Nod Good Boost yw gwella bywydau pobl drwy eu cael i symud drwy gyfrwng ymarfer ysgafn yn y dŵr ar y tir mewn amgylchedd hwyliog a chymdeithasol.  Fel hyn, bydd gofalu am eich iechyd yn dod yn rhywbeth pleserus, yn hytrach na’n frwydr.

Mae ein sesiynau adsefydlu yn y dŵr wedi'u teilwra'n unigol gan ddefnyddio App Good Boost, a ddyluniwyd gan arbenigwyr cyhyrysgerbydol, ac fe'u cyflwynir ar gyfrifiaduron llechi wrth-ddŵr sy'n hawdd eu defnyddio, gan ganiatáu i gyfranogwyr symud drwy eu hymarferion ar eu cyflymder eu hunain.

Mae'r sesiynau'n para awr ac yn cynnwys 10 munud o gynhesu, ac yna ymarferion unigol 3-4 munud, gyda gweithgareddau grŵp hwyliog rhyngddyn nhw i helpu i gynnal tymheredd cyfforddus i'r corff.

Byddwch yn cael eich llechen gwrth-ddŵr eich hun yn ystod y sesiwn fydd yn dangos eich ymarferion personol gyda diagramau clir, ac mae’n hawdd ei defnyddio.

Bydd aelod o staff wrth law drwy'r sesiwn i'ch cefnogi a'ch arwain.

Mae sesiynau Good Boost yn addas ar gyfer pobl ag ystod eang o gyflyrau iechyd, gan gynnwys:

• Cyflyrau Cyhyrysgerbydol

• Osteoarthritis

• Cyn ac ar ôl llawdriniaeth rhoi clun neu ben-glin newydd

• Poen clun a phen-glin

• arthritis gwynegol

Nod y sesiynau yw lleihau poen, gwella cryfder, symudedd a swyddogaeth yn ogystal â chynnig cyfle i bobl gymdeithasu a bod yn actif yn fwy rheolaidd.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau sesiwn asesu gydag un o'n tîm cyn archebu'r sesiwn hon. Gellir archebu drwy anfon e-bost at goodboost@newportlive.co.uk neu ffonio 01633 656757.

GWENT YN SYMUD YN WELL

Edrychwch ar ôl eich hun,teimlwch yn well a symudwch yn well.

I gael rhagor o wybodaeth am reoli Cyflwr sy’n effeithio ar y cyhyrau a’r esgyrn, ewch i Gwent yn Symud yn Well am lu o adnoddau a gwybodaeth am ddim:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi datblygu'r wefan hon i helpu cymuned BIPAB i ofalu am eu hesgyrn, eu cymalau a'u cyhyrau.

​​​​​​

lawrlwythwch ein app am ddim heddiw

Edrychwch ar ein hamserlenni, archebu ein dosbarthiadau ymarfer grŵp, llysoedd a gweithgareddau eraill tra ar y symud.

mobile phones displaying the newport live app