Mae tocynnau nawr ar werth ar gyfer Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol Prydain 2022 yng Nghasnewydd, a gynhelir rhwng 3 a 6 Mawrth, gyda phrisiau’n dechrau am £5.

Bydd y digwyddiad, sy'n cael ei gynnal yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, yn gweld beicwyr trac gorau Prydain yn brwydro am jyrsis y pencampwyr cenedlaethol, gyda phencampwyr diweddar yn cynnwys enillwyr medalau aur Olympaidd Tokyo Katie Archibald, Jason Kenny a Laura Kenny.

Bydd tocynnau eistedd i’r digwyddiad yn amrywio o £10 - £15 y sesiwn, gyda thocynnau sefyll hefyd ar gael am £5 - £10. Mae prisiau consesiynol ar gael i'r rhai dan 16 oed neu dros 65 oed, tra bod cynigion pellach yn cynnwys tocyn diwrnod eistedd am £20 a thocyn penwythnos llawn am £45.

Rhys Britton o Bontypridd yw pencampwr cenedlaethol y ras bwyntiau, a chyrhaeddodd y llwyfan seiclo trac rhyngwladol y llynedd gyda medal efydd yn y ras safonol ym Mhencampwriaethau Beicio Trac yr UCI yn Roubaix. Dywedodd:

"Mae'n wych gweld digwyddiad mor fawreddog yn mynd i Gymru, gan roi cyfle i lawer o feicwyr a chefnogwyr wylio beicio trac o'r radd flaenaf yn fyw am y tro cyntaf.

"Ar ôl blwyddyn fawr yn 2021 rwy'n edrych ymlaen at amddiffyn fy nheitl cenedlaethol o flaen torf gartref a dechrau'r flwyddyn yn gryf, wrth i mi adeiladu tuag at Gemau'r Gymanwlad yr haf."

Gan wella statws y ddinas ymhellach fel cyrchfan ar gyfer diwylliant, hamdden a chwaraeon, bydd beicwyr yn sicr o gael croeso cynnes, a fwynhawyd gan lawer o feicwyr Tîm Beicio Prydain Fawr yn flaenorol wrth reidio yn y lleoliad yn ystod eu gwersylloedd Olympaidd a Pharalympaidd cynhaliol.

Dwedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd:

"Mae Cyngor Dinas Casnewydd a Chasnewydd Fyw yn falch bod digwyddiad mor fawreddog yn cael ei gynnal yn un o'r lleoliadau chwaraeon blaenllaw yn ein dinas.

"Rwy'n siŵr y bydd trigolion ymhlith y rhai sy'n rhuthro i gael tocynnau i wylio rhai o feicwyr gorau'r byd wrthi fis nesaf."

Bydd y mesurau lliniaru Covid sydd ar waith yn y digwyddiad yn cael eu cadarnhau maes o law.

I gael gwybod mwy a phrynu tocynnau, cliciwch yma.

Dydd Gwener 4 Mawrth

  • Dydd (11:00 – 17:00): £10 eistedd, £5 sefyll

  • Gyda’r nos (19:00 – 23:00): £15 eistedd, £10 sefyll

Prynu Tocynnau

Dydd Sadwrn 5 Mawrth

  • Dydd (09:00 – 17:00): £10 eistedd, £5 sefyll

  • Gyda’r nos (19:00 – 22:00): £15 eistedd, £10 sefyll

Prynu Tocynnau

Dydd Sul 6 Mawrth

  • Bore (8:30 – 12:40): £10 eistedd, £5 sefyll

  • Prynhawn (13:30 – 18:00): £15 eistedd, £10 sefyll

Prynu Tocynnau

Bwndeli

  • Tocyn diwrnod eistedd (y ddwy sesiwn): £20

  • Tocyn penwythnos llawn:  £45

Prynu Tocynnau

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Canllawiau COVID-19

Pàs COVID-19

Os ydych yn 18 oed neu’n hŷn, bydd gofyn i chi gyflwyno eich statws Covid pan fyddwch yn dod i’r ganolfan, yn un o’r dulliau canlynol:

  • Trwy bàs Covid digidol y GIG - https://gov.wales/get-your-nhs-covid-pass. Os na allwch ddefnyddio pàs Covid digidol y GIG, gallwch ofyn am un trwy ffonio 0300 303 5667

  • Fersiwn bapur o bàs Covid y GIG – nid yw hyn yn cynnwys cardiau brechu

  • Cadarnhad o ganlyniad prawf negatif trwy e-bost neu neges destun a ddarparwyd gan gov.uk (dim hŷn na 48 awr)

  • Cadarnhad o brawf positif o fewn y 6 mis diwethaf a ddilynwyd gan y cyfnod priodol o ynysu h.y. 10 diwrnod) - gellir dangos tystiolaeth o hyn yn y Pàs Covid neu drwy neges destun neu e-bost

Tracio, Olrhain, Diogelu

At ddibenion Tracio, Olrhain, Diogelu dylech gofrestru eich presenoldeb yn y lleoliad trwy sganio'r codau QR wrth ein mynedfa.

Gorchuddion Wyneb

Mae gorchuddion wyneb yn orfodol ar gyfer unrhyw wylwyr sy’n 11oed neu’n hŷn oni bai eich bod wedi'ch eithrio. Gofynnir i chi ddangos tystiolaeth o’ch eithriad.

 

Teithio a Pharcio

Bydd lle parcio cyfyngedig ar gael yn Felodrom Genedlaethol Cymru Geraint Thomas a Stadiwm Casnewydd.

Ceir rhagor o fanylion am gyrraedd y lleoliad a hygyrchedd yma