Bydd y cwestiynau cyffredin hyn yn cael eu diweddaru wrth i ni fwrw ‘mlaen ag agor yr Gorsaf. Cofiwch gadw golwg ar y dudalen hon, y byrddau gwybodaeth yn ein lleoliadau a'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Pam fod Casnewydd Fyw yn agor canolfan dros dro?

Rydym yn agor canolfan lesiant a gweithgareddau corfforol dros dro, cyn cau Canolfan Casnewydd ar ddiwedd mis Mawrth 2023, er mwyn sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gweithgareddau corfforol a gweithgareddau lles yng nghanol y ddinas.

Pa bryd fydd y ganolfan yn agor?

Rydyn ni'n bwriadu i'r ganolfan agor ar 1 Ebrill 2023, ond bydd dyddiadau'n cael eu cadarnhau cyn gynted ag y gallwn a chyn cau Canolfan Casnewydd.

Ble fydd y ganolfan dros dro?

Mae wedi ei leoli gyferbyn â Gorsaf Drenau Casnewydd, nesaf at Admiral House. Bu’n lleoliad gynt ar gyfer y Gym Group a dim ond deng munud ar droed o Ganolfan Casnewydd.

Y cyfeiriad yw: Uned B7, Station Quarter, Queensway, Casnewydd, NP20 4AD.

Ceir mynedfeydd i'r ganolfan newydd ar:

Cambrian Road

Y Plaza, oddi ar Queensway Road

Trwy fynedfa’r maes parcio preifat ar Station Street

Sut fydda i yn gallu cael mynediad i'r ganolfan dros dro?

Rydym yn adolygu'r holl fanylion ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddwn yn gosod system i reoli mynediad a fyddai’n defnyddio eich cerdyn aelodaeth Casnewydd Fyw. Defnyddir ein proses archebu arferol trwy ein gwefan, trwy’r Ap a thrwy ein timau.  Bydd y cyfleoedd archebu yn cael eu cadarnhau a'u rhyddhau i gwsmeriaid yn ystod mis Mawrth.

A fydd modd cyrchu'r ganolfan dros dro ar droed a chan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?

Oes. Mae'r ganolfan oddeutu 5 munud ar droed o Orsaf Fysiau Casnewydd ac mae'n daith gerdded 3 munud o Orsaf Drenau Casnewydd.  Bydd modd cyrraedd y ganolfan gyda lifft ar gael o fynedfa Cambrian Road.

Gwiriwch Amserlenni Bws Casnewydd, www.newportbus.co.uk neu eich darparwr lleol i gael gwybodaeth ynghylch llwybrau i’r ganolfan.

Oes 'na le diogel i barcio fy meic yn y ganolfan dros dro?

Oes. Caiff y lleoliad ei gadarnhau cyn gynted â phosibl a chyn i Ganolfan Casnewydd gau.

A fydd cyfleusterau parcio ceir ar gael? 

Gall Aelodau Talu a Chwarae elwa o 3 awr o barcio car ar y safle am ddim wrth ddefnyddio'r gampfa neu gymryd rhan mewn dosbarth yn Yr Orsaf.

Bob tro y byddwch yn ymweld â'r Orsaf bydd angen i chi gofrestru a dilysu parcio car. I wneud hyn bydd angen i chi fewnbynnu rhif cofrestru'ch cerbyd i'r llechen sydd wedi'i lleoli wrth ddesg y dderbynfa.

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, siaradwch ag aelod o'r tîm.

Noder y bydd methu cofrestru a dilysu parcio yn arwain at Hysbysiad Tâl Cosb gan Smart Parking. (Rheolir maes parcio'r Orsaf gan Smart Parking.)


 

Pa gyfleusterau fydd ar gael yn y ganolfan dros dro?

Mae’r ganolfan dros dro dair gwaith maint campfa Canolfan Casnewydd a bydd ganddi amrywiaeth eang o offer hyfforddi cardiofasgwlaidd a gweithredol newydd a chyfarwydd. Bydd ardal pwysau rhydd bwrpasol, ardal ymarfer corff grŵp ar gyfer dosbarthiadau dwysedd uchel ac isel a beicio dan do. Bydd rhywbeth at ddant pawb!

Bydd ein tîm ar gael i'ch croesawu i'n hardal gymdeithasol bwrpasol a’ch arwain a'ch annog ar hyd eich taith ffitrwydd unwaith bydd y ganolfan yn agor. Bydd cymorth personol wedi'i deilwra a sesiynau 1 i 1 hefyd yn parhau i’n haelodau.   Mae ystafelloedd ymgynghori newydd ar gael hefyd at ddefnydd arbenigol.

