YMUNWCH Â NI yn LAN YR AFON YR HAF HWN AM HWYL GŴYL AM DDIM, PERFFAITH I'R TEULU CYFAN YM MIS AWST!

 

Live at the Riverfront text graphic

Yn Fyw Yng Nglan yr Afon

Dydd Gwener, 6pm-10pm
Ar agor i bob oedran

Cerddoriaeth fyw ar y teras ynghyd â pherfformiadau pop-up gwych i gyd yn seiliedig ar thema newydd bob wythnos. Galwch heibio am ddiod ar ôl gwaith, dewch â'ch teulu ac ymlacio wrth i ni eich diddanu.

Dyma'r perfformwyr -

Aleighcia Scott

Dydd Gwener 6 - Aleighcia Scott

Yn agor ein haf o cerddoriaeth byw ar Ddiwrnod Annibyniaeth Jamaica mae'r gantores Soula Reggae Gymreig a Jamaicaidd, Aleighcia sydd wedi perfformio o'r blaen yn Glan yr Afon fel rhan o Big Splash a Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

Mae Aleighcia, sydd wedi bod yn perfformio ar lwyfan mor ifanc â 7 oed, bellach yn artist llawn amser ac mae ar fin rhyddhau ei halbwm cychwynnol y mae wedi bod yn gweithio arno yn Jamaica a’r DU (gyda’r cynhyrchydd arbennig Rory Stonelove a oedd yn rhan o brosiect diweddaraf Beyoncé/Jay Z). Mae wedi ennill sawl gwobr fel Artist Lleol Gorau Radio Caerdydd ac mae wedi ennill gwobr MMG am yr ‘Act Reggae Orau’ ddwywaith, ar ôl perfformio ar lwyfan Glasonbury, BBC Introducing, llwyfannau rhyngwladol a mwy. 

 

Hefyd yn perfformio bydd y drymiwr dur Wahda Placide.

Sarah McCreadie

Dydd Gwener 13 - Noson Werin a Barddoniaeth

Yn perfformio ddydd Gwener 13 Awst fydd ​​Sarah McCreadieKrystal S Lowe Bryony Sier.

 Sarah McCreadie (bardd)

Bardd ac awdur o Gaerdydd yw Sarah McCreadie. Mae Sarah wedi perfformio ei barddoniaeth ledled y byd, o Gasnewydd i Efrog Newydd. Hi yw bardd ‘Words First’ BBC 1Xtra, cyn-fyfyriwr artist preswyl theatr y Roundhouse yn Llundain a chyn-aelod cymundod barddoniaeth y Roundhouse. Mae hi hefyd wedi cydweithio â Vanity Fair, ITV, BBC a’r podlediad The Guilty Feminist. Gallwch ddod o hyd i Sarah a’i gwaith ar YouTube a Twitter yn @Girl_Like_Sarah

Krystal S Lowe (bardd)

Mae Krystal S. Lowe yn fardd, awdur straeon byrion ac awdur sgriptiau o’r Ynysoedd Bermwda sy’n byw yng Nghymru. Mae ei gwaith yn archwilio themâu hunaniaeth groestoriadol, iechyd meddwl a lles, ac ymrymuso.

Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys:  'Whimsy' a gomisiynwyd gan Articulture Cymru; 'Rewild' a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd; 'Merched y Môr' a gomisiynwyd gan Ffilm Cymru, BBC Arts, BBC Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru; 'Seven' a gomisiynwyd gan ŵyl ar-lein Right Now Le Public Space;  'Somehow' a gomisiynwyd gan Music Theatre Wales; a 'Complexity of Skin' a gomisiynwyd gan y Gofod ar gyfer Diwylliant mewn Cwarantîn y BBC

Bryony Sier (artist pop gwerin)

Mae Bryony Sier yn artist pop gwerin o'r DU y mae ei sain/tôn unigryw yn tynnu ar amrywiaeth eang o ddylanwadau ond mae'n cael ei siapio'n arbennig gan ei chariad at gerddoriaeth werin, blŵs, soul, gospel a gwlad. Dal ond yn ei hugeiniau cynnar, mae grym enaid ac aeddfedrwydd llais Bryony eisoes wedi dal sylw rhai o'r enwau mwyaf yn y diwydiant cerddoriaeth.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi perfformio i gefnogi pobl fel Steph Cameron, Twin Bandit, Rick Wakeman, Molly Tuttle a Rachel Baiman, ac mae hi wedi gweithio gyda chynhyrchwyr ac awduron caneuon fel Charlie Francis (R.E.M.) ac Amy Wadge (Ed Sheeran).  Mae Bryony yn chwarae'n rheolaidd ar radio rhanbarthol a chenedlaethol y BBC ac mae wedi perfformio ym mhobman o Sŵn, FOCUS Wales a Tadstock i Between the Trees a Nozstock. Cafodd sengl diwethaf Bryony ‘ID’ ei chynnwys ar Gymysgedd BBC Sounds Cymru. Mae EP newydd Bryony ‘Personal Monster’ wedi cael ei ryddhau drwy'r Orchard ac mae bellach ar gael i wrando arno ar bob platfform ffrydio. 

