Mae Casnewydd Fyw, yr ymddiriedolaeth hamdden flaenllaw yng Nghasnewydd, yn falch o ddatgelu ei safle Gyrfaoedd, ynghyd â lansiad ei ymgyrch recriwtio gyntaf, 'Byddwch yn ysbrydoliaeth'. Wedi'i anelu at hyrwyddo cyfleoedd gyrfa yn y sector hamdden drwy wneud pobl yn ymwybodol o'r amrywiaeth o swyddi sydd ar gael, yn ogystal â'r mentrau/hyfforddiant y mae Casnewydd Fyw yn eu darparu i uwchsgilio a datblygu gweithwyr i symud ymlaen i swyddi uwch ym maes rheoli hamdden, rheoli lleoliadau neu ddod yn arweinwyr ffitrwydd.

Mae'r microwefan drochol hon yn ganolbwynt i archwilio gyrfa, gan gynnig cipolwg ar y gwahanol rolau sydd ar gael yn Casnewydd Fyw, gwybodaeth am ei lwybr gwirfoddol, a bwrdd swyddi deinamig sy'n dangos cyfleoedd cyflogaeth ar draws yr ymddiriedolaeth.

Dwedodd Rebecca, Rheolwr Adnoddau Dynol Casnewydd Fyw "Mae Casnewydd Fyw yn meithrin amgylchedd lle mae unigolion nid yn unig yn dod o hyd i yrfaoedd boddhaus ond hefyd yn cychwyn ar deithiau trawsnewidiol tuag at dwf personol a phroffesiynol. Mae lansio ein safle gyrfaoedd newydd, ynghyd â'r ymgyrch recriwtio 'Byddwch yn Ysbrydoliaeth’, yn tanlinellu ein hymroddiad i ddarparu ystod amrywiol o gyfleoedd. Mae'r fenter ddeuol hon yn adlewyrchu ein cenhadaeth i ysbrydoli a chefnogi pobl ar eu llwybr at lwyddiant.  Yn Casnewydd Fyw ein tîm sy’n ffurfio craidd hanfodol ein helusen, gan gyfrannu at les a bywiogrwydd ein cymuned."

Gyda lansiad safle gyrfaoedd newydd Casnewydd Fyw, mae'r ymgyrch recriwtio 'Byddwch yn Ysbrydoliaeth' wedi'i datgelu. Gan dynnu sylw at gyfleoedd gwaith amrywiol o fewn y sector, mae'r ymgyrch yn pwysleisio effaith gweithlu Casnewydd Fyw ar iechyd a lles cymunedol.  Mae hyfforddwyr ffitrwydd yn ymestyn eu rôl y tu hwnt i'r gampfa, gan ymgysylltu â phobl ifanc a busnesau, tra bod hyfforddwyr nofio nid yn unig yn dysgu sgiliau bywyd ond hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer gyrfaoedd mewn achub bywyd neu yn y byd dŵr. Mae hyn yn cyd-fynd â gweledigaeth Casnewydd Fyw i ysbrydoli pobl i fyw bywdau hapusach ac iachach’.

I archwilio gyrfaoedd a chyfleoedd swyddi yn Casnewydd Fyw, ewch i careers.newportlive.co.uk

Mae Casnewydd Fyw wedi gweithio gyda'r asiantaeth Limegreentangerine o Gaerdydd i ddatblygu'r safle newydd a gyda TreeFrog Designs ar yr ymgyrch.