Bydd yr ystafelloedd newid yn cynnig loceri, cawodydd, ac ardaloedd ymolchi. Bydd lle hygyrch i newid hefyd ar gael.

Ar hyn o bryd, rydw i'n aelod yng Nghanolfan Casnewydd, beth fydd yn digwydd i fy aelodaeth?

Bydd holl aelodau Casnewydd Fyw, gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio Canolfan Casnewydd yn parhau yn unol â'r Telerau ac Amodau aelodaeth presennol.

Byddwn yn croesawu'r aelodau presennol i ragflas o'r ganolfan dros dro unwaith y bydd modd a byddwn yn cadarnhau'r manylion fis Mawrth.

A fydd gen i'r un cymorth a chefnogaeth yn y ganolfan dros dro er mwyn fy helpu i ‘nghadw ar fy nhaith ffitrwydd?

Oes. Fe fydd manteision aelodaeth Casnewydd Fyw yn parhau, mae hyn yn cynnwys mynediad i Gampfa, Nofio, Dosbarthiadau a Champau Raced yn ogystal â chefnogaeth bersonol. Byddwn ni'n cyhoeddi mwy yn yr wythnosau i ddod, gan gynnwys amseroedd agor ac amserlenni.  Sicrhewch fod y wybodaeth sydd gennym ar ein system yn gywir, mae hyn yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost fel y gallwn roi gwybod i chi.

 

A fydd yr holl ddosbarthiadau ymarfer corff grŵp yng Nghanolfan Casnewydd yn adleoli i'r ganolfan dros dro?

Na. Bydd rhai dosbarthiadau ymarfer corff grŵp yn adleoli i'r ganolfan dros dro. Bydd rhai dosbarthiadau yn symud i Bentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, ac i Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon. Defnyddir ein proses archebu arferol trwy ein gwefan, trwy’r Ap a thrwy ein timau.  Bydd y cyfleoedd archebu hyn yn cael eu cadarnhau a'u rhannu gyda chwsmeriaid yn ystod mis Mawrth.

Gweld Amserlenni 

 

Rwy'n mynd i'r rhaglen Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (NERs) yng Nghanolfan Casnewydd, i le caiff hyn ei adleoli?

Bydd y rhaglen Cyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (NERs) yn parhau yn y ganolfan dros dro ac mewn canolfannau Casnewydd Fyw eraill. Cydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy’n cynnal y rhaglen NERs, bydd eich hyfforddwr NERs a chydweithwyr Casnewydd Fyw yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad unwaith i'r manylion hyn gael eu cadarnhau. Fe fydd amserlen yn cael ei chyhoeddi a'i dosbarthu cyn gynted ag y gallwn a chyn i Ganolfan Casnewydd gau.

A fydd Plant Bach Actif yn parhau?

Oes. Bydd sesiynau Plant Bach Actif yn parhau mewn lleoliadau eraill sy'n golygu y gallai fod newid i'r offer a'r teganau sydd ar gael. Fe fydd amserlen yn cael ei chyhoeddi a'i dosbarthu cyn gynted ag y gallwn a chyn i Ganolfan Casnewydd gau.

A fydd neuadd chwaraeon yn y ganolfan dros dro?

Na. Yn anffodus, nid oes lle ar gael gennym i gynnig llogi cyrtiau a champau racedi. Gellir cyrchu’r rhain ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd neu yng Nghanolfan Byw'n Actif. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma: Gweithgareddau Eraill | Mae Casnewydd Fyw yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon (newportlive.co.uk) neu archebu yma: Digwyddiadau | Archwiliwch y digwyddiadau Chwaraeon a Chelfyddydau sydd yn yr arfaeth yn Casnewydd Fyw (newportlive.co.uk)

 

 

 

 

Gyda phwy alla i siarad am fy aelodaeth Casnewydd Fyw?

Siaradwch ag un o'n tîm derbynfa a fydd yn hapus i'ch helpu. Fel arall, siaradwch â'n tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 01633 656757 neu e-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk.

I gael gwybodaeth am aelodaeth Casnewydd Fyw ewch i Aelodaeth | Aelodaeth Casnewydd Fyw i oedolion, plant iau a nofio yn unig (newportlive.co.uk) .

Am wybodaeth ynglŷn â thelerau ac amodau eich aelodaeth ewch i:  Telerau ac Amodau | Casnewydd Fyw (newportlive.co.uk).



 

Mae fy manylion cyswllt wedi newid, sut ddylwn i eu diweddaru?

