Creative Space clear out bilingual text over colourful arts supplies

 

Yn dilyn llwyddiant yr ymgyrch Clirio Mannau Creadigol cyntaf ym mis Chwefror, mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch iawn o fod yn cynnal ail gliriad ym mis Mai!

Oes gennych chi lond stiwdio o ddeunyddiau nad ydych chi'n eu defnyddio? Gormod o gyflenwadau? Fframiau sydd angen cartref da neu hen bropiau nad oes eu hangen bellach?

Ar Ddydd Sadwrn 14 Mai rhwng 12 - 4pm, byddem wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno ag artistiaid, sefydliadau a gwerthwyr arbenigol lleol i ailddosbarthu adnoddau i bobl eraill a allai eu defnyddio.  Mae'r digwyddiad hwn yn ffordd anffurfiol a chyfeillgar o ailgylchu nwyddau yn ein cymuned.

Mae croeso i chi ddod ag unrhyw eitemau neu unrhyw beth yr hoffech ei werthu ar y diwrnod. Rhaid i chi gadw bwrdd ymlaen llaw drwy gysylltu â studio@katemercer.co.uk.

Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y digwyddiad hwn, rhowch wybod i dîm Glan yr Afon erbyn dydd Mercher 11 Mai drwy e-bostio danielle.rowlands@mewportlive.co.uk.

 

Rhagor o wybodaeth:

  • Maint y bwrdd yw 6' x 3' gyda chadeiriau ar gael am ddim. Mae croeso i chi arddangos eitemau mwy ar y llawr ger eich bwrdd cyn belled ag nad ydyn nhw’n rhwystro llwybrau cerdded neu allanfeydd tân yn yr adeilad. Rhaid i ddeiliad stondinau ddarparu unrhyw unedau arddangos ychwanegol.

  • WI-FI ar gael.

  • Bydd modd llwytho o 11am o’r tu allan i'r adeilad. Bydd mannau parcio hygyrch wedi’u neilltuo yn y safle.  Mae parcio ar gael ym meysydd parcio Friars Walk a Chanolfan Siopa Ffordd y Brenin, neu yn y meysydd parcio cyhoeddus ar Ffordd y Brenin.

 

Telerau ac Amodau

  • Rhaid i nwyddau sydd ar werth fel rhan o'r digwyddiad hwn fod yn eiddo personol i ddeiliaid y stondinau.

  • Mae Glan yr Afon yn cadw'r hawl i wrthod dosbarthu unrhyw ddeunydd y mae'n ei ystyried yn anaddas yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol Casnewydd Fyw.

  • Os yw deiliad stondin yn ansicr a yw natur yr hysbyseb neu'r gweithgaredd hyrwyddo yn addas, anfonwch gopi neu drosolwg at studio@katemercer.co.uk.

  • Rhaid i gopi a ddarperir gan ddeiliaid i’r cyfryngau fod yn gywir, yn gyfreithlon, yn gymeradwy, yn weddus, ac yn onest a chydymffurfio â Chod Ymarfer Hysbysebu Prydain (2010) a Deddf Disgrifiadau Masnach (1968), ac unrhyw weithredoedd neu reoliadau eraill sy'n sicrhau safonau hysbysebu. Rhaid i chi fod yn berchen ar unrhyw logo, deunydd neu nod sicrhau ansawdd a ddefnyddir yn y copi neu fod gennych awdurdod i'w ddefnyddio. Ni fydd Glan yr Afon yn gyfrifol os yw'r uchod wedi'i ddefnyddio heb awdurdod.

  • Rhaid i stondinau gael eu staffio gan ddeiliaid stondinau (naill ai eich hun hunan neu enwebai) drwy gydol y digwyddiad - Ni fydd Glan yr Afon yn gallu goruchwylio'r bwrdd i chi.

  • Mae deiliaid stondinau yn gyfrifol am ddiogelwch eu heiddo. Ni ellir dal Glan yr Afon yn gyfrifol am ddifrod neu ladrad oni bai ei fod yn cael ei achosi gan esgeulustod difrifol.

  • Rhaid i unrhyw ddeiliad stondin sy'n gwerthu / cynnig bwydydd am ddim, allu dangos tystiolaeth o gydymffurfiad Hylendid Bwyd. Ni chaniateir gwerthu cynhyrchion â chyfyngiad oedran yn y digwyddiad hwn.

  • Dim ond dros dro y caniateir parcio yn yr ardal a ddyrennir at ddiben llwytho neu ddadlwytho. Nid oes unrhyw gerbyd i'w adael - hyd yn oed dros dro - mewn modd sy'n rhwystro mynediad i gyfleusterau'r adeilad neu fannau diogelwch neu adael mewn tân.

  • Oherwydd natur y digwyddiad, gall cynllun lleoliadau'r stondinau newid hyd at y funud olaf. Er y bydd Glan yr Afon yn ymdrechu i ateb gofynion pob cwsmer, a bod yn deg â phawb, weithiau bydd maint a chynllun cymhleth y digwyddiad yn golygu na fydd lleoliad stondinau yn cael ei gyfathrebu cyn cyrraedd ar y diwrnod.

 

Mae croeso i chi rannu gydag unrhyw un y credwch y byddai ganddynt ddiddordeb mewn dod neu gymryd stondin.

Diolch - edrychwn ymlaen at glywed gennych