Mae'n bleser gan Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon gyhoeddi y bydd Gŵyl y Sblash Mawr yn dychwelyd Ddydd Sadwrn 20 a Dydd Sul 21 Gorffennaf, gan drawsnewid canol dinas Casnewydd yn ganolbwynt bywiog o greadigrwydd a dathliadau. Gan ddenu dros 20,000 o gyfranogwyr i'r ddinas, mae’r Sblash Mawr yn cael ei chydnabod fel yr ŵyl gelfyddydol awyr agored am ddim fwyaf yng Nghymru, gyda cherddoriaeth fyw, theatr stryd, perfformiadau dawns, gweithdai, crefft a gweithgareddau i'r teulu cyfan. Mae Theatr Glan yr Afon wrth ei bodd o weld yr ŵyl yn dychwelyd ac yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i brofi'r adloniant.

Y llynedd roedd yr ŵyl yn fwrlwm o liw ac egni ar strydoedd Casnewydd, gan arddangos y gorau o theatr stryd, gan gynnwys cyfranogiad a pherfformiadau gan artistiaid lleol a grwpiau cymunedol. Mae 2024 yn addo bod yn fwy trawiadol fyth, gydag adolygiadau’r bobl a fynychodd y llynedd yn dyst i allu'r ŵyl i uno cymunedau a dod â llawenydd: "Mae’r Sblash Mawr yn gyfle gwych i ddod at ein gilydd fel teulu a chymuned, a chael hwyl gyda’n gilydd!" Canmolodd un arall, "Gŵyl llawn llawenydd ac ysbrydoliaeth! Uchafbwynt calendr Casnewydd, daeth y ddinas yn fyw."

Mae'r digwyddiad blynyddol yn trawsnewid strydoedd Casnewydd yn llwyfan awyr agored mawr gyda pharthau perfformio dros dro ar draws canol y ddinas, gan gynnwys Sgwâr John Frost, Friars Walk, Commercial Street, a Rhodfa'r Afon.

Wedi'i disgrifio fel "darn o Covent Garden yng Nghasnewydd", bob blwyddyn mae gan yr ŵyl raglen lawn o weithgareddau ac adloniant am ddim i bawb o bob oedran. Y digwyddiad deuddydd yw'r dechrau perffaith i wyliau'r haf - peidiwch â’i golli, da chi!

Dywedodd Jamie Anderson, Rheolwr Datblygu Creadigol Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon: "Mae gŵyl y Sblash Mawr yn rhan bwysig o galendr digwyddiadau diwylliannol Casnewydd, gan gynnig cyfle i deuluoedd, preswylwyr ac ymwelwyr ddathlu ac ymgolli eu hunain mewn gweithgarwch artistig yng nghanol ein dinas. Rydym wrth ein bodd y bydd yr ŵyl yn dychwelyd eleni ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'r artistiaid a'r cymunedau anhygoel ledled Casnewydd i gyflwyno penwythnos gwych o weithgarwch creadigol."

Gwnaeth Sblash Mawr 2024 yn bosibl diolch i gyllid hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru, AGB Newport Now, Friars Walk, Newport Transport a Casnewydd Fyw, yr ymddiriedolaeth elusennol sy'n gyfrifol am redeg Theatr Glan yr Afon. Mae’r Sblash Mawr yn parhau i fod yn bosibl diolch i gefnogaeth Tinshed Theatre Company, The Place, Alacrity Foundation, Mercure Hotel, Urban Circle a Waterstones. Diolch i gefnogaeth y cwmnïau hyn, mae gan y celfyddydau awyr agored lwyfan a lle i ffynnu yng Nghasnewydd. Os hoffech fod yn rhan o'r ŵyl, mae cyfleoedd noddi ar gyfer yr ŵyl eleni bellach ar agor i'w hystyried - cysylltwch â'n tîm marchnata (marketing@newportlive.co.uk).

Ydych chi'n awyddus i gymryd rhan? Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig, cyfeillgar a dibynadwy dros 18 oed i ymuno â'n tîm gwirfoddoli.  Os mai chi yw’r un i ni, ewch i'n gwefan yma, llenwch ein ffurflen gais a byddwn mewn cysylltiad.

Mae'r digwyddiad yn ddiwrnod perffaith i deulu a ffrindiau wylio, chwerthin, cymryd rhan ac ymgolli yn y celfyddydau.  Bydd cyhoeddiadau am yr actau'n dilyn yn y cyfnod cyn y digwyddiad, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon ar eu sianeli cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf a'r diweddariadau. Dewch i fod yn rhan o’r hwyl y mis Gorffennaf hwn!