Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi arwyddo partneriaeth strategol gyda Casnewydd Fyw – ymddiriedolaeth elusennol sy’n darparu gweithgareddau chwaraeon, hamdden a diwylliannol yng Nghasnewydd – i helpu i gefnogi iechyd a lles pobl yn y ddinas a thu hwnt.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) rhwng y Brifysgol a Casnewydd Fyw yn canolbwyntio ar ddatblygu ystod o weithgareddau sydd o fudd i’r ddwy ochr sy’n mynd i’r afael â gwerthoedd craidd a rennir, gan gynnwys angerdd am gyfranogiad a llwyddiant, hyrwyddo tegwch a chynhwysiant, ac ymrwymiad i fod yn gymdeithasol ymwybodol ac yn amgylcheddol gyfrifol.

Bydd y bartneriaeth hon yn cynnig ystod o fanteision i’r sefydliadau a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gan gynnwys PDC yn cefnogi datblygiad gweledigaeth a strategaeth greadigol newydd ac ymgysylltiad myfyrwyr ym mhrosiectau chwaraeon cymunedol Casnewydd Fyw a phrosiectau drama cymhwysol. Bydd gweithwyr proffesiynol Casnewydd Fyw hefyd yn cefnogi cyflwyno rhaglenni gradd trwy weithdai ac arddangosiadau ymarferol. Bydd potensial hefyd ar gyfer lleoliadau myfyrwyr ac i fyfyrwyr ddefnyddio cyfleusterau Casnewydd Fyw ar gyfer perfformiadau a sioeau graddedigion.

Yn y tymor hwy, rhoddir ystyriaeth i gyfleoedd cydweithredol yn y cyfleusterau hamdden newydd arfaethedig, er enghraifft, a bydd y ddau sefydliad yn gweithio gyda phartneriaid, yn enwedig Cyngor Dinas Casnewydd, ar ddatblygu Strategaeth Ddiwylliannol Casnewydd ar y cyd. Yn ogystal, bydd cynllun aelodaeth chwaraeon a lles i fyfyrwyr yn cael ei gyflwyno.

Dywedodd yr Athro Donna Whitehead, Dirprwy Is-ganghellor PDC: “Fel rhan o’n Strategaeth Prifysgol – PDC 2030 – rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein presenoldeb yng Nghasnewydd a chyfrannu at les economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y ddinas a’r rhanbarth ehangach.

“Nod y bartneriaeth hon yw darparu profiadau dysgu byd go iawn ‘y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth’ i’n myfyrwyr, tra’n cyfrannu at les diwylliannol a chymdeithasol Casnewydd fel sefydliad cysylltiedig a chyfrifol.”

”Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw, “Rydym yn falch iawn o allu cydnabod ein partneriaeth â PDC yn ffurfiol, ac yn croesawu’r cyfle i ddefnyddio’r asedau a’r arbenigedd yn y ddinas i ysbrydoli myfyrwyr a chefnogi eu taith ddysgu yn ystod y blynyddoedd cyffrous sydd o’n blaenau.”