Girl and man in dog costume holding up beach balls  Two ladies looking down at eggs in a suspended nest

 

Yn ystod Tymor yr Hydref eleni, mae Glan yr Afon yn falch o gyflwyno adloniant gwych i deuluoedd ledled Casnewydd ar ffurf sioeau theatr gwych sy'n berffaith i bob oedran.

Mae Molly a Bingo y ci bach yn cael parti pen-blwydd yn I Spy With My Little Eye ar ddydd Sul 1 Hydref, ac mae gwahoddiad i bawb ddod draw! Bydd helfa drysor ragorol, amrywiaeth o ganeuon i’w canu, gan gynnwys The Ants Go Marching, Hickory Dickory Dock a BINGO, a llawer o gemau gwych i'w chwarae, gan gynnwys hoff gêm Molly, I Spy With My Little Eye! Gwisgwch eich dillad parti a dewch draw i sioe sy'n llawn hwyl a chwerthin. Bydd Bingo a'r ferch sy’n cael ei phen-blwydd ar gael ar ôl y sioe i gwrdd â’r gwesteion a thynnu lluniau gyda nhw.

Bydd anturiaethau rhyngweithiol Tom Fletcher i blant sy’n llawn dychymyg yn neidio o’r dudalen i’r llwyfan wrth i There’s A Monster In My Show ymddangos am y tro cyntaf fel sioe gerdd newydd sbon ar ddydd Sul 22 Hydref. Bydd digon o hwyl i bob oed wrth i amrywiaeth o’r hoff gymeriadau, gan gynnwys Monster, Dragon, Alien ac Unicorn, ddod yn fyw mewn sioe sy'n llawn eiliadau chwareus i'w mwynhau.

Bydd cymylau nitrogen hylifol, ocsigen ffrwydrol a balwnau hydrogen, corwyntoedd tân, rocedi hydrogen, methan tanllyd a hyd yn oed hofranlong wedi’i hadeiladu â llaw, yn cael eu harddangos yn Ministry Of Science ar ddydd Sadwrn 28 Hydref. Yn ogystal â bwrw golwg ar y dyfeiswyr a'r peirianwyr sydd wedi llunio ac ysbrydoli'r byd modern, bydd cyflwynwyr y sioe yn cyflwyno digonedd o arddangosfeydd clyfar. Dylai'r sŵn uchel o ganlyniad gadw pawb ar flaenau eu traed!

Bydd cerddoriaeth ein sêr pop modern yn cael ei dathlu ddydd Sul 29 Hydref yn Pop Forever. Bydd cynulleidfaoedd yn cael cyfle i ganu eu hoff ganeuon Little Mix, dawnsio i gerddoriaeth TikTok enwog Doja Cat a chael parti i gerddoriaeth sêr pop eraill fel Arianna Grande, Olivia Rodrigo a Jojo Siwa! Bydd cystadlaethau dawnsio, cyfleoedd am wobrau a chyfle i gwrdd â’r cast fel rhan o'r sioe hefyd.

Mae'r cymeriadau eiconig a phoblogaidd Sooty, Sweep a Soo yn dathlu 75 mlynedd anhygoel ym myd perfformio ac yn cynllunio parti pen-blwydd arbennig iawn ddydd Llun 30 Hydref. Yn The Sooty Show 75th Birthday Spectacular, mae Sooty a Sweep yn brysur yn pobi cacen (beth allai fynd o'i le?), mae Soo yn ceisio dod o hyd i'r wisg parti berffaith, ac mae Sweep yn ymarfer ei symudiadau dawns ac angen help bechgyn a merched gyda’r gêm delwau cerddorol! Mae Sooty yn cynllunio ei dric hud mwyaf eto, ond a fydd Richard yn goroesi pan gaiff ei osod yn y bocs?  O, a byddwch yn ofalus o wn dŵr newydd Sooty. Mae ganddo ddigon o bŵer i gyrraedd cefn y theatr, felly peidiwch ag anghofio eich cot law!

Mae NEST Ddydd Gwener 3 Tachwedd yn cynnwys coeden mewn dinas lle mae dau aderyn yn penderfynu ymgartrefu, ac yn fuan mae eu nyth clyd yn cynnwys dau ŵy gwerthfawr iawn. Yn llawn hwyl, gyda chân wreiddiol a chwarae hyfryd gyda chysgodion, mae'r sioe hynod gorfforol hon yn defnyddio ychydig iawn o iaith i adrodd stori am gymryd gofal, darganfod beth sy'n bwysig a dysgu sut i hedfan.

