Mae Yn Fyw yng Nglan yr Afon yn ôl ym mis Chwefror eleni ar ddyddiad ychydig yn wahanol, sef dydd Gwener 4 Chwefror, er mwyn nodi Dydd Miwsig Cymru.

Ymunwch â ni ynn Nglan yr Afon rhwng 6-10pm i fwynhau adloniant AM DDIM, mewn digwyddiad cerddorol anffurfiol a hamddenol.

Yn perfformio, bydd:

Roughion 

Two male musicians sitting on steps

Mae Roughion yn ddeuawd o Aberystwyth sy’n creu argraff fawr ar hyn o bryd.  Yn cynrychioli'r Gymraeg yn y sîn clybiau, mae Roughion wedi ailgymysgu a chydweithio gydag artistiaid fel Mei Gwynedd, De Louet, MC Elijah Black a Dafydd Hedd - maen nhw hefyd yn cynnwys samplau sain o areithiau Cymraeg hanesyddol yn eu cerddoriaeth electronig unigryw. Mae sŵn Roughion yn gyfoes ac yn ffres ac yn arbrofi gydag arddull a genre. Cerddoriaeth ddawns - ond ar ei newydd wedd!  Bydd sŵn drwm a bas, cerddoriaeth tŷ a feibs indi gan gewri cerddoriaeth ddawns Gymraeg Cymru.  

 

Dafydd Hedd 

Mae Dafydd Hedd yn prysur greu enw da cwbl haeddiannol iddo’i hun yn sîn gerddoriaeth Cymru a'r DU. Mae Dafydd yn ifanc ond mae eisoes wedi creu corff sylweddol o waith. Yn gyfrifol am safonau cynhyrchu uchel a llwyth o gynnyrch mae Dafydd yn byw ym Mryste ac yn mynd â'i gerddoriaeth Gymraeg i gynulleidfaoedd y tu draw i’r ffin.  Mae Dafydd Hedd yn dalentog a dewr, ac yn mynnu sylw.  Mae'r person ifanc gweithgar hwn yn bendant yn un i'w wylio. Gallwch ddisgwyl geiriau digyfaddawd a gitar grunge unigryw gan y canwr gyfansoddwr arloesol hwn.

Dyma enghraifft o Dafydd yn perfformio: https://youtu.be/tmLzu5ipfgk

 

 

Manylion y ddau berfformiwr arall i ddilyn.

Newport City Council.jpgMae'r digwyddiad hwn yn bosibl diolch i gyllid gan Gyngor Dinas Casnewydd.