Mae Canolfan Tennis Casnewydd yn falch iawn o gyhoeddi agoriad ei chyrtiau tennis dan do newydd eu hail-wynebu. I nodi'r garreg filltir gyffrous hon, bydd y ganolfan yn cynnal diwrnod lansio agored ar 28 Hydref rhwng 10am a 1pm.

Prif nod y prosiect adnewyddu a ariannwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd a Chwaraeon Cymru, a ddechreuodd ym mis Medi, oedd gwella'r profiad chwarae cyffredinol yn y cyfleuster. Mae'r fenter hon yn bwysig iawn i drigolion lleol ac ymwelwyr o ranbarthau eraill, gan fod Canolfan Tennis Casnewydd yn un o ddim ond chwe Chanolfan Tennis Dan Do Gymunedol yng Nghymru.

I nodi'r achlysur pwysig hwn, mae Canolfan Tennis Casnewydd yn gwahodd pawb sy’n hoff o dennis, aelodau a'r cyhoedd i ymuno ar gyfer diwrnod lansio agored ar 28 Hydref rhwng 10am a 1pm. Mae'r digwyddiad yn addo diwrnod llawn gweithgareddau cyffrous sy'n addas i bob oedran a lefel sgiliau. Bydd mynychwyr yn cael y cyfle unigryw i gymryd rhan mewn gemau cyfeillgar, cael awgrymiadau hyfforddi gan hyfforddwyr profiadol, ac, yn bwysicaf oll, i roi prawf ar y cyrtiau newydd eu hail-wynebu!

Mynegodd Luke Difranco, Rheolwr Tennis Casnewydd Fyw, ei gyffro, gan ddweud, "Rydym wrth ein bodd o gael datgelu ein cyrtiau tennis dan do newydd eu hail-wynebu, prosiect sy'n crynhoi ein hymroddiad diwyro i ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i'n haelodau a'r gymuned tennis ehangach. Nid yw'r gwaith adnewyddu sylweddol hwn yn ymwneud â gwella'r seilwaith ffisegol yn unig; mae'n adlewyrchiad o'n hymrwymiad dwfn i feithrin cariad at dennis. Credwn yn gryf y bydd y cyrtiau wedi’u huwchraddio hyn yn gwneud mwy na gwella'r profiad chwarae; byddant yn ysgogi brwdfrydedd newydd ar gyfer y gamp. Ein gobaith yw y byddant yn gatalydd, gan ysbrydoli mwy o unigolion i naill ai croesawu tennis fel angerdd newydd neu ailysgogi eu brwdfrydedd presennol ar gyfer y gêm. Mae'r cyrtiau hyn yn cynrychioli mwy nag arwyneb; maent yn dynodi dyfodol bywiog i dennis yng Nghanolfan Tennis Casnewydd."

Dywedodd Richard Dale, Pennaeth Datblygu Busnes Casnewydd Fyw "Mae cyrtiau tennis dan do newydd eu hail-wynebu Canolfan Tennis Casnewydd yn dyst i'n hymrwymiad i ragoriaeth. Rydym wrth ein bodd i wahodd pawb sy’n hoffi tennis, chwaraewyr profiadol a newydd-ddyfodiaid, i ymuno â ni ar 28 Hydref ar gyfer diwrnod o ddathlu. Mae'r cyrtiau wedi’u huwchraddio hyn yn fwy nag arwyneb; maent yn cynrychioli ein hymroddiad i ddarparu cyfleuster o ansawdd uchel i'n cymuned ac i dennis yng Nghymru. Nod Casnewydd Fyw yw ysbrydoli pobl i fyw bywydau hapusach ac iachach drwy gymryd rhan mewn tennis".

Bydd diwrnod lansio agored Canolfan Tennis Casnewydd yn cael ei gynnal ar 28 Hydref rhwng 10am a 1pm. Mae'r digwyddiad hwn am ddim, ac mae croeso i bawb ei fynychu. P'un a ydych yn chwaraewr profiadol neu’n ddim mwy na chwilfrydig am y gamp, mae'r digwyddiad hwn yn addo bod yn ddathliad cyffrous o dennis a'r cyfleuster wedi'i uwchraddio yng Nghanolfan Tennis Casnewydd.

I gael mwy o wybodaeth a diweddariadau am ddiwrnod agored Canolfan Tennis Casnewydd, ewch i casnewyddfyw.co.uk neu edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol @NewportLiveUk.