Happy woman with her arms spread out as if cheering

 

Ddydd Llun 21 Mawrth ymwelodd disgyblion o Ysgol Gynradd Somerton â Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon am ddiwrnod o weithgareddau, gweithdai a pherfformiad unigryw o Josephine.

Roedd y digwyddiad yn rhan o raglen a gyllidir gan y Gronfa Iach ac Egnïol (HAF) a rhoddodd gyfle i'r bobl ifanc weld sioe, profi taith gefn llwyfan a chymryd rhan mewn gweithdai drama a chrefft.

Rhoddodd yr ymweliad gyfle i lawer o'r myfyrwyr brofi gweithgareddau a gweithdai nad oeddent wedi'u mynychu o'r blaen.  Drwy roi cyfle i'r bobl ifanc hyn weld y tu ôl i’r llenni mewn theatr go iawn a’u helpu i brofi theatr a'r celfyddydau yn ifanc, mae Glan yr Afon yn gobeithio chwalu’r rhwystrau o ran ymweld â theatr ac amlygu'r celfyddydau fel gyrfa bosib yn y dyfodol. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig a chreadigol hefyd yn allweddol i gefnogi lles y bobl ifanc hyn. 

Ar ôl y diwrnod o weithgarwch, trosglwyddodd Sarah Rodda, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Somerton, ei diolch i dîm Glan yr Afon.

'Roedd y sefydliad heb ei ail a chafodd pob plentyn amser hollol anhygoel. Roedden nhw'n gallu profi pethau nad ydyn nhw erioed wedi gallu eu gwneud o'r blaen fel ymweld â'r stiwdio ddrama, deall ochr dechnegol y theatr, a gweld holl rannau'r llwyfan. 

Mae pawb wedi dychwelyd gydag agwedd mor gadarnhaol.  Roedd pwnc 'Josephine' a'r stori sydd y tu ôl iddo wedi'i ddewis yn dda ac yn berthnasol iawn.

Bydd yn un o'r 'profiadau' hynny na fyddant byth yn eu hanghofio a phwy sy'n gwybod, efallai fydd yn  ysbrydoli rhai gyrfaoedd yn y theatr.'

Roedd y sioe hon, Josephine yn archwilio stori ryfeddol Josephine Baker: perfformwraig, ysbïwraig ac ymgyrchydd hawliau sifil. Yn cynnwys sgôr a ysbrydolwyd gan Harlem Renaissance, dawnsio ysgafndroed Charleston ac  amrywiaeth o ffigurau hanesyddol, y cynhyrchiad oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r gweithdai a gynhaliwyd y diwrnod hwnnw. Profodd y bobl ifanc sesiwn clwb drama gyda Nyla Webb lle buon nhw'n chwarae gemau theatr ac yn mwynhau ymarferion yn canolbwyntio ar gymeriad a mynegiant yn gysylltiedig â'r sioe. Hefyd, cynhaliodd yr artist lleol Kate Mercer weithdy celf weledol yn gwneud penwisgoedd lliwgar hardd ar thema Charleston yn seiliedig ar wisgoedd Josephine.

Meddai Danielle Rowlands, Swyddog Datblygu Addysg a Chyfranogiad Celfyddydol Glan yr Afon ar y diwrnod:

'Mae bob amser yn ddiwrnod gwych pan fydd ysgolion yn ymweld â'r adeilad, ac roedd hwn yn ddiwrnod arbennig iawn gan ei fod yn un o'r cyfleoedd cyntaf a gawsom i groesawu disgyblion yn ôl drwy ein drysau ers i ni ailagor. Roedd yn wych gwylio'r disgyblion yn magu hyder drwy gydol y dydd wrth iddynt gymryd rhan yn ein gweithdai, ac roedd y rhyfeddod ar eu hwynebau wrth iddynt eistedd a mwynhau'r sioe mor arbennig i'w weld.'

Mae tîm Iechyd a Lles Casnewydd Fyw yn cefnogi'r ysgol ar hyn o bryd fel rhan o'r rhaglen a ariennir gan y Gronfa Iach ac Egnïol, partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nod y rhaglen yw gwella lles corfforol ac emosiynol y bobl ifanc drwy gyflwyno sesiynau gweithgareddau corfforol hwyliog a diddorol.  Mae'r tîm hefyd wedi sefydlu llyfrgell fenthyca yn yr ysgol sy'n cynnig cyfle i ddisgyblion fenthyg offer chwaraeon y gellir eu defnyddio gartref gyda'u teuluoedd.

Dywedodd Ben Adams, Uwch Swyddog Datblygu Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw:

'Roedd yn wych croesawu disgyblion Ysgol Gynradd Somerton i Lan yr Afon a chynnig cyfle iddynt fod yn rhan o brofiad unigryw.  Creodd y tîm ddiwrnod gwych o weithgareddau a gweithdai a alluogodd disgyblion i ddysgu sgiliau newydd.  Gadawodd pawb gyda gwên ar eu hwynebau, ac edrychwn ymlaen at greu cyfleoedd pellach i ddisgyblion lleol ar draws y rhaglenni Chwaraeon a Lles Cymunedol yng Nghasnewydd Fyw.

Dywedodd un disgybl:

'Fe wnes i fwynhau'r gweithdai heddiw yn fawr iawn; dyma'r tro cyntaf i mi fod i Lan yr Afon.  Fy hoff ran oedd y daith oherwydd i ni fynd y tu ôl i’r llwyfan a dysgu sut mae'r sioeau'n cael eu gwneud  cyn gwylio sioe Josephine yn y prynhawn.'

Yn ogystal â hyn, mae'r tîm Iechyd a Lles hefyd yn cefnogi'r ysgol drwy gyllid Teuluoedd yn Gyntaf sy'n cefnogi'r gwaith o ddarparu gweithdai iechyd a lles a sesiynau coginio i deuluoedd yn yr ysgol.

Mae Casnewydd Fyw a Glan yr Afon yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i ysgolion gymryd rhan ynddynt, yn eu lleoliadau ac yn amgylchedd yr ysgol, gan gynnwys gweithdai pwrpasol, dangosiadau sinema preifat, ceisiadau am gyllid ar y cyd, ymweliadau â lleoliadau a theithiau preifat. I gael rhagor o wybodaeth a manylion am brosiectau a rhaglenni mae Casnewydd Fyw a Glan yr Afon yn cynnal ar gyfer ysgolion a'r gymuned ewch i https://www.newportlive.co.uk/ên/community-support/ <https://www.newportlive.co.uk/cy/Cymorth-Cymunedol/> a chysylltu â'n Swyddogion Datblygu.

I gael gwybod mwy am yr hyn sydd ar y gweill yng Nglan yr Afon dros y misoedd nesaf ewch i Casnewyddfyw.co.uk/ Glan yr Afon

 

 

NewportLiveLogoBlack-01.pngOne Newport Logo.jpg   Funded by Welsh assembly Government Logo  Families first logo.jpg  Healthy & Active fund logo