Profodd y Cwpan Trac CymruVelo cyntaf i fod yn  llwyddiant ysgubol, gan ddenu'r talentau beicio gorau o bob cwr o'r byd i Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas. Yn rhan o’r digwyddiad, a drefnwyd gan Casnewydd Fyw a Beicio Cymru roedd rasys gwefreiddiol a pherfformiadau rhyfeddol dros y ddau ddiwrnod.

Fe wnaeth athletwyr o Gymru, gan gynnwys Rhys Britton a Joe Holt, arddangos eu cryfder yn y ras bwyntiau a thempo, gan ennyn edmygedd gan y dorf gartref.  Yn ras Keirin y menywod y bu Emma Hinze yn cystadlu, Pencampwraig y Byd, a hithau’n cystadlu yng Nghasnewydd am y tro cyntaf gan gyflwyno perfformiad meistrolgar yn y pen draw i gipio'r teitl ynghyd â buddugoliaethau yn nigwyddiadau 500m TT a gwibio’r menywod.  Gwnaeth Hinze hefyd greu  record yn TT 500m y menywod gydag amser o 33.787.

Roedd dychweliad Lewis Oliva i Keirin y Dynion ar ôl saib o bum mlynedd, yn foment fawr i'r dorf. Roedd Ras Scratsh y Dynion wedi gweld Josh Charlton yn parhau’n gryf, tra bod Jess Roberts yn hawlio buddugoliaeth yn Omniwm y menywod ar ôl ras bwyntiau gyffrous. Ym Madison y Dynion, digwyddiad 120 lap gwefreiddiol, daeth Matt Brennan a Jed Smithson yn fuddugol dros y DU.

Roedd Cwpan Trac CymruVelo hefyd yn llwyfan i'r genhedlaeth nesaf o feicwyr trac, gyda bechgyn a merched ifanc yn cymryd rhan mewn digwyddiad Omniwm. Daeth Ryan Oldfield ac Esmee Bone i'r brig yn y categorïau bechgyn a merched, yn y drefn honno.

Hefyd yn rhan o ddathlu ugeinfed pen-blwydd Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas, a hanner can mlwyddiant Beicio Cymru, bu 100 o blant brwdfrydig yn bresennol ar gyfer dathliad seiclo deinamig. Roedd y festiva yn cofleidio amlochredd beicio gyda heriau trac pwmp, dylunio cystadleuaeth crys, sesiynau beicio plant, arddangosfeydd tir gwastad BMX, a mwy.   

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Casnewydd Fyw, Steve Ward, "Mae Cwpan Trac CymruVelo, a gynhelir rhwng Tachwedd 3ydd a 4ydd, wedi gosod meincnod newydd ar gyfer digwyddiadau seiclo trac yng Nghymru, gan arddangos talent ac angerdd anhygoel.  Roedd y digwyddiad hwn, a gynhaliwyd ar y cyd â Beicio Cymru, yn deyrnged addas i ben-blwydd Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yn 20 oed a hanner can mlwyddiant Beicio Cymru. Rydym wrth ein bodd ac yn ddiolchgar i'r holl gyfranogwyr, gwylwyr a noddwyr.  Mae llwyddiant Festiva Casnewydd, gyda 100 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn dathliad o feicio, yn ychwanegu haen arall o gyflawniad at benwythnos y dathliadau.  Dim ond y dechrau yw hyn, ac edrychwn ymlaen at ei gwneud hi eto yn y dyfodol, gan barhau i ddyrchafu seiclo trac yng Nghymru."

Dywedodd Prif Swyddog Geithredol Beicio Cymru, Caroline "Rydyn ni'n dal i fod ar gwmwl naw ar ôl Cwpan Trac CymruVelo hynod lwyddiannus.  Roedd yn wych gweld Beicio Cymru a Casnewydd Fyw yn cyflwyno diwrnod i’w gofio i ddathlu hanner canmlwyddiant ac 20fed pen-blwydd ein sefydliadau. Braf oedd gweld beicwyr o bob cwr o'r byd yn mynd i Gymru a Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas i gystadlu dros ddeuddydd o rasio campus. Rwy'n hynod falch o'r holl ymdrechion gan y ddwy set o staff a wnaeth y cwpan trac cyntaf mor arbennig."

Mae'r digwyddiad yn adlewyrchu gweledigaeth gyffredin Casnewydd Fyw a Beicio Cymru o sicrhau bod Felodrom Geraint Thomas Cymru yn hyb byd-eang ar gyfer cystadlaethau beicio haen uchaf ac yn symbol o ragoriaeth ym myd beicio.  Mae'r dyhead uchelgeisiol hwn yn amlygu eu hymrwymiad i feithrin twf a chydnabyddiaeth y gamp ar raddfeydd cenedlaethol a rhyngwladol, gan gadarnhau ymhellach eu hymroddiad i'r gymuned feicio a threftadaeth y Felodrom.

Mae Casnewydd Fyw a Beicio Cymru yn diolch i'r cyfranogwyr, gwylwyr a noddwyr am wneud Cwpan Trac CymruVelo a Festiva Casnewydd yn llwyddiant ysgubol. Mae cynlluniau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol eisoes ar y gweill, gan addo hyd yn oed mwy o eiliadau gwefreiddiol ar y trac felodrom.