Amserlen Nofio i’r Cyhoedd
Rydym yn cynnig sesiynau nofio i’r cyhoedd yn ein byllau. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn chwarae mewn dŵr bas, nofio hyd y pwll neu hyfforddi ar gyfer cystadleuaeth, gallwch nofio er hwyl a ffitrwydd ar amser ac mewn lleoliad sy'n addas i chi!
Wrth nofio yn un o byllau Casnewydd Fyw, bydd angen i chi ddilyn ein canllawiau diogelwch a chymarebau plant i oedolion; gellir gweld y rhain yma.
ein cwestiynau cyffredin am nofio
Nofio Lôn
Mae nofio lôn ar gael ar hyn o bryd yn y Ganolfan Byw'n Actif a'r Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol.
Bydd angen i chi neilltuo lôn sy’n berthnasol i’ch cyflymder nofio gan na fyddwch yn gallu goddiweddyd. Ni chaniateir nofio ar y cefn. Bydd y sesiynau’n para 60 munud ar y mwyaf i ganiatáu i’n staff lanhau.
Bydd rhaid i gwsmeriaid gyrraedd yn barod i nofio gan na fydd loceri a chiwbiclau newid ar gael. Bydd cwsmeriaid yn cael blwch 2 fetr penodol wrth ymyl y pwll i ddadwisgo a storio cyfarpar.
Gall Aelodau archebu sesiynau nofio 8 diwrnod ymlaen llaw a defnyddwyr Cyflog a Chwarae 4 diwrnod ymlaen llaw.
Archebwch nawrNofio i Deuluoedd
Mae ein sesiwn nofio hwyliog i'r teulu yn berffaith ar gyfer teuluoedd â phlant iau sy'n awyddus i fwynhau'r pwll, ymarfer nofio a chael hwyl mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel. Mae ein sesiynau yn ystod yr wythnos yn berffaith i blant bach a phlant cyn ysgol!
Caiff teuluoedd (hyd at 5 o bobl) chwarter o’r Pwll Addysgu yn y Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol iddyn nhw eu hunain am 1 awr.
Gellir archebu sesiynau nofio i deuluoedd wythnos ymlaen llaw ac nid ydynt yn addas i bartïon. Rhaid i’r teuluoedd fod o’r un cartref.
Dydd Mercher a Dydd Iau: 9.30am, 10.45am, 12pm, 1.15pm, 2.30pm
Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Gwener: 9.30am, 10.45am
Dydd Sadwrn a Dydd Sul: 4.30pm, 5.45pm
Mae canllawiau goruchwylio plant yn berthnasol i bob sesiwn nofio i'r teulu.
Bydd pob teulu sy’n dod i sesiwn yn cael ystafell newid ar ôl iddynt nofio.
ADRANNAU A&B: PEN BAS
Mae'r pwll yn dechrau ar ddyfnder o 0.6m ac yn cyrraedd 0.75m ar ei ddyfnaf. Grisiau gyda chanllaw sy’n arwain i’r pwll yn y pen bas.
ADRANNAU C&D: Y PEN DWFN
Mae'r pwll yn dechrau ar ddyfnder o 0.75m ac yn cyrraedd 0.9m ar ei ddyfnaf. Ysgol sy’n arwain i’r pwll yn y pen dyfnach.
£12.50 y teulu.
Gweld yr holl cwestiynnau cyffredin yma
Archebwch NawrNOFIO AM DDIM YNG NGHASNEWYDD FYW
Mae nofio am ddim yn caniatáu i blant 0 – 16 oed, pobl dros 60 oed, aelodau o'r lluoedd arfog a chyn-filwyr nofio am ddim ar adegau penodol yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol a'r Ganolfan Byw’n Actif.
Mwy o wybodaeth