Datganiad gan y Prif Weithredwr, Steve Ward, am Ymgynghoriadau Diswyddo yng Nghasnewydd Fyw

"Mae'r sefyllfa Coronafeirws bresennol yn cael effaith sylweddol ar Casnewydd Fyw; y sector chwaraeon, hamdden a diwylliant; a'r economi ehangach. Ers ailagor cyfleusterau i'r cyhoedd ym mis Awst, mae'r mesurau iechyd cyhoeddus sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru wedi effeithio'n sylweddol arnon ni, fel y mae Cyfnod Atal Llywodraeth Cymru, ac mae ein holl gyfleusterau ar gau ar hyn o bryd. Mae Casnewydd Fyw yn cydnabod bod y mesurau hyn er budd y boblogaeth ehangach ac yn cadw pobl yn ddiogel, ond maen nhw wedi cyfyngu ar ddychweliad nifer o wasanaethau, wedi lleihau capasiti gwasanaethau eraill, ac mae hyder defnyddwyr yn parhau'n isel ac yn parhau i effeithio ar ein hymddiriedolaeth elusennol.

"Mae cyfnodau cloi lleol wedi effeithio ar fynediad i adeiladau o arwyddocâd cenedlaethol fel Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a'r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol, gan arwain at lai o gyfranogiad gan gwsmeriaid a cholli archebion. Mae hyn wedi arwain at golli incwm sylweddol. Mae pwll nofio Canolfan Casnewydd hefyd ar gau ar hyn o bryd, yn disgwyl canlyniadau arolygon strwythurol, ac mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Theatr a Chanolfan Gelf Glan yr Afon barhau ar gau, ac nid oes gennym ddyddiad disgwyliedig ar gyfer ailagor.

"Yn anffodus, ar 29 Medi, dywedodd Casnewydd Fyw wrth 97 o weithwyr fod eu rolau mewn perygl o gael eu dileu. Wedyn, dechreuwyd ymgynghori ar y cyd â'r cydweithwyr hynny, gyda chefnogaeth Undebau Llafur a chynrychiolwyr cyflogeion.

"Addawodd y Weithrediaeth wneud popeth o fewn eu gallu i leihau'r effaith ar golli swyddi, gan weithio'n ddiflino gyda chefnogaeth Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, partneriaid gan gynnwys Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru, i geisio atebion amgen ac i leihau nifer y swyddi a gollir.

"Mae Casnewydd Fyw heddiw wedi cadarnhau bod y broses ymgynghori ar y cyd gyda chydweithwyr wedi dod i ben. Rydym yn hynod ddiolchgar o fod wedi cael cymorth gan Gyngor Dinas Casnewydd a Chronfa Galedi Llywodraeth Cymru yn ogystal â Chyngor Celfyddydau Cymru. Rydym wedi cael rhagor o eglurder gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r Cynlluniau Cymorth Swyddi ar gyfer busnesau sydd ar agor a busnesau sydd ar gau.  Fodd bynnag, mae 12 swydd yn dal mewn perygl o gael eu dileu yng Nghasnewydd Fyw, ac rwyf i a'r tîm yn parhau i chwilio am opsiynau eraill i'r bobl yr effeithir arnynt a’u cefnogi drwy'r cyfnod anodd hwn. 

"Mae Casnewydd Fyw yn parhau'n ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid lleol ac rydym yn annog pobl leol i gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru a dilyn y canllawiau yn ystod y Cyfnod Atal.  Rydym yn awyddus i’n gwasanaethau ddychwelyd o 9 Tachwedd fel y gallwn gynnal gwasanaethau a rolau i'n cydweithwyr yn y meysydd chwaraeon, hamdden, theatr, y celfyddydau a diwylliant cyn gynted â phosibl."

 

 

 

Er bod cyfleusterau Casnewydd Fyw ar gau yn ystod y Cyfnod Atal, rydym yn parhau i weithio o bell. Mae ein Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar gael rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 01633 656757, drwy e-bost enquiries@newportlive.co.uk neu ar-lein drwy’r opsiwn sgwrsio ar newportlive.co.uk 

Mae Casnewydd Fyw yn sefydliad ac elusen nad yw’n dosbarthu elw sy’n cyflwyno rhaglenni chwaraeon a chelfyddydau hwyliog, cynhwysol a hygyrch yn ein cymuned ar gyfer plant, teuluoedd, ysgolion, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol ledled y ddinas. Gallwch gael gwybod mwy am sut i gefnogi Glan yr Afon a Chasnewydd Fyw yma: http://www.newportlive.co.uk/cy/Amdanom-ni/Cefnogwch-ni/