Dydd Gwener 20 - mwy o wybodaeth yn fuan!

Katielou

Dydd Gwener 27

 

Pete Ak

 

Spud Nicolle 

 

Katielou 

 

Araby 

Splashtonbury Header.jpg

 

Dydd Sadwrn Splashtonbury

Dydd Sadwrn, 10am-4pm
Ar agor i bob oedran

Gwnewch sblash mawr yn eich swigen fach! Gweithgareddau celfyddydol creadigol am ddim, theatr stryd fyw ynghyd â cherddoriaeth drwy gydol y dydd mewn mannau diogel a chroesawgar.

Perfformiadau byw - 

 

Close up image of glittered and feathered masks on a table

Dydd Sadwrn 7 - Parêd Haf Reality Theatre

Mae Reality Theatre yn mynd i helpu i ddathlu'r haf gyda pharêd hwyliog! Bydd amrywiaeth o fasgiau wyneb hwyliog yn llawn anifeiliaid, blodau, plu a gliter, i chi eu haddurno a'u gwisgo. Wedyn gallwch ddewis eich offeryn cerdd (neu greu un eich hun hyd yn oed!) ac ymuno mewn gweithdy drama a cherddoriaeth llawn hwyl, i ddysgu'r symudiadau ar gyfer y parêd mawr. 
   
Bydd Reality Theatre wedyn yn gorymdeithio ac yn canu ac yn taro’u drymiau i'r caneuon rydyn ni wedi'u dysgu, i ddathlu'r haf! 

 

The Sparklettes - It Don’t Mean a Thing

Mae’r Sparklettes yn dod â gliter y 1920au i’r perfformiad hwn, sy’n dangos rhyddid a hwyl y Charleston gyda thro modern.

Arhoswch ar ôl y perfformiad am weithdy dawnsio’r hwla gan ddysgu’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn arwr hwla.

 

Disgo Deino

Dewch i ddawnsio Disgo gyda'r deinosoriaid. Ymunwch â'n disgo Deino o’r flwyddyn 65 miliwn CC.

Trio of people one with accordion and one with boxing gloves

Dydd Sadwrn 14 - Bring Me Sunshine gan Splatch Arts 

Mae 'Bring me Sunshine' yn cyfuno syrcas, adrodd straeon a dos o'r abswrd. Cyfrif chwareus ac o’r galon o brofiadau Leyton yn byw gyda sglerosis ymledol. Gan ddod yn Feitr Cylch y Syrcas gyda dau dwpsyn syrcas drygionus wrth ei ochr, cawn gipolwg ar ei fyd!

 

two happy performers next to a green ladder

Dydd Sadwrn 21 - Afanc gan f.a.b. The Detonators

Mae 'Afanc' yn berfformiad theatr/dawns corfforol sy'n tynnu ar faterion sy'n ymwneud ag eco-argyfwng amgylcheddol, faint o blastig a llygredd sy’n ein hafonydd a'n moroedd a dirywiad trychinebus bywyd gwyllt a'n byd naturiol. 

Mae 'Afanc' yn anghenfil sy'n byw mewn llyn yn agos i bentref.  Wedi'i ddisgrifio'n amrywiol fel crocodeil, neu weithiau fel afanc neu blatypws, mae ganddo nifer annymunol o ddannedd. Pan fydd llygredd yn halogi dyfroedd ei gartref mae 'Afanc' yn troi ar y bobl ac mae dyrnu ei gynffon yn y dŵr yn achosi llifogydd enfawr, gan foddi popeth heblaw am ddau oroeswr, Dwyfan a Dwyfach.

Three people in traditional Welsh costumes with tall hats

Dydd Sadwrn 28 - Qwerin gan Osian Meilir 

Mae Qwerin' yn berfformiad dawns cyfoes sy'n ymestyn ffiniau dawnsio gwerin traddodiadol Gymreig. Gan gymryd ysbrydoliaeth o ddiwylliant clybiau Queer a phatrymau pleth sy'n llifo o’r ddawns werin, mae 'Qwerin' yn ddawns werin Gymreig gyda thwist.

Family Disco Headerjpg.jpg

 

Disgo i'r Teulu

Dydd Mawrth 10 a 24, 10am a 1pm, 1awr
Oedran: Teuluoedd â phlant dan 7 oed 

Bachwch eich ffyn golau a'ch gliter ar gyfer dawnsio gyda’r teulu yn ein stiwdio ddawns. Gadewch y flwyddyn ddiwethaf y tu cefn i chi a chael hwyl gyda'r teulu!