Ynglŷn â’r lleoliad hwn
Canolfan theatr a chelfyddydau fywiog wedi'i leoli yng nghanol Dinas Casnewydd sy'n dod â chynifer o bobl â phosibl i gysylltiad â'r celfyddydau a chreadigrwydd, gyda pherfformiadau proffesiynol, dangosiadau ffilm a gweithdai.
Glan yr Afon yw’r unig ganolfan theatr a chelfyddydol gyflwynol broffesiynol yng Nghasnewydd ac mae ganddi ddau le theatr, oriel gelf, stiwdio ddawns, stiwdio recordio, ystafelloedd gweithdy, ystafell gynadledda a chaffi trwyddedig.
yr hyn a gynigiwn

Perfformiadau
Edrychwch ar yr amrywiaeth o sioeau a digwyddiadau a gynhelir ar hyn o bryd yng Nglan yr Afon gan gynnwys cerddoriaeth fyw, drama, comedi, dawns, opera a mwy.

Sinema
Ffilmiau sy’n haeddu sylw yng Nghanolfan Glan yr Afon! Trwy gydol y tymor bydd y rhaglen sinema yn cyflwyno’r goreuon i Gasnewydd o ran ffilmiau teuluol, drama, comedi, tŷ celf a ffilmiau dogfen am gyn lleied â £3.

Gweithdai a Dosbarthiadau
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o weithdai a dosbarthiadau wythnosol i bob oed gan gynnwys cerameg, ioga, dawns a theatr.

Stiwdio Recordio
Mae C.O.B.R.A. Music Studios wedi'i leoli yn Theatr Glan yr Afon. Sefydlwyd C.O.B.R.A. Music Studios yn 2017 fel cwmni recordio ar leoliad yn unig, gan arbenigo mewn recordio ensemble mawr. Yn 2019, tyfodd y galw ar gyfer Ensemble Llai a Recordio Unigol - a welodd C.O.B.R.A. Music Studios yn agor ei safle stiwdio cyntaf.

Llogi Lle
Gyda dwy theatr, oriel gelf, stiwdio ddawns, ystafell gynadledda, tri gweithdy/ystafell ddigwyddiadau, bar, caffi ac ardaloedd cyntedd, gall Glan yr Afon gynnig lleoliad dramatig a chofiadwy ar gyfer cynadleddau, digwyddiadau, achlysuron corfforaethol a mwy.