The wording TigerFace on a blue banner with quotes on the show

Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn llawn cyffro o fod yn cyd-gynhyrchu darn o theatr-gomedi gyda Justin Teddy Cliffe o Gasnewydd yn ddiweddarach y mis hwn. Hwn fydd eu perfformiad stiwdio theatr a chyd-gynhyrchiad cyntaf ers 2020, gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Yn cael ei berfformio ar 21 a 22 Hydref mae The TigerFace Show yn berfformiad-comedi lled fywgraffiadol, rhannol fyrfyfyr am freuddwydion plentyndod, bod yn oedolyn ac iechyd meddwl. Nod y sioe yw ailgyflwyno oedolion i freuddwydion a mympwyon plentyndod a gofyn i ni beth oedden ni wirioneddol eisiau bod wedi i ni dyfu i fyny, gan ein helpu i grynhoi ac ail-ddarganfod hapusrwydd fel hapusrwydd plant a ninnau yn oedolion.

Yn cael ei berfformio fel awr wyllt wirion o gomedi corfforol; mae’r prif gymeriad yn ceisio ail-greu pennod olaf ei gyfres deledu i blant ‘The TigerFace Show’. Yn ymuno ag ef mae pypedau gyda syniadau gofidus ac mae’r perfformiad yn gyflym iawn yn troi’n ddarn sy’n gyfuniad o boen a gorfoledd y bydd y gynulleidfa yn ymateb iddo. 

Wrth sôn am y sioe, dywedodd y crëwr a’r perfformiwr Justin Teddy Cliffe ‘Dechreuodd hon fel sioe gomedi wirion ac anniben yn ymwneud â chael hwyl a breuddwydion.  Mae’n dal i ymwneud â’r pethau hynny, ond rhywsut mae’n teimlo’n bwysicach o lawer nawr. Mewn byd sy’n teimlo yn ychydig yn llwm a rhyfedd mae gorfoledd gwirioneddol i’w gael o ailgysylltu â’r rhyddid â’r natur ddigymell oedd gennym fel plant ac mae The TigerFace Show yn ymwneud â’n herio i wneud mwy o hynny yn ein bywyd bob dydd.’

Er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu mwynhau’r sioe, bydd y ddau berfformiad yn cynnwys is-deitlau, a bydd disgrifiadau sain yn rhan o’r sioe. Bydd y perfformiad ar ddydd Gwener 22 Hydref hefyd yn cael ei dehongli drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain. Yn ogystal â chael ei pherfformio’n fyw yng Nglan yr Afon, mae cyfle i gynulleidfaoedd ddewis mwynhau’r sioe yn fyw o’u cartrefi drwy brynu tocyn ffrydio byw.

Mae Glan yr Afon wedi ymrwymo i gefnogi a chydweithio â chwmnïau a pherfformwyr lleol ac mae’n gweithio ar un cyd-gynhyrchiad yn y stiwdio bob tymor. Mae cyd-gynyrchiadau blaenorol y lleoliad yn cynnwys Gods & Kings yn Hydref 2019 gyda Four in Four Productions, a Microwave gyda Run Amok ym mis Mawrth 2020 y bu rhaid ei ganslo yn anffodus oherwydd pandemig covid-19.

Dywedodd Leah Roberts, Cynorthwyydd Rhaglennu Glan yr Afon ‘Mae artistiaid a pherfformwyr ategol yn ganolog i bopeth a wnawn yma yng Nghlan yr Afon ac mae’r tîm cyfan mor gyffrous i fod yn ôl yn cyd-gynhyrchu theatr newydd sbon ac unigryw. Mae hwn yn ddarn teimladwy ac amserol gan fy mod yn meddwl bod llawer o bobl wedi cael trafferthion gyda’u hiechyd meddwl un ffordd neu’r llall dros y deuddeg mis diwethaf, ac rydw i’n siŵr bod llawer o’n cynulleidfa wedi defnyddio’r cyfnod hwn i fyfyrio ar eu plentyndod a’r gorffennol.

Rydym yn edrych ymlaen yn arw at groesawu cynulleidfaoedd yn ôl i’r stiwdio ac i fwynhau’r darn o theatr ardderchog hwn gan grŵp o artistiaid lleol profiadol.’

Mae tocynnau ar gyfer The TigerFace Show yn fyw yng Nglan yr Afon ac yn cael ei ffrydio’n fyw o Lan yr Afon ar gael gan casnewyddfyw.co.uk neu drwy ffonio 01633 656757. Mae pris y tocynnau yn amrywio o £5 - £12 Bydd y sioe yn edrych ar themâu'n ymwneud â phlentyndod, alcohol ac iechyd meddwl a chan hynny mae wedi’i chyfyngu i oedran 14+.