Sesiynau Beicio Trac Ieuenctid Gwyliau'r Haf
Rydym yn cynnal ystod o sesiynau Beicio Trac Ieuenctid AM DDIM yn ystod gwyliau'r haf i blant 9- 14 oed gan gynnwys sesiynau Sgiliau Trac Ieuenctid 9 Oed+, Blasu Trac a Gwersylloedd Trac 1+.
Mwy o WybodaethTreio’r Trac Ieuenctid
Mae Sesiynau Treio’r Trac Ieuenctid yn ffordd hwyliog a chyflym i gael blas ar feicio trac, beic olwyn sefydlog, a reidio ar oleddf 42 gradd wrth i chi drio gwibio ar hyd y trac.
Ffordd ddelfrydol o roi cynnig ar feicio trac cyn dechrau'r Cwrs Dechreuwyr Ieuenctid 4 wythnos ar fore Sadwrn.
Dydd Llun: 5 - 6pm
Cost: £15
Cwrs Dechreuwyr Ieuenctid 4 Wythnos
Cyflwyniad i ddisgyblaeth gyffrous Beicio Trac i blant 10 i 14 oed mewn amgylchedd diogel a strwythuredig, gyda hyfforddwr cymwys a chyfeillgar.
Dim ond 10 beiciwr sy’n cael eu caniatáu ymhob sesiwn, sy’n sicrhau y cewch fanteisio ar gymorth a hyfforddiant neilltuol i’ch helpu i wibio ar hyd y trac!
Bydd cwblhau’r cwrs yn caniatáu’r beicwyr wedyn i fynd i’r Sesiynau Galw Heibio Ieuenctid ar foreau Sadwrn.
Dydd Llun: 6 - 7pm
Cost: £37.50 sy’n cynnwys llogi beic.
Mae'r Cwrs Dechreuwyr Ieuenctid 4 Wythnos nesaf yn dechrau ar 23 Mai.
Archebwch NawrSesiynau Galw Heibio Ieuenctid Lefel 2 a 3
Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar ffitrwydd a dygnwch, HIIT a rhai sgiliau rasio.
Dydd Mawrth: 5:30 - 7pm
Cost: £6.30, nid yw’n cynnwys llogi beic.
Cynghrair y Trac (Cynghrair Ieuenctid)
Ar gyfer beicwyr sydd yn dechrau ar eu gyrfa beicio yn y categorïau dan 14 a dan 16. Mae’n bosibl y gallai beicwyr dan 12 oed gael eu hachredu a chofrestru ar gyfer y Gynghrair Ieuenctid mewn amgylchiadau eithriadol.
Cynhelir y sesiynau o fis Hydref tan fis Chwefror, bob yn ail ddydd Mawrth Edrychwch ar y dudalen Beth Sy’ Mlaen am fanylion.
Ar gyfer beicwyr ag achrediad Cam 4 yn unig.
Cost: £10 y sesiwn neu £90 am floc o ddeg sesiwn.
Archebwch drwy ddefnyddio'r ddolen isod, ffoniwch 01633 656757 neu anfonwch e-bost at [email protected].
Yn dychwelyd yn Hydref 2022!Sgiliau Trac Ieuenctid 9+ oed
Wedi’i anelu at blant sy'n awyddus i roi cynnig ar feic olwynion sefydlog a datblygu eu sgiliau beicio trac.
Dydd Sadwrn: 9 - 10am
Cost: £6.30 sy’n cynnwys llogi beic.
Sesiwn Galw Heibio Ieuenctid - Pob Gallu
Bydd sesiynau’n gweithio gyda beicwyr sydd eisiau gwella eu ffitrwydd a magu eu hyder ar yr olwyn a mireinio’u sgiliau ac yn rhoi cyflwyniad i grefft rasio ar lefel mynediad.
Sesiwn gallu cymysg lle bydd beicwyr yn cael eu rhannu’n grwpiau llai yn ôl lefel/gallu.
Dydd Sadwrn: 10am - 1pm
Cost: £6.30, nid yw’n cynnwys llogi beic.
Rhowch Feicio Trac fel Rhodd
Mae Beicio Trac yn anrheg wych i'r beiciwr brwd yn eich bywyd. Mae gennym amrywiaeth o brofiadau beicio trac fel anrhegion.
gweld anrhegion