
Mae modd archebu ein cyrtiau awyr agored nawr!
Mae ein cyrtiau tennis awyr agored ar gael i hyd at 4 person o 2 aelwyd ar y mwyaf.
Mae’r cyrtiau wrth ymyl y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd. Mae cyfarwyddiadau ar gael yma.
Gellir archebu cyrtiau am awr rhwng 8am a 6pm ac mae 50 munud yn costio £5.
Bydd angen i chi archebu cwrt ar ein app neu ar ein gwefan
Wedi i chi archebu cwrt, byddwch yn derbyn cod i’ch galluogi i gael mynediad at y cyrtiau.
ARCHEBU CWRT
I gadw cwrt bydd angen cyfrif ar-lein gyda ni arnoch. Ni fydd modd i chi ddefnyddio ein cyrtiau os nad ydych wedi archebu cwrt.
Os oes cyfrif ar-lein gennych neu os ydych wedi derbyn cerdyn Casnewydd Fyw yn y gorffennol, gallwch archebu eich cwrt yma neu ar ein app Casnewydd Fyw.
Os nad oes cyfrif ar-lein gennych, gallwch gofrestru yma
Cliciwch yma i wylio ein fideos â mwy o fanylion ar sut i greu eich app Casnewydd Fyw.
Os oes angen help arnoch gyda’ch cwrt wedi’i archebu cysylltwch ag enquiries@newportlive.co.uk.
CANLLAWIAU COVID-19
Rydym wedi cyflwyno rheolau a chanllawiau newydd i sicrhau bod ein cyfleusterau’n ddiogel i chi a’n staff pan fyddwch yn dychwelyd. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â’r rhain cyn i chi gyrraedd ar gyfer eich sesiwn.
Cliciwch yma i weld ein canllawiau
Telerau ac Amodau Ychwanegol Archebu Cyrtiau a Chanslo
-
I sicrhau ein bod yn cadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol, rhaid archebu cyrtiau ymlaen llaw ar-lein/ar ein app.Gall cwsmeriaid archebu un cwrt y dydd yn unig.
-
Ni ellir ad-dalu costau cyrtiau wedi’u harchebu os byddwch yn canslo eich sesiwn gyda llai na 24 awr o rybudd neu os nad ydych yn dod i’ch sesiwn.
-
Os bydd angen i chi ganslo eich sesiwn e-bostiwch enquiries@newportlive.co.uk
-
Rhaid cadw at y canllawiau Covid-19 sydd wedi eu cyhoeddi.
-
Os na fydd modd cynnal y sesiwn, byddwn yn ei symud i amser mwy addas neu’n rhoi ad-daliad.