IWD_mar20-10.jpg

 

Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch iawn o fod yn cynnal dathliadau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eto ar Ddydd Sadwrn 5 Mawrth

Yn ddigwyddiad blynyddol yn y calendr celfyddydau lleol, bydd yr ŵyl yn cynnwys gweithdai, sgyrsiau, crefftau, perfformiadau a mwy am ddim, i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar ôl cynnal dathliadau'n ddigidol y llynedd oherwydd y cyfyngiadau a berodd Covid-19. 

Un o uchafbwyntiau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nghlan yr Afon bob amser yw trafodaeth y panel a’r sesiwn holi ac ateb gyda menywod lleol ysbrydoledig.  Ac mae’r un peth yn wir eleni gydag Aleighcia Scott, Danielle Webb, Stephanie Roberts a Grace Quantock yn dod i Theatr y Stiwdio i drafod menywod sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol a chwalu'r rhagfarn.

Bydd gweithgareddau'r diwrnod hefyd yn cynnwys lansio llyfr ar gyfer ail lyfr yr awdur lleol Sylvia Mason 'Mary Frost:  Wife, Mother, Chartist’ ar ôl ei llyfr cyntaf 'Every Woman Remembered:  Daughters of Newport in the Great War’ a gyhoeddwyd yn 2018 gyda llwyddiant mawr. 

Bydd Fforwm Menywod Casnewydd yn y digwyddiad yn lansio eu cynllun bwrsariaeth 2022 sydd, dros y 26 mlynedd diwethaf, wedi bod yn cefnogi menywod yng Nghasnewydd i wireddu eu breuddwydion gyda bwrsari o hyd at £1500. 

Ochr yn ochr â hynny, bydd Clare Potter, bardd dwyieithog o Gymru, yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol.  Mae ymarfer Clare yn canolbwyntio ar les drwy ysgrifennu a bydd yn ffordd hwyliog a chreadigol o fynegi eich hun. 

Daw gweithdai eraill yn ystod y dydd gan Carmela Gianfagna a'i gweithdy Qi Gong o'r enw 'Unifying Mind, Body and Breath for Inner Peace & Calm.  Bydd yr artist mosaig lleol Stephanie Roberts yn cynnal cyflwyniad a sesiwn holi ac ateb am ei phrosiect Street Fairy sy'n mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â’ch diogelwch a lles eich hunan ac eraill mewn mannau cyhoeddus.   Bydd hefyd yn cynnal gweithdy lle gallwch greu eich tylwyth stryd eich hun.

Bydd y Syrcas Positifrwydd yn cynnig sesiynau blasu am ddim yn cynnwys amrywiaeth o sgiliau syrcas.

Yn rhedeg drwy gydol y diwrnod bydd perfformiadau gan gerddorion a grwpiau cymunedol o Gymru gan gynnwys The 3 O'Clock Club, Genevieve Gyseman yn ogystal â Oasis Global Choir a'r grŵp Coffee and Laughs.

Bydd Remake hefyd wrth law i ddysgu pobl sut i adnewyddu eitemau ail law.

Meddai Sally-Anne Evans, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol yng Nglan yr Afon: 

'Rydym mor gyffrous i ddychwelyd i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn bersonol yng Nglan yr Afon eleni. Mae'n un o'n hoff ddiwrnodau yn gweld cymaint o ffrindiau cymunedol gyda'i gilydd yn ein hadeilad a chael menywod yn rhannu sgiliau a dathlu gyda'i gilydd. Mae'n gyfle gwych i bobl ddod at ei gilydd a rhannu syniadau, yn ogystal â dathlu yn ein cymuned.'

Yn ogystal â'r sgyrsiau, y perfformiadau a'r gweithdai bydd stondinau crefft i ymwelwyr grwydro o’u hamgylch a phrynu nwyddau lleol unigryw, ynghyd â chyfleoedd i wneud crefftau a chreu ar gyfer plant ac oedolion. Mae croeso i westeion aros drwy'r dydd a mwynhau amrywiaeth o ddigwyddiadau, neu fynd a dod fel y mynnant.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod rhyngwladol sy’n dathlu llwyddiant cymdeithasol, economaidd, a diwylliannol menywod.  Mae’r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu cydraddoldeb menywod yn gyflymach.  Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi cael ei gynnal ers ymhell dros ganrif, gyda’r un cyntaf ym 1911 yn denu cefnogaeth gan dros filiwn o bobl.   Heddiw, mae’r Diwrnod yn perthyn i bawb ymhobman.  

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nglan yr Afon rhwng 10am a 5pm, mae'r holl ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim ac nid oes angen archebu lle. I gael rhagor o wybodaeth a manylion am y diwrnod a'r cyfan sy'n digwydd yng Nglan yr Afon ar gyfer y diwrnod, ewch i https://www.newportlive.co.uk/cy/Theatr-a-Chelfyddydau/Gwyliau-a-Digwyddiadau/international-womens-day/. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am y dathliadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #IWD2022.