Primary School Girls Football League Festival

Dathlodd Casnewydd Fyw, mewn cydweithrediad ag Ysgol Gynradd Llyswyry a Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), lwyddiant yr ail Ŵyl Cynghrair Merched Ysgolion Cynradd a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2024, yn Felodrôm Geraint Thomas. Cymrodd 19 ysgol ran, gyda nifer anhygoel o ferched Blwyddyn 5 a 6 - 220 ohonyn nhw - yn rhan o’r ddiwrnod oedd yn llawn gemau pêl-droed.

Galwodd gwesteion arbennig heibio, gan gynnwys Maise Miller a Cori Williams o Ferched Dinas Caerdydd, ynghyd â Neville Southall, cyn gôl-geidwad rhyngwladol Cymru.

Dywedodd Karl Reed, Pennaeth Chwaraeon Cymunedol a Lles Casnewydd Fyw, "Mae’n anhygoel gweld cynifer o ferched â gwên enfawr ar eu hwynebau, yn dod at ei gilydd yma yn Felodrom Geraint Thomas ar y cae 3G, i chwarae pêl-droed, bod yn actif, cystadlu, a chael hwyl; a'r cyfan tra’i bod yn tywallt y glaw! Mae'r dyfodol i ferched sy'n chwarae pêl-droed yng Nghasnewydd yn addawol iawn!"

Dywedodd Christine Williams, Cadeirydd Cynghrair Merched Gwent "Roedd yn ddigwyddiad gwirioneddol dda. Y cyfan wedi’i drefnu’n dda iawn a’r merched fel pe baen nhw’n cael hwyl fawr iawn. Bechod am y tywydd. Gwych gweld cynifer o ferched yn chwarae. Dywedodd Ysgrifennydd Gemau y GCGL wrtha i fod ei merch yn chwarae a’i bod wedi clywed ganddi yn dweud eu bod wedi cael modd i fyw. Cefais fy llun wedi’i dynnu hefyd gyda Neville Southall, felly roeddwn yn falch iawn. " Dywedodd Jack Milner (Ysgol Gynradd Llyswyry) – "Roedd yn wych gweld gŵyl lwyddiannus arall yn cael ei chynnal. Roedd yn wych gweld nifer y merched yn cynyddu a safon y gemau hyd yn oed yn uwch. Mae effaith Casnewydd Fyw, Sir yn y Gymuned a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn amlwg, gyda’r cynnydd mewn niferoedd a safon. Mae'r Gynghrair wedi profi unwaith eto ei bod yn rhan ganolog o’r gwaith o sicrhau datblygiad pêl-droed merched yng Nghasnewydd, yn ogystal â datblygu llwybrau clir i blant gymryd rhan mewn pêl-droed y tu allan i'r ysgol. O safbwynt ysgolion mae'r cyfleoedd yn cynnig amgylchedd diogel a hwyliog i chwarae pêl-droed ac ysbrydoli llawer o'n plant iau i gymryd rhan."

Yn dilyn y digwyddiad, gwahoddwyd y merched i ymuno â sesiynau “Fel Tîm” Casnewydd Fyw sydd wedi'u lansio mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ddarparu llwybrau ychwanegol i ferched 7-11 oed gymryd rhan mewn pêl-droed yn y gymuned. Cafodd y rhai oedd â diddordeb mewn ymuno â chlybiau pêl-droed lleol hefyd gynnig arweiniad a chefnogaeth mewn partneriaeth â Chynghrair Pêl-droed Merched Gwent.

Mae llwyddiant yr ail Ŵyl Cynghrair Merched Ysgolion Cynradd yn dangos ymrwymiad Casnewydd Fyw, Ysgol Gynradd Llyswyry, a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ddatblygu a hyrwyddo pêl-droed merched yn y rhanbarth. Mae presenoldeb Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn yr ŵyl, a’r peli a roddwyd fel rhoddion, yn enghraifft o'r ymdrechion ar y cyd sydd â’r nod o feithrin talent a chariad at y gamp ymhlith merched ifanc.

Hoffai Casnewydd Fyw ddiolch i Ysgol Gynradd Llyswyry a Chymdeithas Bêl-droed Cymru am eu cefnogaeth a'u cymorth o ran trefnu'r digwyddiad, ac edrychwn ymlaen at gynnal yr ŵyl nesaf ar ddydd Gwener, 14 Mehefin, 2024, yn Felodrom Geraint Thomas. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Brittany Cloke, Swyddog Datblygu Chwaraeon Cymunedol a Gweithgarwch Corfforol Casnewydd Fyw, drwy’r cyfeiriad e-bost canlynol. Brittany.cloke@newportlive.co.uk.

Cynhelir sesiynau Fel Tîm bob dydd Gwener rhwng 4:30 a 5:30 pm ar gae 3G Felodrom Geraint Thomas, am ddim. I gael rhagor o wybodaeth neu i gadw lle mewn sesiwn, cysylltwch â Casnewydd Fyw ar 01633 656757.