Mae’r Cwmni Celf a Diwylliant Romani yn falch o gyhoeddi eu prosiect parhaus, Gypsy Maker 5, arddangosfa newydd o waith celf gan yr artistiaid Imogen Bright Moon, Corrina Eastwood a Rosamaria Kostic Cisneros, gyda chymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Y gosodiad cyffrous hwn o waith a gomisiynwyd yn arbennig yw'r diweddaraf yn ein prosiect arloesol Gypsy Maker, menter sy'n cefnogi datblygiad gwaith artistig arloesol gan artistiaid sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae prosiect Gypsy Maker 5 yn ehangu gwaith y Cwmni Celf a Diwylliant Romani drwy barhau i ymgysylltu cymunedau SRT gyda'r cyhoedd yn ehangach mewn deialog barhaus am y ffyrdd y mae celf yn parhau i lywio ein bywydau heddiw.

Mae pob un o'r artistiaid yn defnyddio amrywiaeth o gyfryngau o fewn eu gwaith. Mae Imogen Bright Moon yn grefftwr Prydeinig-Romani, yn wehydd stiwdio ac yn arddangos eu gwaith creu celf gyda thecstilau. Mae Imogen yn cyfuno gwehyddu â llaw â chwedleua, llên gwerin a chrefftau treftadaeth i greu ei thecstilau stiwdio. Mae ei gwaith yn defnyddio edau wedi’i droelli â llaw ar wyddiau pren syml i archwilio stori barhaus tecstilau a'u lle yn ein bywydau heddiw.

Mae Corrina Eastwood yn artist, seicotherapydd celf, darlithydd, awdur ac actifydd. Mae Corrina yn Romani ac mae wedi ei hysgogi gan ei phrofiadau personol o gael ei hymylu a’i gormesu, o fod yn SRT (Sipsi Romani Teithiwr) ac yn menyw, i ddatblygu diddordeb mewn rhoi llwyfan i leisiau sydd wedi eu hymylu, a herio gwahaniaethau cymdeithasol a phŵer normadol, drwy gelf, actifyddiaeth ac addysg.

Mae Rosamaria Kostic Cisneros yn ddawnswraig a choreograffydd broffesiynol, yn guradur ac yn athro cymwysedig, sydd wedi byw a dawnsio mewn gwahanol rannau o'r byd, gan gydweithio â llawer o fawrion Fflamenco a ffigurau blaenllaw eraill o’r byd Dawns. Mae hi hefyd yn Hanesydd a Beirniad Dawns, Ysgolhaig Roma, Hanesydd Fflamenco ac Actifydd dros Heddwch. Mae Cisneros wedi dysgu ledled Ewrop a'r Unol Daleithiau, ac yn yr Almaen, Sbaen a Thwrci.

"Rydym mor falch o barhau â'n gwaith arloesol gydag artistiaid SRT, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Bydd y prosiect hwn yn cryfhau rôl Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar y llwyfan celfyddydol yng Nghymru, y DU a’r tu hwnt." Isaac Blake; Cyfarwyddwr y Cwmni Celf a Diwylliant Romani

"Mae gwaith arloesol y Cwmni Celf a Diwylliant Romani o ran cefnogi artistiaid Sipsi, Roma a Theithwyr yn ddigyffelyb. Mae'r prosiect Gypsy Maker yn unigryw ledled y byd o ran comisiynu gwaith newydd gan artistiaid SRT gan alluogi cynhyrchu gwybodaeth newydd sylweddol gan grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol ac mae’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i gelfyddyd gyfoes a thrafodaeth ddiwylliannol ledled y byd." Dr Daniel Baker

Yn anffodus, mae gwybodaeth yn dal yn brin am y gymuned gyffrous hon. Bydd arddangos ei threftadaeth artistig a'i harloesedd diwylliannol presennol o fudd mawr i aelodau cymunedau SRT a'r boblogaeth ehangach.