swydd yn unol â’r gofynion hanfodol a dymunol ar y fanyleb person.