Do, ddarllenoch chi hynny’n gywir; mae angenfilod wedi dechrau ymddangos dros y lle i gyd, maen nhw wedi cymryd drosodd Theatr Glan yr Afon ac erbyn hyn mae dinas Casnewydd mewn perygl.

Os nad ydych chi wedi clywed yn barod, mae pethau rhyfedd wedi bod yn digwydd yng Nghasnewydd. O Joanie lawr y ffordd yn sylwi ar dwll newydd yn ei wal, sglodion Marcy yn diflannu a phecynnau dirgel yn troi fyny... mae'r cyfan yn RHYFEDD IAWN!

Ond nawr rydyn ni'n deall pam!

Mae How To Defeat Monsters (and get away with it) yn Gyd-gynhyrchiad Flossy a Boo a Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, yn dod i Gasnewydd dros wyliau’r Pasg.

Mae'r cynhyrchiad yn brofiad theatr rhyngweithiol, ymdrwythol. Os ceisiwch ddychmygu ystafell ddianc yn gymysg â sioe theatr wedi'i chymysgu â chae chwarae antur yna fe gewch chi syniad o beth fydd y profiad unigryw hwn.

O 1 mlwydd oed i 100 oed, mae hyn yn addas i bobl o bob oed! Mae'n brofiad teuluol gwyllt a rhyfeddol a fydd yn eich cael i grwydro o amgylch gofodau, mynd dros ymchwil ac ymchwilio i fyd cudd i fod yr Heliwr Angenfilod gorau y gallwch fod.

Mae dau fath o brofiadau: Sesiynau Archwilio a Sesiynau Perfformio. Mae sesiynau archwilio yn caniatáu i chi archwilio'r gofod yn eich amser eich hun, gyda chefnogaeth ein Gwesteion Hela Angenfilod. Yn y Sesiynau Perfformio bydd y gofod yn dod yn fyw gyda pherfformwyr byw; gallwch gwrdd â thîm Helwyr Angenfilod, ymchwilio i fyd cudd a dod yr Heliwr Angenfilod gorau y gallwch fod!

Bydd y profiad yn cael ei gynnal o ddydd Sadwrn 1 Ebrill tan ddydd Sadwrn 15 Ebrill, gydag amrywiaeth o amseroedd sesiwn yn islawr Theatr Glan yr Afon. Mae perfformiadau wedi eu dehongli BSL ar ddydd Mawrth a dydd Iau am 10am, 11am a 2pm. Mae prisiau tocynnau'n dechrau o £5 ac mae gostyngiad grŵp yn berthnasol i grwpiau o 3+ (rhaid i'r grŵp gynnwys 1 plentyn).

Mae Flossy a Boo a Theatr Glan yr Afon yn recriwtio Helwyr Angenfilod i'w helpu i grwydro, chwarae a bod yn ddewr yn y daith danddaearol i ddysgu cymaint ag y gallwn am yr angenfilod direidus hyn waeth pa mor beryglus... mawr, bach, sleimllyd a blewog...

Mae angen i chi wneud yn siŵr nad yw S.C.R.A.M yn dod i wybod amdanoch... nhw yw'r Gymdeithas Rheoli a Dileu Bwystfilod Ofnadwy....mae’n nhw’n ddrwg i’w corun. Ydych chi am dderbyn yr her? 

Archebwch eich tocynnau nawr i gael eich sgubo i fyd o angenfilod, drygioni a chaos: https://bit.ly/defeat-monsters

Wedi'u dotio o amgylch Canol Dinas Casnewydd mae 8 cod QR, sydd os ydych chi'n eu sganio, yn dweud wrthych chi am rai o'r profiadau rhyfedd mae rhai pobl leol wedi'u cael.

Os ydych chi am wneud yn siŵr nad ydych yn colli munud o'r gwallgofrwydd, cymerwch olwg ar fap y llwybr, sy'n nodi lle mae pob cod QR wedi'i leoli: Llwybr Angenfilod Cod QR – Google My Maps.

Os na allwch chi ddod i’r dref neu os nad oes gennych ffôn clyfar i sganio'r codau QR, ewch i SounCloud Flossy a Boo am yr holl straeon yn Gymraeg a Saesneg https://on.soundcloud.com/S8A27 .

Cadwch le: https://bit.ly/defeat-monsters