Cefnogwch Ni
Mae Casnewydd Fyw yn cyflwyno rhaglenni chwaraeon a chelfyddydau hwyliog, cynhwysol a hygyrch yn ein cymuned ar gyfer plant, teuluoedd, ysgolion, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol ledled Casnewydd.
Rydym yn deall pwysigrwydd gweithgarwch corfforol, ymarfer corff, cadw'n heini a chymryd rhan yn y celfyddydau a gweithgarwch creadigol arall a bod y rhain yn hanfodol i lesiant ein cwsmeriaid.
Mae Casnewydd Fyw yn sefydliad ac elusen dosbarthu nid-er-elw, sy'n golygu bod ein holl incwm sy’n weddill yn cael ei ailfuddsoddi yn y sefydliad i wella ein rhaglenni, ein cyfleusterau a’n gwasanaethau ac i gefnogi hyfforddiant a datblygiad staff. Fyddai hyn ddim yn bosibl heb eich cefnogaeth barhaus chi.
Os hoffech ein cefnogi, gallwch wneud hynny mewn un o'r ffyrdd canlynol:
- Archebwch docyn ar gyfer perfformiadau yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon
- Trefnwch weithgaredd neu brofiad ffitrwydd ar gyfer y dyfodol
Cefnogwch ein Rhaglenni Cymunedol Celfyddydau a Chwaraeon
Gallwch hefyd roi i Casnewydd Fyw i gefnogi’r prosiectau celfyddydau a chwaraeon rydym yn eu cynnig yn y gymuned.
- Gwnewch rodd i’n tudalen Go Fund Me
- Siopwch ar-lein gan ddefnyddio Easy Fundraising neu The Giving Machine neu Amazon
- Beth am dalgrynnu eich pryniant wrth brynu tocynnau o Theatr Glan yr Afon
- Defnyddiwch wasanaeth Ticket Turnback i gyfrannu gwerth y tocynnau a ad-dalwyd
cefnogaeth gorfforaethol
Os ydych yn fusnes neu'n sefydliad ac am ein cefnogi gallwch noddi prosiect, hysbysebu neu logi ein cyfleusterau.
Mwy o wybodaeth