Poster of man playing tennis outdoors with banner over image saying 'its time for a game again'Yn dilyn y datganiad diweddar gan Lywodraeth Cymru, rydym yn falch o ddweud bod ein cyrtiau tenis awyr agored bellach ar agor.

Mae modd archebu ein cyrtiau awyr agored nawr!

Mae ein cyrtiau tennis awyr agored ar gael ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd i hyd at 4 person o 2 aelwyd ar y mwyaf.  

Gellir archebu cyrtiau am awr rhwng 8am a 6pm ac mae 50 munud yn costio £5.

Bydd angen i chi archebu cwrt ar ein app neu ar ein gwefan

Manylion ac Archebu

 

Ein Gwasanaethau Eraill

Oherwydd y sefyllfa bresennol gyda’r coronafeirws, mae ein gwasanaethau a'n cyfleusterau Casnewydd Fyw eraill yn parhau i fod ar gau i'r cyhoedd hyd nes y clywir yn wahanol.

Rydym yn dilyn diweddariadau gan Lywodraeth Cymru yn ofalus a byddwn yn rhoi mwy o fanylion i chi am ein gwasanaethau eraill cyn gynted ag y gallwn.

Mae'r cyfleusterau canlynol ar gau ar hyn o bryd;

Canolfan Casnewydd
Pwll Rhanbarthol a Chanolfan Tenis
Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas 
Canolfan Byw'n Actif
Stadiwm Casnewydd
Canolfan Cysylltu
 

Bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon nad yw wedi gallu agor ers mis Mawrth 2020 hefyd yn parhau ar gau. 

Os oes gennych aelodaeth, neu’n mynd i wersi nofio neu tenis gyda ni, neu os oes gennych ddebyd uniongyrchol, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau. Bydd hyn yn cael ei rewi nes i ni ailagor ac ni fydd taliad yn cael ei gymryd tra byddwn wedi cau. Mae manylion llawn isod.

 

Aelodaethau

Os ydych chi’n aelod o Gasnewydd Fyw, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau, caiff eich aelodaeth ei rhewi'n awtomatig o'r diwrnod y byddwn yn cau, mae hyn yn berthnasol i aelodau misol, tymor penodol a blynyddol. O ganlyniad, ni fyddwn yn ceisio casglu unrhyw daliadau debyd uniongyrchol o'ch cyfrif banc yn ystod ein cau.  Byddwn yn credydu unrhyw falans o'ch aelodaeth i chi oherwydd y cau (e.e. diwrnodau yn ystod mis Rhagfyr) ar ôl ailagor ein cyfleusterau a'n rhaglenni.  Nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd y cyfle i ailagor ac ailgychwyn ar gael i chi. 

Os caiff eich aelodaeth ei rhewi pan fyddwn yn gorfod cau, bydd yn parhau wedi ei rewi tan y dyddiad y cytunwyd arno.

Aelodau Debyd Uniongyrchol

I'r aelodau hynny y mae eu Debydau Uniongyrchol yn fyw ar hyn o bryd, oherwydd cyfathrebiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru a'r ansicrwydd ynghylch pryd y cawn ailagor ein cyfleusterau, rydym wedi penderfynu peidio â chasglu eich taliad Debyd Uniongyrchol a fydd yn ddyledus Ddydd Llun 4 Ionawr 2021. Rydym yn obeithiol y byddwn yn gallu ailagor yn gynnar yn 2021 a byddwn yn cysylltu â chi unwaith y bydd gennym ddyddiad ailagor wedi'i gadarnhau yn rhoi gwybod am ddyddiadau a symiau casglu yn y dyfodol. 

Nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau o ran eich Debyd Uniongyrchol. Os hoffech rewi eich Debyd Uniongyrchol i atal taliadau rhag cael eu casglu yn y dyfodol, cysylltwch â'n tîm ar enquiries@newportlive.co.uk.  Rydym yn deall nawr yn fwy nag erioed y pwysau ariannol y gallech fod yn eu hwynebu a hoffem atgoffa ein cwsmeriaid y byddwn yn fwy na pharod i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn, siaradwch â'n tîm ar 01633 656757 nawr neu pan fyddwch ein hangen yn y dyfodol. 

I'r aelodau hynny y mae eu haelodaeth Debyd Uniongyrchol wedi'u rhewi ar hyn o bryd, oherwydd y pandemig COVID-19 parhaus rydym wedi penderfynu rhewi eich aelodaeth Debyd Uniongyrchol am gyfnod amhenodol sy'n golygu na fyddwn yn casglu unrhyw daliadau Debyd Uniongyrchol yn y dyfodol nes i chi roi gwybod i ni am eich dymuniad i wneud hynny pan fyddwch yn barod i ddychwelyd ac rydym yn cael ailagor.

