Mae Casnewydd Fyw yn helpu i drefnu apêl codi arian brys y Nadolig hwn i dros 300 o'r plant a'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghasnewydd, sy’n gysylltiedig â Gwasanaethau Plant Cyngor Dinas Casnewydd. Bydd yr arian a godir, gyda chymorth gwirfoddolwyr, pobl, busnesau a sefydliadau lleol yn galluogi prynu eitemau hanfodol ac anrhegion y Nadolig hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Stephen Marshall, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Wasanaethau Cymdeithasol, "Mae ein timau wedi nodi'r plant a'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed, y rhai a fyddai'n elwa'n fawr ar yr apêl hon.  Yn ystod y cyfnod heriol hwn pan fo costau cynyddol bwyd, tanwydd a gwres yn cael cymaint o effaith ar gymaint o bobl, mae'n hanfodol bod y rhai mwyaf agored i niwed yng Nghasnewydd yn cael cefnogaeth a mynediad at eitemau hanfodol, dillad cynnes, a nwyddau ymolchi. Mae dull cydweithredol apêl Cwtsh Nadolig Casnewydd yn dod â phobl leol, busnesau lleol, a'n partneriaid, fel Casnewydd Fyw, ynghyd gydag achos cyffredin i helpu plant a phobl ifanc sydd ei angen fwyaf!" .

Bydd yr holl arian a godir o apêl Cwtsh Nadolig Casnewydd yn cael ei ddefnyddio i brynu'r mathau canlynol o eitemau hanfodol ac anrhegion Nadolig a fyddai'n cynnig rhywfaint o gysur dros yr ŵyl eleni.

  • Carthenni/blancedi cynnes, menig, hetiau, sanau, hwdis/siwmperi cnu

  • Gemau/teganau sy’n addas i’r oedran

  • Llyfrau a thocynnau rhodd

  •  Poteli dŵr poeth                                          

  • Nwyddau ymolchi 

  • Danteithion Nadolig gan gynnwys bocsys danteithion amrywiol/bisgedi

Bydd gwirfoddolwyr yn creu basgedi, yn lapio anrhegion Nadolig ac yn eu dosbarthu i’r plant, y bobl ifanc a'r teuluoedd hynny a nodwyd gan y Gwasanaethau Plant. 

Dywedodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw, "Y llynedd gwnaeth ein tîm waith gwych yn gweithio mewn partneriaeth i godi ymwybyddiaeth o'r apêl, ac wrth gydlynu'r rhoddion trwy ein tudalen Go Fund Me. Ynghyd â gwirfoddolwyr lleol, busnesau, a thîm y Cyngor, gobeithiwn y bydd eleni hyd yn oed yn well, ac rydym wedi cyffroi i lansio'r apêl, gan ei fod yn achos mor wych!  Gofynnwn i chi os gallwch chi, roi rhodd, gan fod pob ceiniog yn cyfrif! Bydd yr holl arian yn mynd tuag at wneud gwahaniaeth i'r plant a'r bobl ifanc hynny yng Nghasnewydd sydd ei angen fwyaf y Nadolig hwn."

Er mwyn cefnogi Cwtsh Nadolig Casnewydd eleni, gellir rhoi rhoddion drwy dudalen Go Fund Me Casnewydd Fyw yn https://gofund.me/3950c85a. Cysylltwch â Karl Reed, Pennaeth Chwaraeon Cymunedol a Lles yn karl.reed@newportlive.co.uk os hoffech gyfrannu mewn unrhyw ffordd arall neu os hoffech drafod syniadau a chyfleoedd codi arian i chi, eich busnes neu sefydliad.