its time to get creative again graphic

 

Rydyn ni wrth ein bodd y bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon yn ailagor ei drysau i gwsmeriaid unwaith eto o ddydd Llun 2 Awst! 

Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed i baratoi ar gyfer ailagor ac wedi gwneud ambell newid cyffrous i'n caffi a'n cyntedd ac rydyn ni’n hynod falch y cewch gyfle i’w gweld o’r diwedd!  

Rydyn ni’n dilyn Canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru i helpu i'ch cadw chi, ein cwsmeriaid eraill a'n staff yn ddiogel a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i bethau newid. Gallwch ddarllen am ein mesurau covid yma

Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at eich croesawu'n ôl ac i chi ymuno â ni ar gyfer rhai o'n gweithgareddau haf gwych isod!  

Gweithgareddau Gwyliau i Blant

Mae gennym weithgareddau gwyliau’r haf gwych ar y gweill yr haf hwn i ddiddanu'r plant! 

Ysgol Fach Theatr Ieuenctid

Ymunwch â ni am ysgol haf fach hwyliog, yn llawn gemau a gweithgareddau theatr.  

Bydd y gweithdai'n cynnwys sgiliau chwarae gemau, perfformio, byrfyfyrio ac adrodd straeon. 

Dewch â phecyn cinio a photel ddŵr. 

Oedran: 7-10 
Saesneg: 10-11 Awst, 9.30-3.30pm 
Cymraeg: 16-17 Awst, 9.30-3.30pm 

Oedran: 11-14 
Saesneg: 12-13 Awst, 9.30-3.30pm 
Cymraeg: 23-23 Awst, 9.30-3.30pm

Pris: £30 

Archebwch Nawr

Clwb Minecraft

Cyfle gwych i blant fwynhau eu hoff gêm a bod yn gymdeithasol ar yr un pryd! Bydd plant yn cael cyfle i ymuno â bydoedd gwahanol a gweithio mewn timau i gwblhau nifer o heriau cyffrous mewn amgylchedd diogel oddi ar-lein. 

Dydd Llun 2,9,16,23 Awst, 2pm-4pm 
Dydd Iau 5, 12, 19, 26 Awst 10am – 12pm 
Oedran: 6-11 
Pris: £8 

Archebwch nawr

Sbort yn y Parc

Bydd artistiaid a diddanwyr lleol yn ymddangos mewn pedwar man awyr agored yr haf hwn ac yn perfformio fel rhan o Sbort yn y Parc. Bydd byrddau gweithgareddau celf a chrefft hefyd ar gael yn y digwyddiadau. 


4 Awst – Parc Beechwood 
11 Awst – Caeau Chwarae Ringland 
18 Awst - Parc Tredegar 
25 Awst - Tir Llesiant Tŷ-du 


Amser: 10am –12:30pm ac 1pm - 3:30pm 
Oedran: 3-11 
Pris: Am ddim – lleoedd cyfyngedig felly archebwch ymlaen llaw. 

Archebwch Nawr

Splashtonbury logo

Mae Splashtonbury yn ôl! 

Ymunwch â ni am hwyl gŵyl am ddim yng Nglan yr Afon ym mis Awst! Mae gennym weithgareddau a pherfformiadau hwyliog i'r teulu cyfan. 

 

Live at the Riverfront text graphic

Yn Fyw Yng Nghlan Yr Afon
Dydd Gwener 6, 13, 20 a 27 Awst, 6pm-10pm 
Ar agor i bob oedran

Cerddoriaeth fyw ar y teras ynghyd â pherfformiadau pop-up gwych i gyd yn seiliedig ar thema newydd bob wythnos. Galwch heibio am ddiod ar ôl gwaith, dewch â'ch teulu ac ymlacio wrth i ni eich diddanu.

Splashtonbury Saturdays text graphic

Dydd Sadwrn Splashtonbury 
Dydd Sadwrn 7, 14, 21 a 28 Awst, 10am-4pm 
Ar agor i bob oedran

Gwnewch sblash mawr yn eich swigen fach! Gweithgareddau celfyddydol creadigol am ddim, theatr stryd fyw ynghyd â cherddoriaeth drwy gydol y dydd mewn mannau diogel a chroesawgar.


 Family Discos Text Graphic
Disgos Teuluol 
Dydd Mawrth 10 a 24 Awst, 10am ac 1pm 
Oedran: Teuluoedd â phlant dan 7 oed  
Bachwch eich ffyn golau a'ch gliter ar gyfer dawnsio gyda’r teulu yn ein stiwdio ddawns. Gadewch y flwyddyn ddiwethaf y tu cefn i chi a chael hwyl gyda'r teulu! 

 

Mwy o wybodaeth am Splashtonbury

gwasanaethau eraill

Caffi Glan Yr Afon 

Bydd caffi Glan yr Afon ar agor ar ei newydd wedd o 2 Awst ar gyfer coffi, cacen a lluniaeth ysgafn.  

Bydd gennym fwydlen newydd gyda mwy ar gael yn ddiweddarach yn yr haf felly cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol am fanylion. 

 

Perfformiadau Byw a Sinema ​​​​​​​

Byddwn yn cyhoeddi perfformiadau cyffrous cyn bo hir ar gyfer tymor yr hydref.  Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol neu ymunwch â'n rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf.  

 
Cysylltu â Ni​​​​​​​ 

Os oes angen i chi gysylltu ag aelod o dîm Glan-yr-afon, ffoniwch 01633 656757, anfonwch e-bost at enquiries@newportlive.co.uk, neu defnyddiwch ein gwasanaeth sgwrsio ar ein gwefan.    

Efallai y bydd atebion i'n Cwestiynau Cyffredin yma.

Facebook - TheRiverfront 

Twitter - RiverfrontArts 

Instagram - RiverfrontArts 

Wefan - www.newportlive.co.uk/GlanyrAfon