Caiff Casnewydd Fyw ei lywodraethu gan fwrdd o un-ar-ddeg ymddiriedolwr. Mae Casnewydd Fyw yn gwmni cyfyngedig drwy warant wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr, Rhif Cwmni 9323582, ac mae’n elusen gofrestredig.

Mae Casnewydd Fyw yn gwneud ei orau i gadw’r wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ond ni fydd yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddigwydd drwy ddefnydd o’r wybodaeth. Os ydych chi’n clywed unrhyw beth sy’n peri pryder, cysylltwch â: customerservice@newportlive.co.uk

Gwaherddir atgynhyrchu’r deunydd hwn ar unrhyw ffurf heb ganiatâd ysgrifenedig Casnewydd Fyw. Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn berthnasol i gynnwys y wefan hon. Gall awduron unigol gadw’r hawliau eiddo deallusol i rywfaint o’r deunydd hwn.

Gwybodaeth/Cysylltiadau Trydydd Parti

Nid yw Casnewydd Fyw yn rheoli ac ni all warantu perthnasedd, amseroldeb na chywirdeb y wybodaeth a ddarperir gan asiantaethau, sefydliadau ac unigolion eraill, ac nid yw’n ardystio unrhyw safbwyntiau, cynhyrchion na gwasanaethau y gellid eu cynnig.

Diogelu Data

Mae Casnewydd Fyw drwy Gyngor Dinas Casnewydd wedi ei gofrestru dan Ddeddf Diogelu Data 1998 sy’n caniatáu i ni ddal a phrosesu gwybodaeth bersonol. Mae Casnewydd Fyw wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynwyr Gwybodaeth fel Rheolwr Data. Ni fyddwn ond yn defnyddio gwybodaeth o’r fath at y diben a gyflwynir ac a ganiateir dan y Ddeddf.

Problemau Firws

Mae Casnewydd Fyw yn gwneud pob ymdrech i wirio am firysau ar y ffeiliau sydd ar gael i’w lawrlwytho ar y safle hwn. Ni all Casnewydd Fyw dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a all ddigwydd drwy ddefnyddio deunydd sy’n cael ei lawrlwytho. Rydym yn argymell bod defnyddwyr yn ail-wirio’r holl ddeunydd sy’n cael ei lawrlwytho gyda’u meddalwedd gwrth-firws eu hunain.
 

Talebau Nofio am Ddim Teuluoedd yn Gyntaf

Taleb Nofio am Ddim i Blant / Person Ifanc

Mae taleb sesiwn nofio am ddim Teuluoedd yn Gyntaf yn amodol ar argaeledd. Dim ond ar gyfer un plentyn / person ifanc rhwng 0 a 17 oed y mae taleb nofio am ddim Teuluoedd yn Gyntaf yn ddilys a gellir ei nôl o dderbynfa unrhyw leoliad Casnewydd Fyw. Mae'r daleb yn rhoi'r hawl i'r deiliad gael mynediad i sesiwn nofio gyhoeddus mewn unrhyw bwll nofio Casnewydd Fyw, ond ni ellir ei defnyddio ar gyfer sesiynau nofio i'r teulu, gweithgareddau dŵr gwyliau plant na gwersi nofio i blant. Os oes sesiwn nofio am ddim Teuluoedd yn Gyntaf wedi'i threfnu drwy wefan neu ap Casnewydd Fyw rhaid i daleb y sesiwn am ddim gael ei chyflwyno yn y dderbynfa fel prawf o sesiwn am ddim ac fel eithriad o daliad cyllidol. Dim ond unwaith y gellir ad-dalu'r daleb sesiwn nofio am ddim i blant / person ifanc ac ni ellir ei defnyddio fel rhan o daliad ar gyfer unrhyw weithgaredd arall. Nid oes gwerth ariannol i daleb sesiwn nofio plant am ddim Teuluoedd yn Gyntaf ac ni ellir cael ad-daliad. Mae taleb sesiwn nofio am ddim Teuluoedd yn Gyntaf yn eiddo i Casnewydd Fyw. Mae gan Casnewydd Fyw yr hawl i dynnu’r cynnig yn ôl ar unrhyw adeg heb rybudd.

