Image of three characters in period dress      Two adults in colourful dungarees stood next to building blocks which spell out 'chores'

 

Yr haf hwn mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch iawn o gynnal amrywiaeth o sioeau a gweithgareddau i deuluoedd eu mwynhau gyda'i gilydd. O sioeau ag enwau mawr i theatr stryd am ddim, mae rhywbeth ar ddod i bawb dros yr haf.

Ac i lansio’r cyfan ar ddydd Sadwrn 18 Mehefin mae sioe newydd sbon gan yr awdur plant enwog arobryn, Terry Deary, o’r enw Twisted Tales. Yn adnabyddus am wneud hanes yn hygyrch i gynulleidfaoedd iau trwy addysg ddoniol, mae'r sioe newydd hon gan Deary yn addo hwyl gyffrous llawn ffeithiau wrth i dri actor berfformio dros 100 o rolau, mewn darn arbennig o ddifyr ac addysgol.

Bydd cynulleidfaoedd yn cwrdd â nifer o gymeriadau gan gynnwys Mr Pimm, athro ysgol Fictoraidd sy'n brwydro yn nannedd anfanteision i ddysgu peth neu ddau i'w ddisgyblion plagus gyda chanlyniadau doniol yn yr ymgais i ddarganfod 'a all y gorffennol ragweld y dyfodol mewn gwirionedd?'. Mae'r sioe'n addo bod yn llawn hynt a helyntion annisgwyl, newidiadau gwisgoedd cyflym a ffraethineb miniog a fydd yn gadael y cynulleidfaoedd 8 oed a hŷn yn chwerthin yn eu dyblau.

Ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf bydd llu o gymeriadau teledu plant adnabyddus a phoblogaidd yn camu ar y llwyfan yn barod i ddiddanu yn Milkshake! Live: Monkey’s Musical.

Bydd Milkshake! Monkey yn cynnal sioe ysblennydd, gyda rhai o'i hoff Ffrindiau Milkshake! yn ogystal â dau Gyflwynydd Milkshake! i greu sioe syfrdanol ar gyfer aelodau ieuengaf y teulu. Ymunwch â Paddington, Daisy ac Ollie, Milo, Noddy, Pip a Posy, Blues Clues & You ac wrth gwrs Milkshake! Monkey am sioe fythgofiadwy i’r teulu a fydd yn llawn caneuon a dawnsiau anhygoel, chwerthin a rhyngweithio â’r gynulleidfa.

Wrth i ni groesawu gwyliau'r haf, mae Glan yr Afon wrth ei bodd yn dod â'u gŵyl theatr stryd i'r teulu am ddim, Sblash Mawr, yn ôl i ganol dinas Casnewydd! Yn cael ei chynnal ar benwythnos cyntaf gwyliau'r haf, dydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 Gorffennaf, bydd yr ŵyl unwaith eto'n syfrdanu, yn difyrru ac yn diddanu pobl leol ac ymwelwyr o bob oed gyda'r gweithgareddau celf gwych sydd ar gael.

Eleni, bydd adloniant am ddim yn ymddangos mewn nifer o ardaloedd ar draws canol y ddinas, gan gynnwys rhodfa'r afon, Sgwâr John Frost a Commercial Street, a fydd yn cynnwys theatr stryd, clera, gweithdai a gweithgareddau celf a chrefft. Fel bob amser bydd Glan yr Afon ei hun yn cael ei thrawsnewid yn hyb i deuluoedd o’r enw Splashtonbury, gan annog pob aelod o’r teulu i gymryd rhan yn y celfyddydau a’r creadigrwydd.

Wrth i'r ŵyl nesáu bydd Glan yr Afon yn rhannu mwy o wybodaeth am y perfformwyr a fydd yn ymddangos ar eu gwefan a’u sianeli cyfryngau cymdeithasol, ond mae'n ddyddiad i'ch dyddiadur!

Ar ddydd Sul 31 Gorffennaf rydym yn croesawu sioe syrcas gomedi o Awstralia, Chores. Stori brawd a chwaer sy'n gorfod glanhau eu hystafell flêr fel y gallant reidio eu beiciau yw Chores. Gyda llinell stori y gall pob teulu uniaethu â hi, mae’r sioe hon yn llawn styntiau cŵl, fflips acrobatig, sglefrolio, jyglo a gynnau papur toiled doniol!

Wedi'i hysbrydoli gan Buster Keaton a Charlie Chaplin, nid yw'r gomedi ffisegol hon yn cynnwys llawer o siarad ac mae'n addas ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol o bob oed.

I gael gwybod mwy neu i archebu tocynnau i unrhyw un o'r sioeau teuluol gwych hyn dros yr haf, ewch i newportlive.co.uk/Performances neu ffoniwch 01633 656757.