Siaradwch ag aelod o'n tîm derbynfa neu’n gwasanaethau cwsmeriaid er mwyn sicrhau bod y manylion cyswllt cywir ar eich cyfrif aelodaeth gennym. Fel arall, anfonwch e-bost atom drwy customerservice@newportlive.co.uk gyda'ch enw, dyddiad geni a’ch cod post, os bydd angen i chi roi gwybod i ni am newid i'ch cyfeiriad e-bost.

A oes rhaid i mi fod yn aelod i ddefnyddio'r ganolfan dros dro neu unrhyw un o gyfleusterau Casnewydd Fyw?

Na. Gallwch chi yn syml Dalu a Chwarae i fynychu unrhyw un o'n campfeydd, nofio, a dosbarthiadau ac i gyrchu'n cyfleusterau.

Bydd angen i chi gofrestru eich manylion ar gyfer cerdyn Casnewydd Fyw ac i gael mynediad rhwydd i archebu a thalu ar-lein. Bydd angen i chi hefyd fynychu Croeso i Aelod.

Cofrestru i Dalu a Chwarae ar lein yma: Join@home gyda Casnewydd Fyw (gs-signature.cloud)

Cewch fwy o wybodaeth a threfnu Croeso i Aelod yma: Casnewydd Fyw | Hyfforddiant a Chefnogaeth Bersonol 1 i 1



 

Lle arall alla i fynychu gweithgareddau pwll a nofio gyda Casnewydd Fyw?

Mae gennym ddau leoliad sydd â phyllau, y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd a'r Ganolfan Byw'n Actif yn y Betws. Gallwch weld a threfnu sesiynau naill ai ar ein gwefan yma: Digwyddiadau | Archwiliwch y digwyddiadau Chwaraeon a Chelfyddydau sydd yn yr arfaeth yn Casnewydd Fyw (newportlive.co.uk) neu ar ein Ap Casnewydd Fyw.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y lleoliadau hyn, ewch i: Lleoliadau | Cartref chwaraeon, ffitrwydd, y celfyddydau a diwylliant ar draws 7 lleoliad yng Nghasnewydd (newportlive.co.uk)

Fel arall, gallwch siarad â'n tîm derbynfa neu ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid ar 01633 656757 a fydd yn gallu cofrestru eich manylion.

Rydym yn argymell eich bod yn archebu eich gweithgaredd cyn i'r sesiwn ddechrau er mwyn sicrhau eich lle.

Beth mae aelodaeth o Gasnewydd Fyw yn ei gynnwys?

Mae gennym ddewisiadau ar gael o ran aelodaeth, i gyd-fynd â'ch taith ffitrwydd, gallwch ddysgu mwy am ein haelodaeth, yr hyn sydd wedi'i gynnwys a chofrestru ar-lein yma: Newport Live | Opsiynau aelodaeth

Peidiwch ag anghofio gydag aelodaeth Casnewydd Fyw gallwch fwynhau ymarfer yn unrhyw un o'n lleoliadau Casnewydd Fyw ledled y ddinas.

Ar hyn o bryd mae gan aelodau hefyd 2 docyn sinema am bris 1 yn Theatr Glan yr Afon a gostyngiad ar docynnau theatr dethol. Yn ogystal, does dim cytundeb na thâl ymuno!

Gallwch siarad ag unrhyw un o'n timau derbynfa am ein dewisiadau aelodaeth. Neu gallwch siarad â'n tîm gwasanaeth cwsmeriaid ar 01633 656757 neu anfon e-bost at customerservice@newportlive.co.uk.

 

 

Ar ba oedran gall pobl ifanc ddechrau defnyddio'r gampfa a mynd i ddosbarthiadau?

Gall plant 11-13 oed ddefnyddio'r gampfa ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn.  Gall plant 14+ oed ddefnyddio'r gampfa ar eu pennau eu hunain ond rhaid i oedolyn fod yn bresennol yn ystod eu sesiwn groeso i aelodau a’r sefydlu yn y gampfa.

 

A fydd Canolfan Casnewydd yn cael ei disodli?

Ym mis Chwefror 2021, cymeradwyodd y cabinet greu canolfan hamdden, nofio a lles bwrpasol garbon-niwtral, gyda chyfleusterau modern, wedi'i lleoli ar safle allweddol ar lan yr afon i ddisodli’r hen Ganolfan Casnewydd. Cafwyd mwy na 1,000 o ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion gyda'r mwyafrif llethol yn cefnogi'r datblygiadau newydd arfaethedig.

Fel Ymddiriedolaeth Elusennol a phartner dewisol Cyngor Dinas Casnewydd, bydd Casnewydd Fyw yn parhau i gefnogi Cyngor Dinas Casnewydd gyda’r datblygiad hwn. Dyma wybodaeth am hynt y ganolfan hamdden newydd: Hau Cyfleuster Hamdden Newydd (newportlive.co.uk)