Datblygu Celfyddydau Cymunedol
Nod y tîm Datblygu Celfyddydau Cymunedol yw cynnig cyfleoedd creadigol i bobl o bob oed yng nghymunedau niferus Casnewydd a'r cyffiniau drwy gydgysylltu llawer o wahanol brosiectau celfyddydol, digwyddiadau, gweithgareddau a gweithdai.
Mae'r prosiectau blynyddol mawr ar gyfer y tîm yn cynnwys digwyddiadau dathlu Diwrnod Rhyngwladol Y Menywod, cydlynu'r hyb teuluol Splashtonbury yn ystod Gŵyl y Sblash Mawr a threfnu marchnad grefftau dan do yn ystod Celf ar y Bryn. Ewch i’n tudalen Gwyliau a Digwyddiadau i weld beth mae’r tîm wrthi’n ei wneud.
Mae'r tîm wedi ffurfio a chynnal partneriaethau gyda nifer o randdeiliaid yn ardal Casnewydd a'r cyffiniau gan gynnwys sefydliadau yn y sector gwirfoddol, sefydliadau a grwpiau cymunedol, ysgolion ac adrannau Cyngor Dinas Casnewydd megis Gwasanaethau Ieuenctid, Gwasanaethau Cymdeithasol, TTI, a Datblygu Cymunedol.
Os oes gennych brosiect yr ydych am ei drafod neu i gael rhagor o wybodaeth am brosiectau cyfredol, cysylltwch â'n Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Sally-Anne Evans ar sally-anne.evans@newportlive.co.uk

Ein Rhaglenni, Prosiectau a Mentrau
Mae tîm Datblygu Celfyddydau Cymunedol Glan yr Afon yn rhedeg nifer o wahanol brosiectau, rhaglenni a mentrau sydd i gyd wedi'u llunio i gael cynifer o bobl ag sy'n bosibl o bob oedran sy'n ymwneud â'r celfyddydau a chreadigrwydd.

Dod yn Gwirfoddolwyr
Mae gwirfoddolwyr yn rhan allweddol a hanfodol o Lan yr Afon yn gallu darparu a chyflwyno prosiectau, gweithdai a gweithgareddau gwych yn y lleoliad ac allan yn y gymuned, ac rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr o bob oed.

Ariannu, noddi neu roi i brosiect
Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn hanfodol i bobl Casnewydd drwy ei rhaglen awditoriwm amrywiol, ystod o weithdai creadigol, cyfleoedd addysgol ac arddangosfeydd celf weledol sydd i gyd yn ennyn diddordeb pobl o bob oed.

Cymryd rhan mewn Gweithgaredd, Rhaglen neu Ddigwyddiad
Mae cymaint o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan mewn prosiect yn Nglan yr Afon waeth beth yw eich oedran, eich gallu neu'ch profiad yn y celfyddydau.