CEFNOGWCH NI
Mae Casnewydd Fyw yn cyflwyno rhaglenni chwaraeon a chelfyddydau hwyliog, cynhwysol a hygyrch yn ein cymuned ar gyfer plant, teuluoedd, ysgolion, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol ledled y ddinas.
Rydym yn deall pwysigrwydd gweithgarwch corfforol, ymarfer corff, cadw'n heini a chymryd rhan yn y celfyddydau a gweithgarwch creadigol arall a bod y rhain yn hanfodol i les corfforol a meddyliol ein cwsmeriaid.
Rydym yn sefydliad elusennol nad yw’n dosbarthu elw, sy'n golygu bod ein holl incwm sy’n weddill yn cael ei ail-fuddsoddi yn y sefydliad i wella ein rhaglenni, ein cyfleusterau a’n gwasanaethau ac i gefnogi hyfforddiant a datblygiad staff. Fyddai hyn ddim yn bosibl heb eich cefnogaeth barhaus chi.
Fel aelod neu gwsmer Casnewydd Fyw rydych yn helpu i gefnogi ein gwaith cymunedol hanfodol ac rydym yn hynod ddiolchgar.
Ein Cefnogaeth Gymunedol
Rhannu’r Cariad
Yn ystod y cyfnod heriol hwn, rydym am helpu pawb i gadw’n hapus ac yn iach a rhannu cariad a charedigrwydd ledled Casnewydd. Rhwng Diwrnod Santes Dwynwen a Dydd San Ffolant rydym wedi anfon pecynnau lles i gefnogi pobl sydd wedi’u hynysu i’w helpu i fod yn greadigol a chadw’n actif.
Hwyluswyd Rhannu’r Cariad trwy’r rhoddion a dderbyniwyd gan aelodau Casnewydd Fyw, cwsmeriaid a chynulleidfaoedd yn ogystal â chyllid gan Chwaraeon Cymru, ac rydym yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth.
Chwaraeon a Lles
Mae’r Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol yn cynnig ac yn hwyluso cyfleoedd chwaraeon o ansawdd uchel i blant, teuluoedd, ysgolion, cymunedau, clybiau a grwpiau lleol ledled Casnewydd. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni cynhwysiant cymdeithasol sy'n seiliedig ar chwaraeon, cymorth ar gyfer iechyd a lles teuluoedd, rhaglenni chwaraeon ysgol, llythrennedd corfforol a mwy.
Datblygu’r Celfyddydau
Mae tîm Datblygu Celfyddydau Cymunedol Glan yr Afon yn cynnig nifer o wahanol brosiectau, rhaglenni a mentrau sydd oll wedi'u llunio i gael cynifer o bobl â phosibl o bob oedran i ymwneud â'r celfyddydau a chreadigrwydd. Nod Glan yr Afon yw chwalu'r rhwystrau a allai fod yn atal aelodau o'r gymuned rhag cymryd rhan a dod i'r theatr yn ogystal â chefnogi artistiaid.
Cefnogwch ein Rhaglenni a'n Prosiectau
Os hoffech ein cefnogi, gallwch wneud hynny yn un o'r ffyrdd canlynol:

Gwnewch Rodd
Cyfrannwch unrhyw swm i gefnogi ein prosiectau ar ein tudalen Go Fund Me.
Cyfrannwch nawr
Prynwch Daleb Rhodd
Prynwch daleb ar gyfer gweithgaredd ffitrwydd neu gelfyddydol yn y dyfodol.
Siopa nawr

Cyfrannwch wrth i chi Siopa
Ymunwch ag Easy Fundraising heddiw a helpwch i'n cefnogi pan fyddwch yn siopa ar-lein.
Darllen rhagorDiolch
Diolch i'n holl gwsmeriaid ac aelodau anhygoel sydd wedi ein cefnogi. Ni allem wneud ein gwaith hanfodol i gefnogi lles y gymuned hebddoch chi.
cefnogaeth gorfforaethol
Os ydych yn fusnes neu'n sefydliad ac am ein cefnogi gallwch noddi prosiect, hysbysebu neu logi ein cyfleusterau.
Mwy o wybodaeth