Mae Storfa Beiciau’r Orsaf yn lle diogel i gadw'ch beic!

 

  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide

 

Wedi'i lleoli wrth ymyl mynedfa campfa’r Orsaf yng Nghanolfan Cambrian. Dyma'r lle perffaith i gadw'ch beic, p'un a ydych chi'n beicio i gampfa'r Orsaf, yn ymweld â Theatr Glan yr Afon, yn cymudo i'r ddinas ar gyfer gwaith neu’n cwrdd â ffrindiau.

Mae Storfa Beiciau’r Orsaf AM DDIM i aelodau Casnewydd Fyw ac o ddim ond £1.10 i'r rhai nad ydynt yn aelodau.  Gall pobl nad ydynt yn aelodau a hoffai ddefnyddio Storfa Beiciau’r Orsaf yn rheolaidd hefyd arbed gyda'n opsiwn Debyd Uniongyrchol Misol o £18.85.

Gellir archebu a thalu am Fachau Beic naill ai drwy Ap Casnewydd Fyw, y wefan, e-bostio neu siarad â'n timau Gwasanaeth Cwsmeriaid neu’r dderbynfa.

Yr oriau agor ar gyfer Storfa Beiciau’r Orsaf yw 6am i 10pm yn ystod yr wythnos a rhwng 8am ac 8pm ar benwythnosau.

 

Cyfleusterau sydd ar gael yn Storfa Beiciau’r Orsaf

  • Mae 32 o fachau beic crog fertigol ar gael, dewch â'ch clo beic i gloi eich beic i'r bachyn.

  •  Loceri storio a weithredir â darnau arian £1.

  • Gorsaf cynnal a chadw beiciau a phwmp am ddim.

  • Gorsafoedd gwefru e-feiciau.

  • Mae Storfa Beiciau’r Orsaf yn ddiogel gyda TCC a drysau rheoli mynediad.

 

Rhaid i bobl nad ydynt yn aelodau gofrestru eu manylion am ddim i dderbyn cerdyn Casnewydd Fyw, sy'n ofynnol er mwyn cael mynediad diogel i Storfa Beiciau’r Orsaf. Cofrestrwch eich manylion heddiw. Neu siaradwch ag unrhyw un o’n timau wrth y dderbynfa yn ein lleoliad neu ein tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid a fydd yn gallu cofrestru eich manylion a rhoi cerdyn Casnewydd Fyw i chi.

Rhaid archebu bachau beic ymlaen llaw.  Ar ôl ei archebu, tapiwch eich cerdyn Casnewydd Fyw ar y ddyfais rheoli mynediad sydd wedi'i lleoli ar ochr dde'r drysau i Storfa Beiciau’r Orsaf i gael mynediad. Cofiwch, bydd angen clo beic arnoch i ddiogelu eich beic.

Edrychwch ar adran Cwestiynau Cyffredin Storfa Beiciau’r Orsaf am fwy o wybodaeth

 
Polisi a Thelerau Defnydd
Drwy archebu bachyn beic mae hyn yn golygu eich bod yn cytuno i'n polisi a'n telerau defnydd ar gyfer Storfa Beiciau’r Orsaf.
  • Ni dderbynnir e-sgwteri neu e-fodur i'w storio neu eu gwefru.   
  • Os bydd beic yn cael ei adael dros nos, codir tâl arno ar y gyfradd ddyddiol o £1 hyd nes y caiff ei gasglu.  Bydd hyn yn arwain at ddyled ar y cyfrif.
  •  Ar ôl 7 diwrnod o anweithgarwch, bydd y beic yn cael ei symud.
  •  Bydd beiciau a symudir yn cael eu cadw am uchafswm o 30 diwrnod oddi ar y safle a gallant, ar ôl talu dirwy (£1 y dydd hyd nes y bydd y beic yn cael ei gasglu) gael eu hadfer.
  • Bydd beiciau, helmedau, esgidiau ac eiddo arall nad ydynt yn cael eu casglu ar ôl 30 diwrnod yn cael eu rhoi i elusen ddynodedig yn ôl disgresiwn Casnewydd Fyw.
  •   Ymgyfarwyddwch â thelerau ac amodau cyffredinol Casnewydd Fyw sydd hefyd yn berthnasol ar adeg archebu bachau beic.