New Leisure Facility

Ym mis Chwefror 2021, cymeradwyodd y cabinet greu canolfan bwrpasol, gyda chyfleusterau modern, wedi'u lleoli ar safle allweddol ar lan yr afon i gymryd lle Canolfan Casnewydd sy'n heneiddio.

Caiff ei adeiladu i'r safonau amgylcheddol a chynaliadwy uchaf posibl.

Cafwyd mwy na 1,000 o ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion gyda'r mwyafrif llethol yn cefnogi'r datblygiadau newydd arfaethedig.

Dysgwch fwy am gynnydd y ganolfan hamdden newydd isod.

Medi 2021: Delwedd newydd o'r ganolfan hamdden arfaethedig
Yn dilyn cyflwyno'r cais ar gyfer y ganolfan hamdden newydd arfaethedig ar gyfer canol y ddinas, mae Cyngor Dinas Casnewydd yn rhannu delwedd newydd o sut y gallai edrych.

Mawrth 2021: Dyfarnu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer canolfan hamdden
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi llwyddo i sicrhau £7 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru tuag at ganolfan hamdden a lles newydd yng nghanol y ddinas.

Chwefror 2021: Golau gwyrdd ar gyfer canolfan hamdden newydd a champws canol y ddinas
Mae cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi cytuno y dylid creu canolfan hamdden a lles newydd yng nghanol y ddinas.

Ionawr 2021: Canolfan hamdden newydd a champws Coleg Gwent
Mae cabinet y cyngor wedi cytuno ar y cynnig ar gyfer canolfan hamdden a lles newydd yn ogystal â champws newydd yng nghanol y ddinas ar gyfer Coleg Gwent.