Bydd aelodau llawn newydd ffitrwydd Oedolion ac Iau sy'n ymuno ar neu cyn 15 Tachwedd yn gallu defnyddio cyfleusterau Casnewydd Fyw AM DDIM yn ystod mis Rhagfyr.

Nid yw'r cynnig hwn ar gael ar aelodaeth sydd eisoes â gostyngiad gan gynnwys consesiynau ac oddi ar yr oriau brig.

Mae Aelodaeth Casnewydd Fyw yn eich galluogi chi i fanteisio ar y campfeydd, y pyllau nofio a’r dosbarthiadau ymarfer corff a geir ym mhob un o'n canolfannau.  

Fel rhan o'ch aelodaeth, gallwch fanteisio ar gymorth ffitrwydd personol am ddim sy’n cynnwys sesiwn groesawu, archwiliad iechyd, rhaglen (cynllun ffitrwydd) a sesiwn 1 i 1 wythnosol gyda hyfforddwr ffitrwydd.

Gweld Aelodaeth

Dim contractau! Dim ffioedd ymaelodi!

Peidiwch ag oedi! Ymunwch â ni heddiw!

I ddysgu rhagor am arbedion eraill yn cynnwys ein haelodaeth am bris gostyngol ac arbedion blynyddol, ewch i’n tudalen aelodaeth.

Pris Aelodaeth

Dim ond ar yr aelodaethau isod y mae’r cynnig ar gael.

Oedolion

Aelodaeth lawn i oedolion 17-59 oed.

£34/mis
£306/blwyddyn

Ymunwch ar-lein nawr

Pobl ifanc

Aelodaeth lawn i’r rhai 11 i 16 oed. 

£17/mis
£153/blwyddyn

Ymunwch ar-lein nawr
Mae Telerau ac Amodau’n Berthnasol. Ni chodir tâl ar aelodau ffitrwydd newydd ar gyfer mis Rhagfyr 2021 cyn belled â'u bod yn ymgymryd ag aelodaeth ffitrwydd newydd rhwng  5 Hydref 2021 a 15 Tachwedd 2021. Mae'r cynnig hwn yn berthnasol i aelodaeth oedolion a phobl ifanc lawn. Ddim yn ddilys ar aelodaeth sydd eisoes â gostyngiad gan gynnwys consesiynau, corfforaethol ac oddi ar yr oriau brig. Mae'r cynnig hwn yn berthnasol i aelodaeth ffitrwydd oedolion ac iau lawn. Telerau ac amodau Aelodaeth Arferol yn berthnasol y gellir eu gweld ar www.CasnewyddFyw/Telerau-ac-Amodau/. Bydd yn rhaid i unrhyw un sydd yn ymuno rhwng 5 -15 Hydref hefyd dalu taliad Debyd Uniongyrchol fis Tachwedd, wedi 16 o Hydref ac ymlaen bydd y taliad pro rata yn cael ei addasu i gipio taliad Debyd Uniongyrchol fis Tachwedd. Bydd Debydau Uniongyrchol yn cael eu casglu Ddydd Mawrth 1 Ionawr am y swm arferol. 

PÀS 5 DIWRNOD AM DDIM

Os nad ydych wedi penderfynu eto, rhowch gynnig arnom ni AM DDIM am 5 diwrnod. Mae tocyn 5 diwrnod am ddim ond ar gael i gwsmeriaid newydd nad ydynt wedi cael tocyn 5 diwrnod yn ystod y 12 mis diwethaf.

Cael eich Tocyn 5 Diwrnod am Ddim

Ymrwymiad Covid-19
Newport Live Covid 19 Commitment Logo

Mae Casnewydd Fyw wedi ymrwymo i’ch cadw’n ddiogel! 

Nod ymrwymiad Covid-19 Casnewydd Fyw yw rhoi tawelwch meddwl i’n cwsmeriaid wrth iddynt ymlaelodi neu ddefnyddio ein cyfleusterau. 

Rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac UK Active ac rydym wedi cael Cymeradwyaeth Ymateb i Covid-19. Mae hyn yn cynnwys mwy o lanhau, llai o bobl, mesurau ymbellhau cymdeithasol, a gwisgo gorchuddion wynebau yn ein holl ganolfannau.

Gallwch ddod o hyd i’n canllawiau llawn yma. 

UKA COVID-19 Response Approved Logo​​​​​​​