Ar ôl cael arian gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU fel rhan o'r Her Heneiddio’n Iach, mae Casnewydd Fyw yn cymryd rhan flaenllaw mewn prosiect ymchwil dwy flynedd sy'n archwilio sut y gellir trawsnewid canolfannau/cyfleusterau hamdden yn hybiau cyhyrysgerbydol yn y gymuned.

Casnewydd Fyw fydd y darparwr hamdden sy'n gyfrifol am gyflwyno sesiynau sy'n ceisio gwella bywydau pobl trwy eu cael i symud gydag ymarfer corff ysgafn yn y dŵr ac ar y tir mewn amgylchedd hwyliog a chymdeithasol. Fel hyn, bydd gofalu am eich iechyd yn dod yn rhywbeth pleserus, yn hytrach na’n frwydr. Gwneir hyn mewn partneriaeth â Good Boost, ukactive, Orthopaedic Research UK, ESCAPE-pain, ac Arthritis Action. I ddarparu adsefydlu wedi'i deilwra'n unigol mewn lleoliad effaith isel a phoen isel, mae'r sesiynau'n defnyddio technoleg a grëwyd gan arbenigwyr cyhyrysgerbydol. Mae hyn yn helpu pobl i reoli eu hanhwylderau cyhyrysgerbydol ac i symud ymlaen yn eu hymarferion ar eu cyflymder eu hunain.

Dywedodd Ellis Redman, Cennad Lles yn Casnewydd Fyw "Mae pobl a fyddai fel arall wedi aros gartref neu a fyddai'n cael bywyd bob dydd yn anodd oherwydd poen wedi dod trwy ein drysau diolch i’r fenter Good Boost. Mae rhoi cyfle iddynt ddefnyddio'r ap deallusrwydd artiffisial gan Good Boost, sy'n cynnig sesiynau adsefydlu yn y dŵr ac ar y tir, i leihau eu hanghysur a chynyddu eu symudedd, wedi bod yn foddhaus iawn. Rydym wedi gweld hyder y cyfranogwyr yn tyfu o wythnos i wythnos."

Dywedodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes "Roedd Good Boost yn rhaglen hynod bwysig i Casnewydd Fyw ei chyflwyno i’r ymddiriedolaeth hamdden, i’r ddinas ac i Gymru. Mae Good Boost yn targedu pobl sydd angen yr elfen ychwanegol honno o gymorth ac arweiniad, y gall y tîm ymroddedig yn Casnewydd Fyw ei wneud. Mae'r aelodau sydd wedi cofrestru ar gyfer Good Boost hyd yma wedi cyflawni canlyniadau sy'n gwella eu lles meddyliol a chorfforol. Byddwn yn annog pobl i gymryd y camau i fod yn actif drwy Good Boost a rhaglenni eraill Casnewydd Fyw nawr a chael rheolaeth bositif ar eu lles.

Gall pobl sydd ag ystod eang o bryderon iechyd, fel osteoarthritis, arthritis gwynegol, clefydau cyhyrysgerbydol, poen clun a phen-glin, neu'r rheiny sydd newydd gael llawdriniaeth i amnewid clun a phen-glin, elwa o sesiynau Good Boost. Mae'r gwersi'n rhedeg am awr ac yn cynnwys 10 munud o gynhesu, ac yna ymarferion unigol 3 i 4 munud o hyd, a gweithgareddau grŵp hwyliog.

Rhaid i'r cyfranogwyr gwblhau sesiwn asesu gyda staff ffitrwydd Casnewydd Fyw cyn trefnu sesiwn Good Boost. I drefnu apwyntiad asesu, cysylltwch â Casnewydd Fyw ar 01633 656757 neu e-bostiwch goodboost@newportlive.co.uk.

Cynhelir y sesiynau yn y dŵr ar wahanol adegau o ddydd Llun i ddydd Iau yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol. Cynhelir y sesiynau ar y tir ar wahanol adegau yng Nghanolfan Casnewydd a'r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r sesiynau yn costio £2 a gellir cadw lle arnynt trwy Ap Casnewydd Fyw, ar y wefan casnewyddfyw.co.uk/bethsyddymlaen, wrth dderbynfa unrhyw ganolfan Casnewydd Fyw, neu drwy ffonio 01633 656757.

Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth elusennol ddielw, sy’n golygu bod yr holl arian y mae'n ei wneud yn cael ei fuddsoddi yn y gwasanaethau a'r cyfleusterau y mae'n eu cynnig, felly gall holl gwsmeriaid Casnewydd Fyw helpu'r gymuned leol trwy ymgymryd â’r prosiectau a'r gweithgareddau hyn.

I ddysgu mwy am Good Boost yn Casnewydd Fyw, ewch i casnewyddfyw.co.uk/goodboost neu edrychwch ar @NewportLiveUK ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.