Ers y Flwyddyn Newydd, mae Casnewydd Fyw wedi bod yn gweithio gyda'i phartneriaid yn y Ddinas i adleoli'r gweithgareddau a'r clybiau a oedd gynt yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Casnewydd. Er bod llawer o'r gweithgareddau wedi'u symud i leoliadau eraill, yn anffodus ni chafwyd hyd i leoliad addas ar gyfer rhaglen Plantos Prysur (Chwarae Meddal). Felly, bu'n rhaid i ni wneud y penderfyniad trist i atal y gweithgaredd hwn am y dyfodol rhagweladwy. Gwyddom fod hyn yn golled enfawr i deuluoedd ifanc Casnewydd.
Mae Casnewydd Fyw yn cynnig gweithgareddau ychwanegol i’r plantos i deuluoedd ifanc yn ein cyfleusterau eraill a thrwy raglenni eraill. Mae’r rhain yn cynnwys:
Tennis i Blant Bach
Mae Tennis i Blant Bach yn ffordd hwyliog o gyflwyno plant 2-4 oed i raced dennis a hanfodion y gamp gan ddefnyddio gweithgareddau, ymarferion a gemau hwyliog.
Mae sesiynau wedi'u hanelu at ddatblygu ystwythder, cydbwysedd a chydlyniant, gan ganolbwyntio ar fwynhad.
Caiff chwaraewyr gyfle i gwrdd â phlant eraill ac annog rhyngweithio cymdeithasol.
Bydd rhieni/gwarchodwyr yn cael eu hannog i ddod ar y cwrt i helpu eu plant gydol y sesiynau, felly gwisgwch esgidiau ymarfer os gwelwch yn dda. Mae'n ffordd wych i chi fod yn actif gyda'ch gilydd!
Cynhelir y sesiynau ar ddyddiau Llun am 1:15pm, dyddiau Iau am 11:15am ac ar ddyddiau Sul am 9am, am £4.35 y plentyn.*
*Offer wedi'i ddarparu. Rhaid i oedolion fod yn bresennol yn ystod y sesiwn.
Beiciau Cydbwyso
Mae’r sesiwn hon ar gyfer plant ifanc 2-5 oed a fydd yn cael hwyl yn sgrialu o gwmpas mewn amgylchedd diogel! Cam cyntaf yw hwn o’r daith i ddysgu i fynd ar feic.
Mae beiciau cydbwyso’n wych ar gyfer datblygu cydbwysedd a sgiliau sylfaenol plant i’w helpu i ddysgu sut i reidio beic ar eu pen eu hunain yn gyflymach na defnyddio olwynion cydbwyso traddodiadol. Dros ychydig o sesiynau, bydd y plant yn gallu sgrialu a llithro, tra'n cael hwyl trwy gwrs rhwystrau, o dan y polyn limbo a thros rampiau.
Bydd angen i blant gael eu cefnogi gan riant neu ofalwr.
Anogir y plant i ddod â'u helmed eu hunain i'r sesiwn hon. Mae gennym nifer cyfyngedig o helmedau ar gael sy'n cael eu glanhau cyn ac ar ôl pob sesiwn.
Ni chaniateir ac ni ddefnyddir olwynion sefydlogi yn ystod y sesiwn.
Cynhelir y sesiynau ar foreau Sul ac maent yn llenwi’n gyflym. Mae sesiynau’n costio £4.60 ac maent wedi’u cyfyngu i 15 beiciwr.
Cynhelir y sesiwn yn yr arena fewnol yn Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas Cymru.
Nofio i’r Teulu
Mae ein sesiynau nofio i'r teulu yn addas ar gyfer teuluoedd â phlant dan 8 oed sy'n awyddus i fwynhau'r pwll, ymarfer nofio a chael hwyl mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel. Mae ein sesiynau yn ystod yr wythnos yn berffaith i blant cyn oed ysgol!
Gellir archebu sesiynau nofio i deuluoedd wythnos ymlaen llaw ac nid ydynt yn addas i bartïon.
Edrychwch ar Nofio i’r Teulu ar y dudalen Be sy’ Mlaen i weld pa sesiynau sydd ar gael.
Mae'r sesiynau'n costio £4.35 i oedolion, £2.60 i bobl hŷn, £2.20 i blant ac mae plantos dan 4 oed yn cael mynd AM DDIM. Mae Canllawiau goruchwylio plant yn berthnasol i bob sesiwn nofio i'r teulu
Swigod
Mae Swigod yn gyflwyniad i’r amgylchedd dŵr a’r rhaglen dysgu nofio gyda chefnogaeth lawn i fabanod a phlant ifanc sydd yng nghwmni oedolyn, wedi’i anelu’n benodol at blant 0-3 blwydd oed.
Mae'r sesiynau hyn bob amser yn boblogaidd. Yn y sesiynau presennol, y cyntaf i’r felyn yw hi o ran Swigod 1a2 ond mae Swigod 3a4 ar hyn o bryd yn llawn.
Theatr Glan yr Afon
Mae gennym ni weithgareddau a pherfformiadau sy’n addas i hyd yn oed aelodau ieuengaf y teulu yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon.!
Mae ein rhaglen o weithdai’n cynnwys Cerddoriaeth a Symud Hubble, gweithdy cyn ysgol bywiog sy’n llawn hwyl ac yn addas i bob oed a gallu, o fabanod tua 6 wythnos oed i blant 5 oed. Mae'r sesiynau'n cael eu cynnal bob dydd Mawrth yn ystod y tymor.
Cerdded mewn Welis
Yn ystod gwyliau’r ysgol ymunwch â ni ar ein teithiau cerdded mewn welis AM DDIM, am weithgareddau corfforol llawn hwyl yn yr awyr agored. (beth bynnag fo’r tywydd) Yn addas i deuluoedd gyda phlant 2 - 5 oed. Mae croeso i frodyr a chwiorydd ymuno.
Cynhelir y sesiynau:
Dyddiad: 30 Mai, 10 - 11am
Lleoliad: Parc Beechwood
Dyddiad: 1 Mehefin, 10 - 11am
Lleoliad: Maes Lles Tŷ-du
I gadw lle, e-bostiwch brittany.cloke@newportlive.co.uk
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Casnewydd Fyw drwy'r ddolen: Casnewydd Fyw | Gweithgareddau i Blantos Bac