Gwahoddir teuluoedd â phlant 5 oed a throsodd i'r premiére o ddwy stori ffantasi wedi'u gosod i gerddoriaeth o Hummadruz, Theatr Uwchfioled Cymru. Mae rhan 1 o'r sioe, The Planets, yn cael ei pherfformio i gampwaith clasurol Holt ac yn adrodd 7 stori yn seiliedig ar thema pob planed. Mae'r straeon yn drist, yn wirion, yn hapus, yn hudol ac yn ddwl ac yn archwilio dyfnderoedd y môr, yn ymweld â Hapus-dir, yn archwilio beth sydd yn het uchel dewin ac yn teithio drwy'r alaeth.

Mae ail ran y sioe, When the Dragons came back to Wales, yn wledd ddyrchafol, amryliw, uwchfioled, seicadelig ac yn cael ei pherfformio i gyfres newydd o gerddoriaeth gan y cyfansoddwr o Gymru, Lenny Sayers, yn seiliedig ar stori gan Stuart H. Bawler. Bydd cerddorfa fyw yn y rhan hon o'r sioe, dan arweiniad Emilie Godden. Mae Awel, merch 10 oed o dref fawr, yn aros gyda'i nain a’i thaid dros yr haf mewn cwm yng Nghymru heb unrhyw signal! Wedi diflasu, mae'n cymryd rhan mewn prosiect cymunedol i adeiladu Draig Goch ar gyfer cefn fflôt carnifal. Wedi'i hysbrydoli gan bryfed, barcutwyr ac adar, daw’n fos ac mae’n creu Draig erodynamig enfawr. Y noson cyn y carnifal, mae storm ffyrnig yn taro a'r Ddraig yn torri’n rhydd, gan ddechrau digwyddiadau sy'n effeithio ar y byd i gyd!

Mae Hummadruz yn unigryw yng Nghymru ac yn defnyddio masgiau, dawns, pypedau bach a mawr, syrcas, rhith llwyfan a cherddoriaeth i adrodd eu straeon. Mae eu sioeau yn brydferth, yn llawen, heb eiriau, yn amlsynhwyraidd, yn cael eu perfformio o dan olau du ac yn integreiddio Makaton fel iaith weledol.

Ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr, daw Wifi Wars â fersiwn Nadoligaidd iawn o'u sioe gwis fyw, lle mae'r gynulleidfa i gyd yn chwarae! Dan arweiniad y digrifwr Steve McNeil, cewch eich gwahodd i fewngofnodi gyda'ch ffôn clyfar neu lechen a chystadlu mewn amrywiaeth o gemau, posau a chwisiau i ennill gwobrau ac, yn y pen draw, y sioe. Ceir Wifi Wars i’r teulu am 2pm, gyda chystadleuaeth i oedolion yn unig am 7pm.

Ni fyddai Tymor yr Hydref yng Nglan yr Afon yr un peth heb y Panto Glan yr Afon blynyddol! Eleni, mae'n bleser gan y theatr gyflwyno Beauty and the Beast. Wedi'i ysgrifennu a'i gyfarwyddo gan Richard Gauntlett, sef y dyn ddaeth â Robin Hood yn fyw y llynedd, ac yn cynnwys Richard Elis. Bydd Beauty and the Beast yn cael ei lwyfannu o 28 Tachwedd hyd at 6 Ionawr.

Pan gaiff Tywysog balch ei felltithio i fyw fel bwystfil, ei unig obaith am achubiaeth yw canfod cariad. Pan ddaw merch hyfryd o’r pentref, Rose, i'w fywyd, ai dyma'r cyfle y mae wedi bod yn aros amdano? A all Rose weld y tu hwnt i'r bwystfil hyll cyn ei bod hi'n rhy hwyr? A fydd Hecate ddrwg yn llwyddo i ddial? Gyda thrawsnewidiad gwyrthiol, comedi digrif tu hwnt, cerddoriaeth, dawns, setiau a gwisgoedd trawiadol, mae gan y sioe ryfeddol hon bopeth ar gyfer pantomeim penigamp arall.

Gallwch dysgu mwy am yr holl adloniant gwych i'r teulu sy'n dod i Glan yr Afon ym mis Awst ac archebu eich tocynnau yn https://www.newportlive.co.uk/cy/Theatr-a-Chelfyddydau/Perfformiadau/.