Chwaraeon, celfyddydau a lles cymunedo

Rydym yn gwybod bod cymryd rhan mewn chwaraeon, gweithgarwch corfforol a gweithgareddau celfyddydol yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl, felly mae ein timau yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth drwy gydlynu prosiectau ar gyfer ysgolion, teuluoedd, clybiau chwaraeon a grwpiau eraill ar draws y ddinas a thu hwnt. 

Mae’r Adran Chwaraeon a Lles Cymunedol yn cynnwys dros 30 o staff sy'n derbyn grantiau a chontract allanol i gynnal prosiectau, rhaglenni ac ymyriadau cynnar drwy'r themâu Datblygu Chwaraeon, Dyfodol Cadarnhaol, Iechyd a Lles, Addysg Amgen a Cynhwysiant a Chydraddoldeb.

Mae ein tîm Datblygu'r Celfyddydau yn gweithio mewn ysgolion a chymunedau sydd â llawer o brosiectau a grwpiau 3ydd sector, gan roi cyfleoedd yn Theatr Glan yr Afon yn ogystal ag ar draws Dinas Casnewydd.

Cefnogwch Ni

Mae Casnewydd Fyw yn sefydliad ac elusen dosbarthu nid-er-elw, sy'n golygu bod ein holl incwm sy’n weddill yn cael ei ailfuddsoddi yn y sefydliad i wella ein rhaglenni, ein cyfleusterau a’n gwasanaethau ac i gefnogi hyfforddiant a datblygiad staff. Fyddai hyn ddim yn bosibl heb eich cefnogaeth barhaus chi.

Mwy o Wybodaeth

Newyddion a Digwyddiadau Cymunedol

10/11/2023

Apêl Cwtsh Nadolig Casnewydd

Darllen mwy
12/10/2023

Momentwm yn Dathlu Digwyddiad Lansio Llwyddiannus: Dyfodol mwy disglair, gwyrddach i Gasnewydd

Darllen mwy
20/09/2023

Mae Casnewydd Fyw yn falch o fod yn arwain rhaglen addysg amgen Aspire Cyngor Dinas Casnewydd!

Darllen mwy