sinema glan yr afon
Trwy gydol y tymor bydd rhaglen sinema Glan yr Afon yn cyflwyno’r goreuon i Gasnewydd o ran ffilmiau teuluol, drama, comedi, tŷ celf a ffilmiau dogfen am gyn lleied â £3.
Yn ogystal â'r goreuon o blith ffilmiau Prydain, rydym hefyd yn arddangos ffilmiau iaith dramor gwych o bob cwr o'r byd, ac rydym yn croesawu'r Ŵyl Ffilm i Fenywod WOW.

Tocynnau 2 am 1
Mae gan aelodau Casnewydd Fyw hawl i gael 2 docyn am bris un i bob ffilm yn sinema Glan yr Afon fel rhan o'u haelodaeth. Nodwch nad yw'r cynnig hwn ar gael ar-lein.

For Crying Out Loud
Mae For Crying Out Loud yn ein sgriniadau sinema yn ysdod y diwrnod sy’n addas i fabanod. Mae'r sgriniadau hyn yn rhai i rieni a gwarcheidwaid eu mwynhau gyda'u baban neu blentyn bach felly peidiwch â phoeni am grio, gwingo neu darfu ar westeion eraill, rydych oll yn yr un cwch! Er mwyn gwneud y dangosiadau hyn mor gyfeillgar â phosibl bydd lefel feddal o oleuadau yn y sinema, bydd lefel y sain yn is a bydd matiau meddal o flaen y sgrin ar gyfer eich rhai bach. Mae'n rhaid i oedolion gael babi neu blentyn bach gyda nhw er mwyn mynychu’r sgriniadau hyn.
Archwilio dangosiadau nesaf isod gan ddefnyddio'r categori 'Baby Friendly.'