Newport Walk For Dementia

Unwaith eto, mae Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd yn gweithio gyda Chasnewydd Fyw ac yn annog pobl Casnewydd i gymryd rhan yn 'Nhaith Gerdded Casnewydd dros Ddementia’. Fodd bynnag eleni, oherwydd pandemig y coronafeirws a mesurau ymbellhau cymdeithasol, bydd y daith gerdded yn cael ei chynnal yn ‘rhithiol' gyda chyfranogwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y daith gerdded ar unrhyw adeg yn ystod mis Ebrill wrth ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, a chwblhau '3k Eich Ffordd Chi'. Dyddiad swyddogol y daith gerdded yw dydd Sul 25 Ebrill.

Bydd y daith gerdded, a gynhaliwyd gyntaf ym mis Ebrill 2019, yn codi arian hanfodol ar gyfer Cymdeithas Alzheimer’s Cymru. Gydag oddeutu 2,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghasnewydd, a 45,000 yn byw gyda dementia yng Nghymru, bydd yr arian a godwyd gan y daith yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gefnogi teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan y clefyd.

Mae Casnewydd eisoes wedi’i chydnabod fel dinas sy’n deall dementia, gan helpu i leihau’r stigma a gysylltir â dementia, a helpu’r rhai sy’n byw gyda’r cyflwr i deimlo’n hyderus, eu bod wedi’u deall a’u  cefnogi fel rhan werthfawr o gymdeithas a’r gymuned leol. Bydd y daith gerdded rithwir eleni yn annog cyfranogwyr i benderfynu sut y byddant yn ymuno â'r daith gerdded. Y dyddiad swyddogol yw dydd Sul 25 Ebrill, ond gall pobl ymrwymo i gerdded 3k bob dydd Sul, bob dydd, neu hyd yn oed redeg y 3k sut bynnag yr hoffent ei wneud ym mis Ebrill. Chi sydd i benderfynu ar y '3k Eich Ffordd Chi'.

Cofrestrwch yma

Dywedodd Rhia Stankovic, Codwr Arian Cymunedol ar gyfer De a Chanolbarth Cymru yng Nghymdeithas Alzheimer’s Cymru:  "Rydym wrth ein bodd bod 'Taith Gerdded Casnewydd dros Ddementia – 3k Eich Ffordd Chi' yn dychwelyd ym mis Ebrill eleni. Bydd y daith gerdded yn edrych yn wahanol eleni oherwydd y pandemig parhaus, ond ein blaenoriaeth yw sicrhau bod y cyhoedd yn parhau'n ddiogel.  Felly eleni mae Taith Gerdded Casnewydd dros Ddementia yn mynd yn rhithwir! Gall pobl ddewis cerdded, loncian, rhedeg neu feicio'r tri chilometr ar eu pennau eu hunain neu gydag aelodau o'u teulu – mater iddyn nhw'n llwyr yw hyn! Rydym mor ddiolchgar i Glwb Pêl-droed Casnewydd a Chasnewydd Fyw am eu hangerdd a'u cefnogaeth barhaus i Gymdeithas Alzheimer’s Cymru. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda nhw unwaith eto, nid yn unig i godi arian sy’n hanfodol i bobl sy’n byw â dementia yn y gymuned leol, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth ac i leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â’r clefyd creulon hwn.

Aeth Rhia ymlaen i ddweud: Mae’r Gymdeithas Alzheimer’s yma i unrhyw un y mae dementia’n effeithio arno yng Nghasnewydd.  Mae ein gwasanaeth newydd, Cyswllt Dementia, yn cysylltu pobl y mae dementia yn effeithio arnynt â'r cymorth cywir, ar yr adeg gywir, yn y ffordd gywir; gyda gwybodaeth a gynigir gan ein Hymgynghorwyr Dementia sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig. Er mwyn amddiffyn pobl y mae dementia’n effeithio arnynt, a'n gweithwyr yn ystod y pandemig, mae Cymdeithas Alzheimer’s Cymru wedi addasu gwasanaethau wyneb yn wyneb i'w darparu ar-lein a dros y ffôn. Mae Cymdeithas Alzheimer's Cymru yn cynnig cymorth i bawb y mae dementia yn effeithio arnynt. Gall unrhyw un sydd ein hangen ni ffonio ein llinell gymorth Cyswllt Dementia saith diwrnod yr wythnos ar 0333 150 3456 neu e-bostio  dementia.connect@alzheimers.org.uk. Neu, os ydych chi'n siarad Cymraeg, gallwch ffonio ein llinell gymorth Gymraeg ar 03300 947 400."

Dywedodd Cyfarwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Clwb Pêl-droed Casnewydd, Colin Faulkner: "Roedd digwyddiad 2019 yn gymaint o lwyddiant ac roeddem i gyd yn siomedig i beidio â gallu ei lwyfannu eto'r llynedd oherwydd y cyfnod clo Covid cyntaf.

"Er gwaethaf y cyfyngiadau parhaus, roeddem wir eisiau sicrhau bod y daith gerdded yn cael ei llwyfannu eleni gan ein bod yn gwybod pa mor anodd yw'r cyfnod hwn i lawer o elusennau.

"Dewiswyd Cymdeithas Alzheimer’s Cymru fel ein noddwr ar flaen ein crysau’r tymor hwn yn dilyn apêl cyllido torfol ar-lein, ac rydym yn falch iawn o barhau â'n cysylltiad â nhw a chyda'n partneriaid hirdymor Casnewydd Fyw.

"Rydym yn gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl sy'n gysylltiedig â'r clwb pêl-droed – yn chwaraewyr, staff, cyfarwyddwyr a chefnogwyr – yn ymuno â rhith-daith gerdded Casnewydd dros Ddementia eleni."

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw: "Ar ôl Taith Gerdded wych dros Ddementia yn 2019, rydym yn edrych ymlaen at ddod â Thaith Casnewydd dros Ddementia yn ôl yn 2021, er mewn fformat ychydig yn wahanol. Gwyddom am bwysigrwydd gweithgarwch corfforol, yn enwedig yn ystod y pandemig presennol, felly rydym yn annog pobl ledled Casnewydd i fynd allan i’r awyr agored a chwblhau eu 3k wrth sicrhau eu bod yn dilyn y canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru gan fod diogelwch pawb mor bwysig.

"Ers ennill statws Deall Dementia yn 2019, rydym mor falch o fod yn gweithio unwaith eto gyda'n partneriaid yng Nghymdeithas Alzheimer’s Cymru a Chymdeithas Pêl-droed Sir Casnewydd i helpu i godi arian hanfodol i gefnogi pobl y mae dementia yn effeithio arnynt."

COFRESTRWCH YMA

greu eich tudalen Just Giving