Aelodau Cyfnod Penodol – 1 Mis, 3 Mis a Blynyddol

I'r aelodau hynny y mae eu haelodaeth Cyfnod Penodol yn fyw ar hyn o bryd, oherwydd cyfathrebiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru a'r ansicrwydd ynghylch pryd y cawn ailagor ein cyfleusterau, rydym wedi penderfynu rhewi eich aelodaeth cyfnod penodol. Pan fyddwn yn cael ailagor byddwn yn ymestyn dyddiad gorffen eich aelodaeth i gwmpasu cyfnod ein cau gorfodol.

I'r aelodau hynny y mae eu haelodaeth Cyfnod Penodol wedi'u rhewi ar hyn o bryd, oherwydd y pandemig COVID-19 parhaus rydym wedi penderfynu rhewi eich aelodaeth cyfnod penodol am gyfnod amhenodol.  Pan fyddwch yn barod i ddychwelyd a'n bod yn cael ailagor byddwn yn fwy na pharod i ddadrewi eich aelodaeth gan ymestyn dyddiad gorffen eich aelodaeth i gwmpasu’r cyfnod rhewi.

 

 

Aelodaeth o'r Rhaglen Nofio a Thenis Integredig

Os oes aelodaeth gennych chi o’r Rhaglen Nofio neu Denis Integredig gyda Casnewydd Fyw, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau, bydd eich aelodaeth yn cael ei rewi yn awtomatig o'r diwrnod yr ydym yn cau. Mae hyn yn berthnasol i aelodau misol, tymor penodol a blynyddol.

Ni fyddwn yn casglu unrhyw daliad debyd uniongyrchol yn ystod y cyfnod y byddwn ar gau.  

Os yw eich aelodaeth wedi ei rhewi pan fyddwn yn gorfod cau, bydd yn parhau felly tan y dyddiad y cytunwyd arno.

 

 

Gwersi Nofio 

Bydd yr holl wersi nofio yn dilyn ein cau ni yn cael eu rhewi ar unwaith a bydd y credydau presennol yn parhau mewn grym nes ein bod yn gallu ailafael yn y gwersi.  Os oes Ddebyd Uniongyrchol gennych ar gyfer gwersi nofio, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau. Ni fyddwn yn casglu unrhyw daliad debyd uniongyrchol yn ystod y cyfnod y byddwn ar gau.  

Os caiff eich aelodaeth ei rhewi pan fyddwn yn gorfod cau, bydd yn parhau wedi ei rewi tan y dyddiad y cytunwyd arno.

 

Archebion a Digwyddiadau a Archebwyd Ymlaen Llaw

Os oedd eich gweithgaredd yn weithgaredd â thâl, byddwn yn trosglwyddo eich archeb i ddyddiad ac amser cyfleus a bydd un o'n tîm yn cysylltu i drafod eich opsiynau. Os yw eich archeb yn rhan o 'archebiad bloc' neu 'ddigwyddiad', unwaith eto bydd un o'n tîm mewn cysylltiad i drafod hyn gyda chi.

Gofynnwn i gwsmeriaid fod yn amyneddgar gyda ni a byddwn mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl, byddwn yn dechrau cyfathrebu â chwsmeriaid y disgwylid eu harchebion, yn ôl trefn dyddiad, o ddechrau’r cyfnod cau.

 

Cadw yn Actif a Chreadigol​​​​​​​

Rydym yn deall pwysigrwydd llesiant, cymryd rhan mewn chwaraeon, gweithgarwch corfforol, ymarfer corff, a chymryd rhan yn y celfyddydau a gweithgarwch creadigol arall a'i fod yn hanfodol i lesiant ein cwsmeriaid, yn enwedig ar yr adeg hon.

Cadwch yn ddiogel a chofiwch aros yn actif a bod yn greadigol tra byddwch gartref.  Byddwn yn rhannu cymaint ag y gallwn yn ddigidol i'ch cefnogi chi gyda hyn, gan gynnwys fideos gan rai o'ch hoff hyfforddwyr.

 

Diolch

Diolch yn fawr i'n holl gwsmeriaid.  Rydym wedi ymrwymo i gadw cwsmeriaid a gweithwyr yn ddiogel ac rydym wedi cyflwyno ein Hymrwymiad Covid-19 i roi tawelwch meddwl i chi wrth ymuno â Chasnewydd Fyw neu ddefnyddio ein gwasanaethau neu gyfleusterau.  Gallwch weld mwy o fanylion yma.

Gan fod Casnewydd Fyw yn sefydliad ac elusen nid er elw, rydym yn ddiolchgar iawn o dderbyn eich cefnogaeth barhaus. Dysgwch sut gallwch chi ein cefnogi yn http://www.casnewyddfyw.co.uk/cy/Amdanom-ni/Cefnogwch-ni/

Parhewch i ddilyn y canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael yn https://llyw.cymru/coronafeirws

Am y newyddion diweddaraf, cadwch lygad ar ein gwefan a @NewportLiveUK ar y cyfryngau cymdeithasol.

Os oes angen i chi gysylltu â ni pan fyddwn ar gau, anfonwch e-bost at enquiries@newportlive.co.uk, defnyddiwch ein gwasanaeth sgwrsio ar ein gwefan neu ffoniwch 01633 656757.