Cyfres o ddigwyddiadau a gosodiadau dros gyfnod o flwyddyn sy'n ymchwilio i'n perthynas â thir a dŵr a sut y gallem ymateb i’r cynnydd yn lefelau'r môr ar hyd arfordir Cymru.

 Bydd gweithiau celf ar thema goleudai a rhaglen o ddigwyddiadau cyhoeddus am ddim i deuluoedd yn parhau yng Nghasnewydd a Magwyr o ddydd Mawrth 26 Gorffennaf.

 

Lighthouse outside The Riverfront
 

Bydd Llwybr Arfordir (Dyfodol) Cymru yn cynnal rhaglen am ddim o ddigwyddiadau cyhoeddus ym mis Gorffennaf eleni, gyda sgyrsiau, cyfnewidfa ryngwladol, picnic a thaith gerdded y machlud yng Nghasnewydd a Magwyr.

Ym mis Ebrill 2022, ymddangosodd goleudai ar Gors Magwyr a Glan yr Afon, Casnewydd, gyda phob golau yn ein cysylltu yng Nghymru â'n ffrindiau ym Mae Bengal drwy ddata llanw byw.

Ategir y prosiect gan raglen o ddigwyddiadau a sgyrsiau am ddim a gynhelir gan artistiaid a gwyddonwyr drwy gydol y flwyddyn, gan annog cymunedau yng Nghasnewydd, Magwyr a Gwastadeddau Gwent ehangach i archwilio ein perthynas â'r môr a'r tir drwy amrywiaeth o weithgareddau creadigol ac addas i deuluoedd. Bydd cyfleoedd i gerdded, gwneud a chasglu, a byddwn yn cysylltu â chymunedau yn Sundarbans India, sydd ar y rheng flaen o ran cynnydd yn lefelau'r môr heddiw.

Ddydd Mawrth 26 Gorffennaf, gall cynulleidfaoedd fwynhau trafodaeth anffurfiol am y goleudai yng Nglan yr Afon, Casnewydd gyda'r artistiaid Alison Neighbour a Vikram Iyengar a'r gwyddonydd cymdeithasol morol Dr Emma McKinley. Ddydd Iau 28 Gorffennaf, gwahoddir cymunedau ar Wastadeddau Gwent i Gors Magwyr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent am ddiwrnod o weithgareddau creadigol addas i deuluoedd, a phicnic a thaith gerdded hawdd o'r goleudy i'r môr ar fachlud haul i gyfarch y llanw’n codi. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.

O ddiwedd y mis, gall pobl hefyd fwynhau'r Llwybr Darganfod newydd, casgliad o flychau geocache o amgylch Magwyr sy'n ein hannog i greu ein teithiau cerdded ein hunain a darganfod dirgelion y dirwedd hudolus hon. Bydd y Llwybr Darganfod ar gael yn ystod golau dydd tan fis Medi.

Ariennir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac fe’i gwnaed yn bosibl mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys Glan yr Afon, Prifysgol Caerdydd, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Newport Fusion, Gwastadeddau Byw, Cyfoeth Naturiol Cymru, Pervasive Media Studio, Partneriaeth Aber Afon Hafren, Pont Gludo Casnewydd, Prosiect Gweledigaeth Hafren a Llwybr Arfordir Cymru. Ariennir y cydweithio rhyngwladol gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth ac archebu ar gyfer digwyddiadau ar gael yn futurecoastpath.org