 

Taleb Nofio am Ddim i Oedolion

Mae taleb sesiwn nofio am ddim Teuluoedd yn Gyntaf ar gael. Dim ond ar gyfer oedolion 18+ oed y mae taleb nofio am ddim Teuluoedd yn Gyntaf yn ddilys a gellir ei nôl o dderbynfa unrhyw leoliad Casnewydd Fyw. Mae'r daleb yn rhoi'r hawl i'r deiliad gael mynediad i sesiwn nofio gyhoeddus mewn unrhyw bwll nofio Casnewydd Fyw, ond ni ellir ei defnyddio ar gyfer sesiynau nofio i'r teulu, gwersi nofio i oedolion nac i’w defnyddio fel taliad / rhandaliad ar gyfer unrhyw weithgaredd plant yn y dŵr neu at wersi nofio. Os oes sesiwn nofio i oedolyn am ddim Teuluoedd yn Gyntaf wedi'i threfnu drwy wefan neu ap Casnewydd Fyw rhaid i daleb y sesiwn am ddim gael ei chyflwyno yn y dderbynfa fel prawf o sesiwn am ddim ac fel eithriad o daliad cyllidol. Dim ond unwaith y gellir hawlio’r cerdyn sesiwn nofio i oedolyn am ddim ac ni ellir ei ddefnyddio fel rhan o daliad ar gyfer unrhyw weithgaredd arall. Nid oes gwerth ariannol i daleb sesiwn nofio am ddim Teuluoedd yn Gyntaf i oedolion ac ni ellir cael ad-daliad. Mae taleb sesiwn nofio i oedolion am ddim Teuluoedd yn Gyntaf yn eiddo i Casnewydd Fyw. Mae gan Casnewydd Fyw yr hawl i dynnu’r cynnig yn ôl ar unrhyw adeg heb rybudd.

Telerau ac Amodau Rafflau a Chystadlaethau Casnewydd Fyw

  • Rhaid i chi fod yn byw yn y Deyrnas Gyfunol a dros 18 oed er mwyn cymryd rhan mewn cystadlaethau a rafflau a gynhelir gan Casnewydd Fyw oni bai bod telerau ac amodau’r gystadleuaeth neu’r raffl yn nodi’n wahanol.
  • Dim ond un cais y person; ni chaniateir ceisiadau lluosog.
  • Nid oes modd trosglwyddo na chyfnewid gwobrau ac nid yw’r gwobrau’n cynnwys costau teithio.
  • Caiff yr enillwyr ei eu dewis ar hap o blith yr holl ymgeiswyr cymwys gan Casnewydd Fyw a chysylltir â nhw dros y ffôn neu drwy e-bost cyn pen 72 awr o gyhoeddi enwau’r enillwyr gyda manylion ar sut i hawlio’r wobr. 
  • Ni chaiff ceisiadau a ddaw i law ar ôl y diwrnod ac amser cau eu derbyn.
  • Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn gymwys i gystadlu yn y raffl. 
  • Os nad oes modd cysylltu â’r enillwyr cyn pen 7 diwrnod, ceidw Casnewydd Fyw yr hawl i ddewis enillydd arall ar hap o blith yr holl gystadleuwyr cymwys eraill.
  • Rhaid defnyddio pob gwobr o’r gystadleuaeth o fewn 60 diwrnod, ar ôl hynny ni fydd modd eu defnyddio. 
  • Nid yw cystadlaethau na rafflau yn agored i aelodau staff, gwirfoddolwyr, Cyfarwyddwyr Casnewydd Fyw, eu teuluoedd, asiantaethau neu unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth neu’r raffl.
  • Ceidw Casnewydd Fyw yr hawl i dynnu unrhyw gystadlaethau neu rafflau yn ôl neu eu diwygio ar unrhyw adeg heb rybudd.

Hyrwyddwr: Casnewydd Fyw, Canolfan Tennis a Nofio Ranbarthol, Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Spytty Boulevard, Casnewydd, NP19 4RA Trwy gymryd rhan yn ein cystadleuaeth neu raffl rydych yn cydsynio i’ch manylion gael eu defnyddio yn unol â’n polisi preifatrwydd 

Telerau ac Amodau Hwb Casnewydd

Gwnewch yn siŵr eich bod chi neu eich sefydliad yn bodloni'r amodau canlynol- 

  •  Yn gwasanaethu Casnewydd neu'r ardaloedd cyfagos, neu ar gael ar-lein i bobl yng Nghasnewydd 
  • Yn cynnwys pob grŵp oedran a diwylliant 
  • Yn canolbwyntio ar y celfyddydau a diwylliant, chwaraeon a ffitrwydd neu iechyd a lles 
  • Yn ymgysylltu â'r cyhoedd ac yn annog cyfranogiad ar ryw ffurf  

Ni fyddwn yn derbyn unrhyw un o'r cofnodion canlynol- 

  • Safleoedd neu wasanaethau gamblo 
  • Cofnodion â rhagfarn wleidyddol neu grefyddol  
  • Cofnodion ar gyfer gwasanaethau y mae angen talu i’w defnyddio 
  • Cofnodion a allai achosi niwed i iechyd corfforol neu ofid i iechyd meddwl 
  • Cofnodion sy'n mynd yn groes i'n gweledigaeth sef 'Ysbrydoli, Hapusach, Iachach' 
Polisi 'Goleuo' Casnewydd Fyw (Ionawr 2021)

Mae cyfleusterau Casnewydd Fyw yn lleoliadau allweddol ledled y ddinas ac maent yn olygfa ysblennydd pan gânt eu goleuo dros nos. 


