Llwybr Camau Achredu

Gwnewch eich ffordd o fod yn Ddechreuwr i Gam 4 neu fynd cyn belled ag y dymunwch; mae gennym sesiynau galw heibio ar gyfer pob cam.

1

Cyflwyniad i’r Trac Cam 1

Cyflwyniad gwych i feicio trac i ddechreuwyr 14+ oed; dim angen profiad blaenorol. Caiff beicwyr gyfarwyddyd llawn ar sut i reoli’r beic olwynion sefydlog a sut i feicio ar y trac pren serth.

2

Cam 2

Ar gyfer beicwyr sydd wedi gorffen Cam 1 ac sy'n barod i symud ymlaen i sgiliau a thechnegau mwy datblygedig ar y trac, megis marchogaeth grŵp a newidiadau llinell.

3

Cam 3

Ar gyfer beicwyr sy'n barod i symud ymlaen i sgiliau a thechnegau mwy datblygedig ar y trac, mae'r cam hwn yn canolbwyntio ar fireinio reidio grŵp ac yn cyflwyno driliau amrywiol i herio beicwyr o ran sgiliau a ffitrwydd.

4

Cam 4

Mae'r sesiwn hon yn cael ei chynnal ychydig o weithiau gydol y flwyddyn i ganiatáu i feicwyr ganolbwyntio ar y sgiliau a enillwyd mewn camau blaenorol ac mae hefyd yn cynnwys amser y tu ôl i'r beic Derny.

Camau Achredu

Sesiynau wythnosol i feicwyr sy'n awyddus i gael eu hachredu.

Cam Cyflwyniad Trac Oedolion 1+

Dydd Gwener: 5 - 6pm
Dydd Mawrth: 9 - 10pm
Dydd Sul: 4 - 5pm
Cost: £20 sy’n cynnwys llogi beic ac esgidiau.

Archebwch Nawr

Oedolion Cam 2 a 3

Dydd Llun: 7 - 8.30pm

Cost: £20 sy’n cynnwys llogi beic ac esgidiau.

(Gall beicwyr 14+ oed archebu'r sesiwn hon.)

Archebwch nawr

Oedolion Cam 4

Ffoniwch 01633 603094 neu anfonwch e-bost at customerservice@newportlive.co.uk i gael y dyddiadau achredu rasio.

Cost: £30 - rhaid i'r beicwyr ddod â'u beic eu hunain.

 

Cofiwch, bydd rhaid i hyfforddwr cam blaenorol neu sesiynau galw heibio gymeradwyo beicwyr os ydynt am gael prawf achredu. Nid yw’n bosibl mynychu sesiynau achredu heb hyn.

Dylai beicwyr sydd â chwestiynau am y broses achredu, neu feicwyr sydd â phrofiad Felodrom awyr agored ac sydd am feicio dan do, gysylltu â ni ar 01633 656757 a gofyn am y Tîm Beicio.

Oes gennych chi gwestiwn am ein llwybr?

Cymerwch olwg ar atebion i rai o'n cwestiynau mwyaf cyffredin.

Cwestiynau Cyffredin

Sesiynau Galw Heibio ar gyfer Beiciwyr sy’n Oedolion

Mae tair sesiwn yn addas i feicwyr 14 oed a hŷn. Mae’n bosibl cadw lle mewn sesiynau 7 diwrnod ymlaen llaw.

Os oes gennych gyfrif ar-lein Casnewydd Fyw, archebwch sesiynau ar-lein gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Neu gallwch ein ffonio ar 01633 656757 neu anfon e-bost atom yn customerservice@newportlive.co.uk

SESIYNAU AGORED

Beicwyr Bendigedig

Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at feicwyr sy'n chwilio am sesiwn dygnwch gydag awyrgylch mwy hamddenol.

(Mae'n rhaid i feicwyr fod yn 14+ oed i archebu'r sesiwn hon.)

Dydd Llun: 2-4pm
Cost: £13.50

Archebwch Nawr

Trac Para Agored

Ar gyfer unigolion sydd am roi cynnig ar feicio trac am y tro cyntaf a beicwyr profiadol sydd eisiau amser penodol ar y trac er mwyn hyfforddi.

Dydd Gwener: 2 - 4pm
Cost: £13.50

Archebwch Nawr

CAM 2+

Sesiwn Galw Heibio Cam 2+

Sesiwn hyfforddi dygnwch dan arweiniad hyfforddwr sy'n canolbwyntio ar wella dygnwch reidiwr gan ddefnyddio ymdrechion unigol a gweithgareddau grŵp.

Dydd Llun: 8.30 - 10pm

Cost: £13.50

Archebwch Nawr

Beicwyr Bendigedig

Ar gyfer beicwyr sydd am wella eu sgiliau a'u ffitrwydd cyn symud ymlaen yn eu hachrediad trac, sesiwn ddelfrydol sy'n canolbwyntio ar gyfuniad o ymarferion adeiladu sgiliau a hyfforddiant ffitrwydd wedi'i deilwra ar gyfer eu lefel bresennol.

Dydd Mawrth: 7 - 9pm

Cost: £13.50

Archebwch Nawr

Sesiwn Galw Heibio Amser Cinio Cam 2+

Sesiwn hyfforddi dygnwch dan arweiniad hyfforddwr.  Er bod y ffocws ar ymdrechion dygnwch, mae croeso i sbrintwyr ymuno a gallant deilwra eu hymdrechion i gyd-fynd â strwythur hyfforddiant cyfwng y sesiwn. 

Dydd Ian: 12 - 2pm

Cost: £13.50

Archebwch Nawr

Cam 3+

Sesiwn Galw Heibio Amser Cinio Cam 3+

Sesiwn hyfforddi dygnwch dan arweiniad hyfforddwr.  Er bod y ffocws ar ymdrechion dygnwch, mae croeso i sbrintwyr ymuno a gallant deilwra eu hymdrechion i gyd-fynd â strwythur hyfforddiant cyfwng y sesiwn. 

Dydd Mawrth: 12 - 2pm

Cost: £13.50

Archebwch Nawr

Sesiwn Galw Heibio’r Bore

Mae'r sesiwn yn canolbwyntio ar ddygnwch ac ymdrech dwyster uchel. Anogir beicwyr i berfformio i’w heithaf a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl trwy waith dygnwch parhaus a chyfyngau hyfforddi dwys.

(Bydd sesiynau Derny ar gyfer beicwyr brwd yn cael eu trefnu yn ystod wythnos olaf pob mis.)

Dydd Mercher: 7 - 9pm

Cost: £13.50

Archebwch Nawr

Hyfforddiant Ansawdd Strwythuredig

Sesiwn dygnwch lefel uchel sy'n cynnig dull strwythuredig o wella dygnwch trwy ymdrechion unigol a hyfforddiant dwyster uchel a fydd yn gwthio beicwyr i'w heithaf.

Dydd Mercher: 9 - 10pm

Cost: £13.50

Archebwch Nawr

Clwb Beicwyr Hŷn

Sesiwn hyfforddi ar gyfer dynion 30 oed a hŷn a menywod o unrhyw oed a fydd yn canolbwyntio ar ymdrechion dycnwch gyda rhai ymdrechion dwys.

Mae croeso i sbrintwyr gwblhau ymdrechion yn ystod yr egwyl.

Dydd Gwener: 6 - 8pm

Cost: £13.50

Archebwch Nawr

Beicio Trac i Bobl Ifanc

Mae gennym ystod o sesiynau ar gyfer plant 9 i 15 oed i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau a mynd ar y trac.

Mwy o wybodaeth