
O 9.30am fore Llun 20 Gorffennaf, bydd Casnewydd Fyw yn lansio amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd awyr agored. Yn dilyn adborth gan gwsmeriaid a staff, cyflwynwyd amserlen gyfyngedig yn cynnwys swmba, pwysau tegell, ioga a pilates.
Rhaid archebu dosbarthiadau o flaen llaw drwy wefan Casnewydd Fyw neu ap Casnewydd Fyw am gost o £4.50 y pen. Am y tro, bydd aelodaeth cwsmeriaid yn parhau wedi rhewi oherwydd mai darpariaeth rannol sydd ar gael ar hyn o bryd. Cynhelir sesiynau ar y cyrtiau tennis yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd a bydd yn ofynnol i gwsmeriaid ddilyn canllawiau Covid-19 ychwanegol er mwyn sicrhau diogelwch hyfforddwyr a chwsmeriaid.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn dweud y caniateir cynnal dosbarthiadau ffitrwydd yn yr awyr agored ar gyfer hyd at 30 o bobl bellach. Mae hefyd yn dilyn agor cyrtiau tenis awyr agored Casnewydd Fyw yr wythnos diwethaf.
Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw: "Gan fod ymarfer corff mor hanfodol i'n lles meddyliol a chorfforol, yn enwedig yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn, rydym mor falch ein bod yn gallu ailgyflwyno rhai o'n dosbarthiadau mwy poblogaidd a chroesawu rhai o'n cwsmeriaid a'n hyfforddwyr yn ôl. Rydym wedi cymryd rhagofalon ac wedi cyflwyno canllawiau newydd i sicrhau bod ein hardaloedd a'n hoffer awyr agored yn cynnig amgylchedd diogel i'n cwsmeriaid ymarfer a chefnogi eu hiechyd a'u lles."
Cyflwynwyd y dosbarthiadau awyr agored yn dilyn cau adeiladau Casnewydd Fyw dros 100 diwrnod yn ôl. Er y defnyddiwyd eu cyfleusterau i ddarparu hyfforddiant ar gyfer athletwyr elît Cymru a rhaglen adsefydlu gyntaf ôl COVID-19 Cymru, buont ar gau i'r cyhoedd ers mis Mawrth.
I gwsmeriaid nad ydynt yn dymuno cymryd rhan mewn dosbarthiadau awyr agored, mae Casnewydd Fyw hefyd wedi bod yn rhannu gweithgareddau ac ymarferion ar eu gwefan i helpu eu cwsmeriaid i ymarfer gartref. Maent hefyd yn cynnig treial 30 diwrnod am ddim i gwsmeriaid ar ddosbarthiadau ffitrwydd ar-lein Les Mills.