Mae newid lliw arferol y goleuadau hyn yn cynnig cyfle gwych i elusennau godi ymwybyddiaeth am achosion penodol.


Mae Casnewydd Fyw yn gweithredu'r cyfleusterau canlynol, y gellir felly eu goleuo mewn lliwiau gwahanol am hyd at 7 diwrnod:

 

  • Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon 
  • Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas
  • Canolfan Tenis a Nofio Ranbarthol
  • Stadiwm Casnewydd
  • Canolfan Casnewydd
  • Canolfan Byw’n Actif
  • Y Ganolfan Gyswllt 

Mae gan bob cyfleuster oleuadau mewnol ac allanol gwahanol felly, bydd goleuo ein cyfleusterau yn amrywio o ran effaith a golwg, efallai yr eir i gostau ychwanegol fel rhan o'r broses oleuo, oherwydd ceisiadau rheolaidd gan elusennau a bydd angen i'r sefydliad elusennol cyfrifol dalu'r costau. 


Rhaid ymgynghori ag arbenigwr goleuadau cymwysedig ar bob cais a byddent yn gyfrifol am y deunyddiau a'r gosodiad a thynnu unrhyw oleuadau a gwaith cysylltiedig. Byddai ffioedd yn daladwy iddynt am y gwasanaeth hwn yn ychwanegol at y ffi sy'n daladwy i Gasnewydd Fyw isod. 


Telerau ac Amodau Safonol

  • Dim ond gan elusennau cofrestredig neu grwpiau lleol dielw rydym yn derbyn ceisiadau.
  • Mae angen 30 diwrnod o rybudd arnom i oleuo unrhyw un o'n cyfleusterau.
  • Mae ffi weinyddol o £50 ar gyfer goleuo unrhyw gyfleuster yn ychwanegol at unrhyw ffioedd sy'n daladwy'n uniongyrchol i arbenigwyr fel y nodir uchod. Mewn rhai amgylchiadau efallai y byddwn yn cytuno i hepgor y ffi gydag awdurdodiad o flaen llaw.
  • Bydd Casnewydd Fyw yn cytuno ar uchafswm o un cais goleuo fesul safle fesul mis calendr ac ystyrir y ceisiadau goleuo yn y drefn y byddan nhw’n ein cyrraedd. 
  • Dim ond yn dilyn cadarnhad ysgrifenedig gan y Tîm Gweithredol yng Nghasnewydd Fyw y caniateir ceisiadau.
  • Byddai angen anfon pob datganiad i'r wasg ynglŷn â'r goleuo i Gasnewydd Fyw yn ogystal â lluniau o'r cyfleuster pan gaiff ei oleuo. Efallai y byddwn yn rhannu'r rhain ar draws ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan. 
  • Bydd ceisiadau nad ydynt yn rhai gan elusennau’n cael eu hystyried gan ein Tîm Gweithredol lle mae budd cymunedol a fyddai'n cyfiawnhau cost ychwanegol.
  • Efallai y bydd gofynion ac angen dogfennau ychwanegol yn dibynnu ar eich cais.
  • Mae Casnewydd Fyw yn cadw'r hawl i wrthod neu i atal unrhyw geisiadau goleuo neu weithgareddau goleuo ar unrhyw adeg.

Sut i wneud cais:


Dylid anfon ceisiadau goleuo cyfleusterau Casnewydd Fyw i'n cyfeiriad e-bost marchnata marketing@newportlive.co.uk


Ystyrir ceisiadau elusennol a masnachol, ond ni ystyrir taflunio a goleuadau gwleidyddol neu lobïo.
 

Talebau Tocyn Sinema Glan yr Afon am ddim

Mae pob Taleb Tocyn Sinema Glan yr Afon am ddim yn rhoi'r hawl i'r derbynnydd gael dau docyn sinema am ddim i ffilm o'u dewis yn Sinema Glan yr Afon, yn amodol ar argaeledd. Dim ond yn Swyddfa Docynnau Glan yr Afon y gellir cyflwyno’r rhain.

Dim ond unwaith y gellir cyflwyno pob taleb ac ni ellir ei defnyddio fel rhan o'r taliad ar gyfer unrhyw weithgaredd arall. Nid oes gwerth ariannol i'r daleb ac ni ellir cael ad-daliad.   Mae'r daleb yn ddilys am gyfnod o 12 mis o'r dyddiad cyhoeddi.

Mae Talebau Tocyn Sinema Glan yr Afon am ddim yn eiddo i Gasnewydd Fyw. Mae gan Gasnewydd Fyw’r hawl i dynnu’r cynnig yn ôl ar unrhyw adeg heb rybudd.