• slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide

 

Dathlodd Canolfan Tennis Casnewydd lwyddiant ei Diwrnod Agored diweddar, oedd yn nodi lansiad swyddogol ei chyrtiau tennis dan do sydd newydd gael eu hadnewyddu. Roedd y digwyddiad hwn yn ddiwrnod o gyffro tennis, gydag amrywiaeth o weithgareddau wnaeth ysbrydoli’r mynychwyr a’u gwneud yn barod i godi raced ar gyfer ffordd hapusach ac iachach o fyw.

Ar 28 Hydref, croesawodd Canolfan Tennis Casnewydd y gymuned i'w chyrtiau dan do sydd newydd eu hadnewyddu. Roedd y Diwrnod Agored yn cynnwys sesiynau tennis am ddim, gan gynnwys hyfforddiant ieuenctid yr LTA (Cymdeithas Tennis Lawnt), sesiynau hyfforddi oedolion, chwarae rhydd, ac amser i’r teulu ar y cwrt, a chafodd pob un ohonynt eu croesawu gan gyfranogwyr o bob oed a lefel sgiliau.

Roedd ymrwymiad Canolfan Tennis Casnewydd i sicrhau bod tennis yn hygyrch i bawb yn amlwg drwy gydol y dydd. Roedd y digwyddiad yn llwyfan i bobl o bob cefndir ddod at ei gilydd a rhannu llawenydd tennis, p'un ag oeddent yn chwaraewyr profiadol neu'n ddechreuwyr yn rhoi cynnig arni am y tro cyntaf.

Uchafbwynt y diwrnod oedd seremoni agoriadol swyddogol y cyrtiau, a gynhaliwyd gan y Cynghorydd Debbie Harvey, gan bwysleisio pwysigrwydd y cyfleuster hwn i'r gymuned leol. Ymunodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes a Richard Dale, Pennaeth Datblygu Busnes Casnewydd Fyw, hefyd i ddathlu ail-lansio'r cyrtiau, gan ddangos ymroddiad Casnewydd Fyw i feithrin ymgysylltiad cymunedol a hyrwyddo ffordd o fyw egnïol ac iachach.

Wrth fyfyrio ar lwyddiant y Diwrnod Agored, dywedodd y Rheolwr Tennis, Luke Difranco, "Mae ein cyrtiau dan do newydd yn fwy na chyfle i chwarae tennis yn unig; maent yn symbol o'n hymrwymiad i les ein cymuned. Roedd y brwdfrydedd a'r egni a welsom yn ystod y Diwrnod Agored hwn yn ysbrydoli. Rydym yn croesawu cenhadaeth Casnewydd Fyw yn llwyr i ysbrydoli pobl i fyw bywydau hapusach ac iachach. Rydym yn gobeithio y bydd pawb a ymunodd â ni yn parhau i codi raced a phrofi'r manteision iechyd corfforol a meddyliol niferus y mae tennis yn eu cynnig."

Roedd Andrea Ovey, y Cyfarwyddwr Datblygu Busnes, yn rhan o ddathliad Diwrnod Agored llwyddiannus Canolfan Tennis Casnewydd a lansio’r cyrtiau tennis newydd a dywedodd "Mae'r digwyddiad hwn yn ymgorffori pŵer chwaraeon i ddod â chymuned ynghyd, gan uno pobl ar draws cymunedau. Rydym ni, yn Casnewydd Fyw, yn ymroddedig i ysbrydoli unigolion i fyw bywydau hapusach ac iachach. Mae'r Diwrnod Agored yn dangos ein hymrwymiad i hyrwyddo cyrhaeddiad ac ymgysylltiad â'r gamp, fel un o ddim ond 6 chanolfan tennis dan do yng Nghymru rydym yn ffodus iawn o gael cyfleuster o'r fath yng Nghasnewydd, mae'r gwaith adnewyddu a'r buddsoddiad yn y cyfleuster yn hynod bwysig. Edrychwn ymlaen at barhau i groesawu pawb i'r Ganolfan Tennis i ymuno yn y gamp."

Yn yr ysbryd o barhau â'r momentwm hwn, bydd Canolfan Tennis Casnewydd yn cynnal cyfres o sesiynau ar gyfer ieuenctid ac oedolion ym Mharc Tredegar yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys cwrs Dechrau Ieuenctid yr LTA, sy'n addas ar gyfer plant 4 i 11 oed, a Tennis Xpress i oedolion. Mae'r ddwy raglen dros chwe wythnos ac maent wedi'u cynllunio i roi sylfaen gref i gyfranogwyr yn y gêm. I archebu'r sesiynau hyn, ewch i https://clubspark.lta.org.uk/NewportliveParksTennis.

Mae Diwrnod Agored Canolfan Tennis Casnewydd wedi cael effaith barhaol, gan ysbrydoli pobl i godi raced a byw bywydau hapusach ac iachach. Dangosodd y digwyddiad bŵer chwaraeon yn meithrin ymdeimlad o gymuned a gwella lles cyffredinol.

Am fwy o wybodaeth am Ganolfan Tennis Casnewydd a'i rhaglen tennis, ewch i casnewyddfyw.co.uk/tennis.