Mae ein trac stadiwm nawr ar gael i'w archebu!

Mae ein trac stadiwm nawr ar gael i'w archebu i unigolion yn unig.

Bydd modd archebu sesiynau 50 munud o hyd ar yr awr am 4pm bob dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Caniateir i uchafswm o 8 unigolyn fynychu'r sesiynau hyn. 1 fesul lôn.

Sylwch:  Bydd y cae a’r mannau taflu a neidio yn parhau ar gau. Mae hyn ar gael i unigolion yn unig, ni chaniateir unrhyw wylwyr na mynediad i'r stondin. Gall plant dan 16 oed fod yng nghwmni 1 oedolyn nad yw’n cymryd rhan.

Mae pob sesiwn yn costio:

Oedolion £5.55
Pobl Ifanc £2.70
Pobl Hŷn £3.35

Bydd angen i chi archebu ar ein ap neu ar ein gwefan.

 

Archebu

I archebu lôn rhaid bod gennych gyfrif ar-lein gyda ni. Ni fydd modd i chi ddefnyddio ein trac os nad ydych wedi archebu.

Os oes gennych gyfrif ar-lein neu os ydych wedi derbyn cerdyn Casnewydd Fyw yn y gorffennol, gallwch archebu yma neu ar ein ap Casnewydd Fyw.

Os nad oes cyfrif ar-lein gennych, gallwch gofrestru yma.

Cliciwch yma i weld ein fideos gyda mwy o fanylion am sut i sefydlu eich ap Casnewydd Fyw.

Os oes angen help arnoch gyda’ch archeb, cysylltwch â customerservice@newportlive.co.uk.

 

Cyrraedd

Wrth gyrraedd gall cwsmeriaid gael mynediad i drac rhedeg y stadiwm o'r giât werdd gyferbyn â maes parcio Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, ar ôl iddynt siarad â thîm y dderbynfa yn y Felodrom. Wrth gyrraedd, byddwch yn cael lôn benodol gan ein haelod o’r Tîm Casnewydd Fyw, bydd lonydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

 

Telerau ac Amodau Archebu a Chanslo Ychwanegol

I sicrhau ein bod yn cadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol, rhaid archebu ar-lein/ar ein ap o flaen llaw.

Gall cwsmeriaid archebu un sesiwn y dydd yn unig.

Ni ellir ad-dalu costau sesiynau a archeboch os ydych yn eu canslo gyda llai na 24 awr o rybudd neu os nad ydych yn dod i’ch sesiwn. Os bydd angen i chi ganslo eich sesiwn ar y trac, e-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk

Os nad oes modd cynnal y sesiwn, byddwn yn ei symud i amser mwy addas neu’n rhoi ad-daliad.  

Bydd pob sesiwn yn dod i ben 10 munud i'r awr.  Os bydd cwsmer yn cyrraedd yn hwyr, ni roddir ad-daliadau.

Mae hyn ar gael i unigolion yn unig, ni chaniateir gwylwyr na mynediad i'r stondin. Gall plant dan 16 oed fod yng nghwmni 1 oedolyn nad yw’n cymryd rhan.